- Cyflog: £17,290 y flwyddyn, telir yn fisol
- Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos, o Ddydd Llun i Ddydd Gwener rhwng 9 – 4.30 fel arfer, ond bydd CCIC yn gweithio’n aml ar y penwythnos yn ystod cyfnodau clyweliadau a chyrsiau preswyl. Cei amser i ffwrdd am unrhyw oramser y byddi’n ei weithio.
- Cytundeb: Mae hwn yn gytundeb cyfnod penodol am 14 mis
- Dyddiad cau: Hanner Dydd ar Ddydd Llun 7 Rhagfyr 2020
Cynigir y swydd hon fel rhan o ymrwymiad Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru i annog mwy o bobl ifanc o amrywiol gefndiroedd i ystyried gyrfa yn y diwydiannau creadigol. Mae’r rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant yn gytundeb cyfnod penodol am bedwar mis ar ddeg o ddyddiad y penodiad ac mae wedi ei anelu’n benodol at raddedigion diweddar o brifysgolion Cymru sydd o gefndiroedd incwm isel sy’n anelu i gychwyn gyrfa yn y celfyddydau. Mae rhaid hefyd ichi fod dan 25 oed ar adeg eich penodi.
Mae’r rôl Cynhyrchydd dan Hyfforddiant wedi ei anelu’n benodol at raddedigion diweddar o brifysgolion Cymru sydd o gefndiroedd incwm isel sy’n anelu i gychwyn gyrfa yn y celfyddydau. Mae rhaid hefyd ichi fod dan 25 oed ar adeg eich penodi.
Cymhwysedd
Bydd rhaid iti:
- Fod wedi graddio o dy gwrs gradd cyntaf yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf h.y. 2019 neu 2020 yn unig (nid oes lleiafswm gradd angenrheidiol) a;
- Bod o dan 25 oed ar adeg dy benodi a;
- Bod wedi derbyn benthyciad cynhaliaeth llawn trwy gydol cyfnod dy radd a bod â’r gwaith papur i gadarnhau hyn a;
- Bod yn breswylydd amser llawn o’r DU.
Cofia wneud yn siŵr ein bod yn derbyn dy gais, yn un o’r ddau fformat, erbyn 12pm ar Ddydd Llun 7 Rhagfyr trwy ei anfon at nyaw@nyaw.org.uk. Os byddi angen mwy o wybodaeth cyn ymgeisio, mae croeso iti ein e-bostio ar yr un cyfeiriad e-bost. Rydym wastad yn hapus i ddarparu gwybodaeth bellach neu gael sgwrs anffurfiol os oes angen.
Unwaith ichi e-bostio eich ffurflen gais, gwasgwch ar y ddolen isod i gwblhau ein ffurflen Cyfle Cyfartal ar-lein. Cedwir hon ar wahân i’ch cais, a bydd yn ein helpu i fesur cyrhaeddiad ein hysbysebion swyddi.
Website: https://www.ccic.org.uk/cyfle-gwaith-cynhyrchydd-dan-hyfforddiant