Cynhyrchydd Cynnwys Digidol - Rhan amser

Cyflog
£27,300 pro rata y flwyddyn
Location
Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
16.02.2025
Profile picture for user Welsh National Opera

Postiwyd gan: Welsh National Opera

Dyddiad: 9 February 2025

Mae WNO yn rhannu grym opera a cherddoriaeth glasurol fyw gyda chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio mewn lle creadigol a llawn ysbrydoliaeth ac yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hollbwysig wrth symud ymlaen â'n blaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.

Rydym yn awyddus i benodi Cynhyrchydd Cynnwys Digidol sy'n gyfrifol am gynllunio, datblygu a chreu cynnwys digidol, gweithio â chydweithwyr ar draws y Cwmni i gynrychioli ehangder gwaith WNO, i'w ddefnyddio ar ein sianelu digidol sy'n gwasanaethu cynulleidfaoedd ac ar draws ymgyrchoedd marchnata a'r cyfryngau er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd newydd a phresennol a gwella ein hymwybyddiaeth brand.

Beth fydd yn ddisgwyliedig ohonoch?

  • Cynllunio a datblygu amrywiaeth o asedau digidol mewnol o ansawdd, yn cynnwys gifs, delweddau, ffotograffiaeth a fideo i gael eu defnyddio ar draws WNO a sianeli'r lleoliad a chefnogi cyfathrebiadau ac ymgyrchoedd marchnata.
  • Gweithio fel aelod rhagweithiol o'r tîm marchnata i sicrhau y bodlonir yr holl dargedau a Dangosyddion Perfformiad Allweddol, a bod yr ymgyrchoedd yn llwyddiannus.
  • Golygu delweddau a ffilm y cynnwys yn ôl yr angen.
  • Cynorthwyo gyda rheoli'r gwaith o gynhyrchu rhagluniau'r ffilm a'r brif ffilm, a chyfathrebu briffiau cynnwys ac adborth i asiantaethau, cynhyrchwyr sain ac aelodau tîm, gan sicrhau bod terfynau amser yn cael eu bodloni.
  • Goruchwylio ffotograffiaeth ar gyfer holl gynnwys a gohebiaeth WNO, rheoli sesiynau tynnu lluniau gyda chyflenwyr 3ydd parti, ysgrifennu a chyfathrebu briffiau gyda rhanddeiliaid mewnol ac allanol WNO, yn cynnwys y cyfarwyddwyr, a chysylltu â ffotograffwyr. Dewis delweddau, ar y cyd â'r tîm marchnata a chyfathrebu ehangach, i'w ddefnyddio at dibenion hyrwyddo.
  • Cefnogi'r Swyddog Cyfathrebu Marchnata Digidol i annog ymwelwyr i'r wefan, ymgysylltiad â’r cyfryngau cymdeithasol a gwerthiant tocynnau ar draws ein llwyfannau digidol sy’n cynrychioli amrediad gweithgarwch ac adrannau WNO.
  • Gweithio gyda’r Pennaeth Marchnata a Digidol a’r Swyddog Cyfathrebu Marchnata Digidol i sicrhau bod gwefan WNO yn gwneud y gorau o’i photensial Optimeiddio Peiriannau Chwilio (SEO).

Beth fydd ei angen arnoch chi?

Sgiliau, gwybodaeth a phrofiad:

  • Profiad amlwg o gynllunio a chreu cynnwys digidol rhagorol
  • Profiad o weithio’n olygyddol a chyda thimau technegol a dylunio digidol i gyfathrebu cynnwys
  • Profiad o ddenu cynulleidfaoedd at gynnwys newydd drwy lwyfannau cymdeithasol
  • Sgiliau cyfathrebu a rheoli pobl
  • Hyderus wrth reoli cyflenwyr a chysylltiadau allanol
  • Gallu arwain a dylanwadu ar eraill
  • Hyderus wrth wneud penderfyniadau golygyddol doeth
  • Sgiliau rheoli prosiect, cyllideb ac amser rhagorol
  • Gwybodaeth ragorol o dechnegau a methodoleg rheoli prosiect
  • Profiad golygyddol o greu cynnwys ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc a theuluoedd
  • Dealltwriaeth o ganllawiau golygyddol ar gyfer gwahanol oedrannau a grwpiau o ran cynulleidfaoedd
  • Gwybodaeth o feddalwedd perthnasol (e.e. Adobe Premiere Pro, FCP etc)
  • Gallu gweithio'n dda mewn tîm, gydag ymdeimlad cryf o'u cyfrifoldeb unigol ac yn gallu gweithio ar ei fenter ei hun.
  • Gallu siarad/ysgrifennu Cymraeg*
  • Diddordeb yn y celfyddydau
  • Dealltwriaeth o ddeddfwriaeth GDPR*

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.