Cynhyrchydd Cyfranogiad a Dysgu

Cyflog
£25,000 y flwyddyn
Location
Cardiff, however travel across Wales may be required.
Oriau
Full time
Closing date
01.12.2020
Profile picture for user National Youth Arts Wales

Postiwyd gan: National Youth…

Dyddiad: 11 November 2020

  • Cyflog: £25,000 y flwyddyn, telir yn fisol

  • Oriau gwaith: 35 awr yr wythnos y gellir eu gweithio dros 5 diwrnod. Fodd bynnag, rydym yn agored i drefniadau hyblyg eraill yn cynnwys rhannu swydd.

  • Cytundeb: Mae hwn yn gytundeb cyfnod penodol o 12 mis, gyda’r posibilrwydd o swydd barhaol yn dilyn cyfnod y cytundeb cychwynnol.

  • Dyddiad cau: Hanner Dydd ar Ddydd Mawrth 1 Rhagfyr 2020

Wedi ei ffurfio ym mis Hydref 2017, mae CCIC yn elusen nid er elw, gofrestredig a dyma’r sefydliad arweiniol sydd bellach yn gyfrifol am drosglwyddo’r chwe ensemble ieuenctid cenedlaethol yn ogystal â datblygu rhaglen waith blwyddyn gron, gynaliadwy sydd hefyd yn helpu i hybu gwell mynediad i’r celfyddydau ar gyfer pobl ifanc ledled Cymru, waeth beth fo’u cefndir.

Dyma gyfle cyffrous i gyfrannu tuag at dwf a datblygiad pellach Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru fel arweinydd diwylliannol, gan weithio mewn tîm bychan i helpu i gynyddu mynediad i’r ensembles celfyddydau cenedlaethol ar gyfer perfformwyr ifanc talentog o Gymru, waeth beth fo’u cefndir. Bydd y rôl yn galw am rywun sy’n fodlon gweithio’n hyblyg ac annibynnol, gyda fawr ddim goruchwyliaeth. 

Bydd yr ymgeisydd delfrydol yn gyfathrebydd hyderus gyda phrofiad o weithio gyda phobl ifanc i drosglwyddo rhaglenni celfyddydol, yn ddelfrydol mewn amgylchedd prosiectau aml-gelfyddydol. Rydym yn chwilio’n benodol am rywun sydd â’r gallu i gysylltu ag ymgysylltu gyda phobl ifanc, artistiaid, partneriaid trosglwyddo a rhanddeiliaid prosiect yn cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i, leoliadau addysg a llwybrau i mewn i waith.

Sut i ymgeisio

I ymgeisio am y swydd, anfonwch eich C.V. cyfredol atom gyda llythyr eglurhaol yn amlinellu eich profiad perthnasol a’ch diddordeb yn y rôl. Yn eich llythyr eglurhaol, wrth ddweud wrthym am eich prif gryfderau ar gyfer ymgeisio am y swydd hon, cofiwch gyfeirio at bob pwynt yn y Fanyleb Personél yn y swydd-ddisgrifiad yn eu tro.

Dylid anfon ceisiadau trwy e-bost at nyaw@nyaw.org.uk.

Unwaith ichi e-bostio eich ffurflen gais, gwasgwch ar y ddolen isod i gwblhau ein ffurflen Cyfle Cyfartal ar-lein. Cedwir hon ar wahân i’ch cais, a bydd yn ein helpu i fesur cyrhaeddiad ein hysbysebion swyddi. Rydym yn gyflogwr cyfle cyfartal ac rydym yn annog ceisiadau o gefndiroedd amrywiol.

Pecyn Sywdd

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event