Cyhoeddi rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2024

Cyhoeddwyd rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 ddiwedd mis Awst, gan gynnwys 15 o artistiaid Cymreig sydd wedi rhyddhau albymau dros y flwyddyn ddiwethaf.

Bydd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei ddyfarnu mewn seremoni ar ddydd Mawrth 8 Hydref yng Nghanolfan Mileniwm Cymru yn ystod Llais fel rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Eleni, mae Caerdydd Creadigol yn falch iawn o gefnogi'r Wobr Gerddoriaeth Gymreig. 

Darganfyddwch fwy am wobr eleni a chyfranogiad Caerdydd Creadigol:

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 23 September 2024

Wedi’i sefydlu gan gyflwynydd radio’r BBC Huw Stephens, mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig bellach yn wobr flynyddol sy’n dathlu’r gerddoriaeth newydd orau o Gymru. 

Gyda chefnogaeth Cymru Greadigol, PRS for Music, PPL a Help Musicians, mae’r seremoni eleni yn rhan o Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd (27 Medi – 20 Hydref) ac mae hefyd yn nodi agoriad gŵyl Llais, a gynhelir rhwng 8-13 Hydref.

Rogue Jones winning the WMP

The Welsh Music Prize 2024 shortlist 

Mae’r artistiaid sydd ar y rhestr yn cynnwys enwau sefydledig fel y cerddor a’r cyfansoddwr Gruff Rhys, sydd wedi’i enwebu am ei albwm o 2024, Sadness Sets Me Free. Enillodd Gruff y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn 2011 gyda’i albwm Hotel Shampoo. Wedi’u henwebu ochr yn ochr ag e mae’r band metel hirsefydlog o Gasnewydd, Skindred, sydd ar y rhestr fer gyda’u hail albwm, Smile, a gyrhaeddodd rif 2 yn siartiau’r Deyrnas Unedig.


Mae llond trol o albymau cyntaf ar y rhestr, gan gynnwys y cerddor reggae Cymreig-Jamaicaidd Aleighcia Scott gyda’i halbwm gyntaf Windrush Baby; y triawd alt-roc o Bontypridd CHROMA gydag Ask for Angela; y DJ a’r cynhyrchydd cwiar Elkka gyda’r albwm ddawns electronig Prism of Pleasure; y storïwr pop-gwerin o Abertawe, Angharad gyda Motherland, a’r band ton-newydd gothig o Gaerdydd, Slate gyda Deathless.

Yn dychwelyd i’r rhestr fer mae enillydd gwobr 2013, Georgia Ruth, gyda’i phedwaredd albwm o gerddoriaeth werin hudolus, Cool Head; y rapiwr a’r cynhyrchydd o Gasnewydd, Lemfreck gyda’i albwm Blood, Sweat & Fears; y band o bedwar o Aberystwyth, Mellt, gyda’r albwm Gymraeg ôl-bync Dim Dwywaith; pop llawen a hynod albwm Dosbarth Nos gan Ynys; y rocwyr seicedelig Buzzard Buzzard Buzzard gyda Skinwalker; y bopwyr roc-garej HMS Morris gyda Dollar Lizard Money Zombie; y bechgyn o Ben Llŷn, Pys Melyn, gyda sŵn seicadelig hiraethus Bolmynydd, a’r chweched albwm gan hoelion wyth y byd gwerin, Cowbois Rhos Botwnnog, gyda Mynd â'r tŷ am dro.

Bydd enillydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig 2024 yn cael ei gyhoeddi mewn seremoni yng Nghanolfan Mileniwm Cymru nos Fawrth 8 Hydref dan ofal cyflwynydd BBC Radio 1 Sian Eleri, gyda pherfformiadau byw gan Aleighcia Scott, CHROMA, Gruff Rhys, HMS Morris, L E M F R E C K ac enillwyr Triskel Adjua, Wrkhouse a Voya. Mae tocynnau i'r seremoni nawr ar gael.

Dyma fydd 14eg flwyddyn y wobr, gyda’r wobr y llynedd yn mynd i’r ddeuawd o Sir Gâr sy’n canu ac yn cyfansoddi, Rogue Jones, gyda'r albwm Dos Bebés.

Dywedodd cyd-sylfaenydd y Wobr Gerddoriaeth Gymreig, Huw Stephens:

Mae rhestr fer y Wobr Gerddoriaeth Gymreig eleni yn gasgliad gwych o albymau. Mae artistiaid o Gymru’n parhau i greu gwaith hardd, arloesol a nodedig, sy’n mynd â’u cerddoriaeth ledled y byd. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Cymru Greadigol am gefnogi’r wobr yma, y gall pob ffan cerddoriaeth yng Nghymru fod yn falch ohoni.

