Cynhyrchydd Cynorthwyol – Cynyrchiadau

Cyflog
£27,623 – £30,610 y flwyddyn
Location
Bae Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
05.12.2025
Profile picture for user WalesMillenniumCentre

Postiwyd gan: WalesMillenniu…

Dyddiad: 21 November 2025

Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.

Teitl y Rôl: Cynhyrchydd Cynorthwyol – Cynyrchiadau

Cyflog: £27,623 – £30,610 y flwyddyn

Oriau Gwaith: 35 awr yr wythnos

Math o Gytundeb: Parhaol

Dyddiad Cau: 5/12/2025

Dyddiad Cyfweld: I’w gadarnhau

Mae CMC yn gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.

Amdanom ni/Ein Hadran:

Mae CMC yn creu gwaith gydag artistiaid ar draws llwyfannau ffisegol, digidol a rhithwir. Rydym yn cefnogi, datblygu a chynhyrchu gwaith ar wahanol raddfeydd ac amrywiaeth o ffurfiau, o theatrau lefel canolig i osodiadau realiti estynedig (AR), sioeau cerdd ar raddfa fawr a chynyrchiadau ymdrochol. Rydym yn dymuno adrodd straeon rhyfeddol mewn ffyrdd rhyfeddol.

Mae ein fframwaith cynhyrchu wedi'i wreiddio mewn cefnogi artistiaid gydag adnoddau ffisegol a dynol, gan fuddsoddi amser ac arian mewn rhyngweithiadau dilys sy'n creu'r gofod a'r amodau y gall artistiaid dyfu a ffynnu ynddynt.

Ynglŷn â’r Rôl a’r Cyfrifoldebau

Rydym yn chwilio am Gynhyrchydd Cynorthwyol sy'n siarad Cymraeg i ymuno â'n tîm cynhyrchu a chefnogi datblygiad a chyflawniad rhaglen waith feiddgar, gynhwysol ac amrywiol. Dyma gyfle cyffrous i weithio wrth wraidd sefydliad celfyddydol mawr, gan gefnogi prosiectau sy'n cwmpasu perfformiadau byw, profiadau ymdrochol, ymgysylltu cymunedol, a mwy.

Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sy'n angerddol am y celfyddydau, ac sy’n berchen ar sgiliau trefnu cryf a meddylfryd cydweithredol.

Rydym yn cydnabod bod llawer o bobl yn profi rhwystrau i weithio yn y celfyddydau ac mae'n bwysig bod y gwaith a grëwn yn adlewyrchu bywiogrwydd ac amrywiaeth y byd yr ydym yn byw ynddo.

Rydym yn dymuno annog pobl o amrywiaeth o gefndiroedd, gyda gwahanol brofiadau a sgiliau i ymuno â ni a pharhau i ddatblygu ein harferion gwaith.

Gall eich rôl fod yn amodol ar wiriad DBS.

Gofynion Allweddol

Rydym yn chwilio am rywun sydd: ·

  • yn drefnus ac yn rhagweithiol, ac sy’n berchen ar sgiliau gweinyddol cryf
  • yn gyfathrebwr gwych, sy’n gallu meithrin perthnasoedd ag artistiaid, timau a phartneriaid
  • yn angerddol am y celfyddydau, gydag ymrwymiad i sicrhau tegwch, amrywiaeth a chynhwysiant
  • yn chwilfrydig ac yn greadigol, ac yn awyddus i gyfrannu syniadau a dysgu trwy wneud.

Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i weithio oriau anghymdeithasol, gan gynnwys gyda'r nos a phenwythnosau, lle bo angen hynny ar gyfer y rôl.


Beth Sydd Ynddo i Chi?

  • 25 diwrnod o wyliau blynyddol ynghyd â gwyliau banc, yn seiliedig ar wythnos 35 awr, pro rata ar gyfer rhan amser.·Cynllun pensiwn sy’n uwch na’r statudol
  • Gwell absenoldeb mamolaeth, tadolaeth, mabwysiadu, a rhiant a rennir (yn amodol ar hyd gwasanaeth)
  • Cynllun arian iechyd: derbyn arian tuag at ofal deintyddol ac optegol, triniaethau cyflenwol megis triniaethau ceiropracteg, osteopathig ac aciwbigo
  • Aelodaeth Cymorth Feddygol sy'n cynnwys mynediad o bell at Feddyg Teulu, cwnsela, a sesiynau ffisiotherapi
  • Rhaglenni cymorth i weithwyr sy'n cynnwys mynediad at wasanaethau cymorth ar gyfer pryderon cyfreithiol, ariannol a theuluol
  • Yswiriant bywyd o 4 x cyflog blynyddol
  • Cyfle i wneud cais am docynnau ar gyfer cynyrchiadau
  • CLWB – ein grŵp cymdeithasol ar gyfer cyflogeion
  • NEWID – ein grŵp rhwydweithio Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant sydd yn cwrdd yn fisol i drafod syniadau newydd a chyfleoedd hyfforddi i wella pob agwedd ar gyflogaeth yn y Ganolfan
  • Gwersi Cymraeg am ddim ar lein
  • Parcio am £5 am ddiwrnod cyfan ar ddiwrnodau gwaith a phan nad ydych yn gweithio
  • Wythnos waith 35 awr gan gynnwys polisi oriau hyblyg i gynorthwyo gydag amseroedd cychwyn a gorffen amrywiol o amgylch ymrwymiadau personol ac anghenion gweithredol.

Yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, mae ein hymrwymiad i amrywiaeth a chynhwysiant yn mynd y tu hwnt i eiriau; mae’n agwedd sylfaenol sy’n llywio ein gweithredoedd. Gan gadw at yr egwyddorion a amlinellir yn Adran 158 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010, rydym yn mynd ati’n frwd i gymryd camau positif yn ein prosesau recriwtio a dethol. Gan gydnabod y diffyg cynrychiolaeth o grwpiau penodol o fewn ein gweithlu, yn enwedig unigolion ag anableddau a’r rheini o gefndiroedd Du, Asiaidd ac ethnig amrywiol, rydym wedi rhoi mesurau rhagweithiol ar waith i fynd i’r afael â’r gwahaniaeth hwn.

Trwy ein hymagwedd gweithredu positif, bydd ymgeiswyr ar gyfer y rolau a hysbysebir gennym, sydd o'r grwpiau hynny sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ac sy'n bodloni'r meini prawf gofynnol a nodir yn y proffil rôl, yn cael eu rhoi ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliad. Mae ein hymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i fodloni rhwymedigaethau cyfreithiol. Ein nod yw meithrin gweithle sy'n wir croesawu amrywiaeth gyfoethog ein cymdeithas hollgynhwysol.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.