Gweledigaeth Theatr Iolo ydi cymdeithas lle gall pob plentyn deimlo wedi’i ymrymuso a’i ysbrydoli. Rydym yn gwneud ein gorau glas i wneud hyn drwy gyfoethogi bywydau plant drwy brofiadau cofiadwy sy’n herio’r meddwl ac yn cyffroi’r dychymyg.
Mae Theatr Iolo yn gwmni theatr arobryn sydd ar flaen y gad ym maes theatr i blant a phobol ifanc ers agos i ddeugain mlynedd. Mae plant a rhieni, disgyblion ac athrawon, babis a’r glasoed yn cael blas ar berfformiadau, gweithdai a chynyrchiadau gan y cwmni, yn cael eu perfformio mewn mannau o bob lliw a llun ledled Cymru, yng ngwledydd Prydain a gwledydd eraill y byd.
Rydym yn chwiio am Gynhyrchydd rhan amser fydd yn gyfrifol am gynhyrchu pob agwedd ar gynyrchiadau Theatr Iolo (tua dau gynhyrchiad y flwyddyn) a hwn fydd y prif fan cyswllt i gydweithwyr mewnol ac allanol. Os ydych chi’n rhannu ein hawch am theatr, am feithrin y dychymyg a chreu straeon fydd yn para oes, mae arnom eisiau clywed gennych! Mae hwn yn gyfle tan gamp i ymuno â’n tîm a defnyddio ein hanes anhygoel yn sylfaen i lunio’r cwmni at y dyfodol.
Os carech wneud cais am swydd y Cynhyrchydd, llenwch y ffurflen monitro cyfleoedd cyfartal ac anfon copi o’ch CV a llythyr cais at michelle@theatriolo.com. Derbyniwn hefyd gais yn Iaith Arwyddion Prydain neu recordiad fideo byr, llai na thri munud. Edrychwn ymlaen at glywed pam mae gennych ddiddordeb yn y swydd yma, a pha fedrau a phrofiad y byddech chi’n eu dwyn i’r cwmni, gan gyfeirio at y disgrifiad swydd a’r manyleb person.
Dyddiad cau’r ceisiadau yw canol dydd Mercher 30 Ebrill 2025 a chynhelir y cyfweliadau cyntaf yr wythnos sy’n cychwyn 12 Mai 2025 yng Nghaerdydd. Cadarhawn drwy ebost fod eich cais wedi dod i law.