Gwrandewch ar ein playlist Gwobr Gerddoriaeth Gymreig!

Performers at WMP last year

Caerdydd Creadigol

Mae Caerdydd Creadigol yn falch iawn o fod yn cefnogi’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig am y tro cyntaf yn 2024.  

Dros yr wythnosau nesaf, byddwn yn rhannu gwybodaeth am y Wobr Gerddoriaeth Gymreig ar ein sianeli trwy gynnwys, cyfweliadau ac erthyglau am restr fer a seremoni eleni.   

Byddwch hefyd yn ein gweld yn y seremoni ar 8 Hydref wrth i ni gefnogi tîm y Wobr Gerddoriaeth Gymreig i gyflwyno’r digwyddiad.

Dywedodd Jess Mahoney, Pennaeth Caerdydd Creadigol:

Mae 2024 wedi bod yn flwyddyn wych i gerddoriaeth yng Nghaerdydd gyda pherfformiadau gan sêr byd-eang gan gynnwys Taylor Swift, Pink a The Foo Fighters yn y ddinas yn helpu i ysgogi nifer yr ymwelwyr ac atgyfnerthu enw da Caerdydd fel canolbwynt gerddoriaeth. Ond ochr yn ochr â’r llwyddiant hwn, mae’n rhaid i ni sicrhau ein bod hefyd yn datblygu ein piblinellau o dalent gerddorol leol ar gyfer y dyfodol, ac yn dathlu a gwarchod sîn gerddoriaeth llawr gwlad gyfoethog Cymru. Mae Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn rhan hanfodol bwysig o’r naratif hwn, gan greu llwyfan o bwys rhyngwladol i arddangos talent gerddorol o Gymru. O’r herwydd, mae Caerdydd Creadigol wrth eu bodd yn gweithio gyda WMP yn 2024 i gefnogi’r gwaith o gyflwyno’r digwyddiad pwysig hwn, ac yn edrych ymlaen at ddarganfod yr enillydd ar 8 Hydref.

 Dywedodd Carys Bradley-Roberts, Rheolwr Gweithrediadau ac Ymgysylltu Caerdydd Creadigol: 

Mae’r Wobr Gerddoriaeth Gymreig bob tro yn uchafbwynt yng nghalendr diwylliannol Caerdydd Creadigol. Nid yn unig dyma’r ffordd orau o ddarganfod cerddoriaeth newydd a wnaed yng Nghymru neu gan artistiaid Cymreig, mae hefyd yn hanfodol bwysig bod digwyddiad o’r arwyddocâd hwn yn cael ei gyflwyno i arddangos – ar lwyfan cenedlaethol a rhyngwladol – y gerddoriaeth wych sy’n dod allan o Gymru. Bob blwyddyn, dwi’n gadael yn teimlo’n gyffrous ac yn sicr bod dyfodol cerddoriaeth yng Nghymru mewn dwylo diogel iawn! Rydym wrth ein bodd y bydd Caerdydd Creadigol yn cefnogi tîm y Wobr Gerddoriaeth Gymreig i gyflwyno’r digwyddiad eleni.

Rhagor o wybodaeth am y Wobr.

Mwy am Ŵyl Dinas Gerdd Caerdydd

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd, nod Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd yw denu 20,000 yn ei blwyddyn gyntaf. Gan gwmpasu'r ŵyl gerddoriaeth newydd Sŵn a phenwythnos celfyddydau rhyngwladol Canolfan Mileniwm Cymru, Llais, bydd yr ŵyl yn lledaenu cerddoriaeth ledled y ddinas, gan herio, cyffroi ac ysbrydoli cefnogwyr ar draws cenedlaethau a genres.

Mae’r ŵyl yn cynnwys rhaglen lawn o dalent lleol a rhyngwladol, gan gynnwys Leftfield/Orbital a Ms. Lauren Hill & The Fugees. Lein-yp llawn ar gael ar y wefan.

Mae Caerdydd Creadigol hefyd yn cynnal noson gerddoriaeth newydd gyda DJ Katie Owen fel rhan o Ŵyl Music City Caerdydd, rhagor o wybodaeth.

Cynhelir Gŵyl Dinas Gerdd Caerdydd rhwng 27 Medi a 20 Hydref 2024.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event