Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
Mae'r rôl hon yn gyfrifol am hyrwyddo partneriaeth Merthyr/Canolfan Mileniwm Cymru i breswylwyr Merthyr. Bydd y rôl yn gyfrifol am recriwtio cyfranogwyr ar gyfer y rhaglen. Bydd y rôl yn gweithio gyda phob sefydliad partner ac yn gweithio'n uniongyrchol gyda'r Cynhyrchydd - Partneriaeth Merthyr/Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd angen cael cydberthynas gref â Merthyr a gallu dechrau meithrin cydberthnasau ag unigolion a sefydliadau sy'n gweithio ledled y fwrdeistref ar unwaith. Bydd angen cydweithio'n agos ag adrannau cyfathrebu pob partner. Gall y rôl gynnwys dulliau traddodiadol o gyfathrebu neu greu digwyddiadau ar lawr gwlad gyda chyfranogwyr a sefydliadau posibl. Bydd y Cynhyrchydd Recriwtio hefyd yn gyfrifol am sicrhau bod ei amcanion a'i weithgarwch yn cael eu gwerthuso a'u monitro drwy gydol y broses yn ôl gofynion yr holl bartneriaid a'r arianwyr.
Yn ddyddiol, bydd y rôl hon yn adrodd i Bennaeth Arloesedd ac Ymgysylltu Canolfan Mileniwm Cymru, ond yn y pen draw bydd yn atebol i'r holl bartneriaid drwy grŵp llywio gweithredol misol.
Bydd y rôl yn gweithio mewn cydweithrediad â'r Cynhyrchydd – Partneriaeth Merthyr/Canolfan Mileniwm Cymru a chaiff ei chefnogi gan y Cynorthwyydd Prosiectau Creadigol a'r Celfyddydau – Partneriaeth Merthyr/Canolfan Mileniwm Cymru.
Am fwy o fanylion am y rôl a fwy o fanylion am ein buddion staff cystadleuol, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/buddion-staff
Proses Ymgeisio:
- Ewch https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/swyddi-gwag ac adolygu'r nodiadau canllaw i wneud cais am y rôl (mae'r ddogfen hon yn cynnwys Gwerthoedd Canolfan y Mileniwm).
- Llenwch y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Adolygu'r Proffil Rôl ar gyfer y swydd a lawrlwytho ffurflen glawr y Ganolfan.
- Anfonwch eich CV a'ch Ffurflen Clawr wedi'i llenwi at recriwtio@wmc.org.uk
Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.