Cymorth Llawrydd

Cyflog
£200 a £300 y dydd yn dibynnu ar y dasg
Location
Gweithio o adref
Oriau
Other
Closing date
15.01.2021

Postiwyd gan: RNrecruit

Dyddiad: 17 December 2020

Rydym yn darparu gwasanaethau ar gyfer y sector nid-er-elw’n bennaf ac mae gennym bortffolio o gleientiaid sy’n amrywio o sefydliadau cymunedol bychain i elusennau mawr rhyngwladol. Mae’r ffaith bod ein busnes wedi tyfu o un flwyddyn i’r llall yn dyst i’r canlyniadau yr ydym yn eu sicrhau ar gyfer ein cleientiaid.

Mae hon yn rôl newydd sy’n adlewyrchu’r cynnydd mewn lefelau busnes. Rydym am gynyddu ein rhwydwaith o weithwyr ategol proffesiynol, llawrydd all ein cynorthwyo ‘fel y bo’r galw’ trwy gyd-gytundeb bob tro. Bydd peth o’r gwaith yma’n adweithiol ac yn ymateb i lif gwaith oddi wrth gleientiaid hirsefydlog, tra bydd elfennau eraill o’r gwaith o ganlyniad i sefydlu timau arbenigol er mwyn ymateb i gyfleoedd a hysbysebir.

Tra bo hon yn broses dreiglol, os oes gennych ddiddordeb cael eich ystyried, byddem yn falch i dderbyn copi o’ch CV a llythyr eglurhaol byr yn mynegi eich diddordeb erbyn 15fed Ionawr 2020. Byddwn yn anelu i gynnal sgyrsiau cychwynnol gyda phobl sydd â diddordeb tua diwedd mis Ionawr.

Rydym yn chwilio’n benodol am bobl sydd â sgiliau a phrofiad yn y meysydd canlynol

  • Ysgrifennu ceisiadau - yn enwedig yng nghyd-destun addysg ôl-16
  • Ceisiadau am grantiau i ymddiriedolaethau a sefydliadau
  • Gwerthusiadau
  • Mesur effaith
  • Ymgynghoriadau cymunedol