Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 26 November 2019

12 albwm yn dathlu’r gerddoriaeth orau a waned yng Nghymru yn llunio rhestr ddymunol

Cyhoeddwyd rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig eleni (28 Hydref) ac am y nawfed flwyddyn yn olynol, mae’r 12 albwm yn arddangos y doreth o dalent gerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd.

Yn ddathliad pwysig ym myd cerddoriaeth Cymru, mae'r wobr yn cydnabod y gorau mewn creadigrwydd a cherddoriaeth newydd yng Nghymru. Mae enillwyr ac enwebeion y gorffennol wedi mynd ymlaen i sicrhau cydnabyddiaeth ehangach neu barhaus oherwydd effaith y wobr, gan gynnwys albymau gan Boy Azooga (2018), Gwenno (2015) a Gruff Rhys (2011).

Wedi'i gyd-sefydlu gan Gyflwynydd y BBC, Huw Stephens a'r ymgynghorydd Cerdd John Rostron, bydd yr albwm buddugol yn cael ei ddewis gan banel o feirniaid sydd â theilyngdod arbenigol yn y diwydiant cerddoriaeth gan gynnwys Dexter Batson (Spotify), Sean Griffiths (Mixmag), Kaptin (Boomtown), Daniel Minty (Minty’s Gig Guide), Carolyn Hitt (Newyddiadurwr) a Chris Roberts (Son Am Sin).

Bydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn cael ei chynnal yn The Coal Exchange ddydd Mercher 27 Tachwedd ochr yn ochr â gweithgaredd arall i ddathlu cerddorion o Gymru. Bydd cymysgydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig yn digwydd yn ystod y prynhawn yn Sunflower & I i arddangos perfformiadau byr gan dri artist sy'n dod i'r amlwg a chyfle i rwydweithio gyda'r rhai o ddiwydiant cerdd ehangach y DU.

Enwebeion 2019 yw…

Echo the Red gan Accü (Libertino Records)

Yr hanner cerddor o Gymru, hanner o’r Iseldiroedd a greodd yr albwm cyntaf hudolus hwn yn ei charafán yn Sir Gaerfyrddin. Mae Accü yn creu electronica hudol nefolaidd, digon i baratoi ar gyfer bywyd ar blaned Mawrth. Mae'r albwm yn cynnwys cyfraniad lleisiol gan y digrifwr Stewart Lee ar un o'r caneuon.

Now! (in a minute) gan audiobooks (Heavenly Recordings)

Mae swrrealaethau pop avant-electro audiobooks yn chwarae ar eiliadau a brofwyd gan Evangeline Ling a David Wrench. Adroddir eu straeon trwy alaw o fachau synth cain a churiadau nad ydynt yn gadael unrhyw ddewis ond i godi a dawnsio.

Joia! gan Carwyn Ellis & Rio 18 (Banana & Louie)

Gan fynd â’i Gymraeg yr holl ffordd i Rio, mae’r dylanwadau diwylliannol yn amlwg iawn - joia yn golygu ‘groovy’ ym Mrasil. Gyda blas America Ladin i wneud i’r cluniau symud, mae deallusrwydd cerddorol Ellis yn taro deuddeg ac yn bendant yn gadael gwrandawyr eisiau mwy.

Reward gan Cate Le Bon  (Mexican Summer)

Wedi iddi gael ei magu ar fferm wledig yn Sir Gaerfyrddin, mae synths ysgafn Cate Le Bon a’i sacsoffon hoff gyda thinc o offerynnau taro tonnog yn mynd â chi yn ôl i’w llecyn unigedd. Mae ei halawon yn felys ond o dan yr wyneb daw hanfodion byd ôl-pync i'r amlwg. Enwebwyd Reward hefyd ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Mercury eleni.

Lover Loner gan Deyah (self-released)

Mae’r rapiwr Deyah yn dod ag enaid RnB i’r albwm hwn gyda geiriau llyfn, agos-atoch a phersonol am brofiadau mewnsyllgar o ryddhau meddyliau a theimlad y gorffennol. Mae hi eisiau i wrandawyr wella trwy negeseuon maddeuant, gwerth a chariad.

You Say I’m Too Much I Say You’re Not Enough gan Estrons (Gofod Records)

Gan gynnal dwyster trwy gydol yr albwm, mae egni tanbaid Estrons yn cyflwyno datganiadau o rymuso menywod a niweidio’r ego gwrywaidd. Gitarau godidog, bas anhygoel a lleisiau gor-wych gan y lleisydd Tali Källström.

Inspirational Talks gan HMS Morris (Bubblewrap Records)

Ar gyfer eu hail albwm, mae HMS Morris yn cynnal psych alt-pop dyfodolaidd dirgel gyda geiriau dwyieithog yn ymdrin â phynciau sy'n ymddangos mewn llawer i albwm eleni, Brexit, Trump, a'r dymuniad i neidio oddi ar gyrion y ddaear.

Gwn Glan Beibl Budur gan Lleuwen (Sain)

Ei halbwm mwyaf arbrofol hyd yn hyn, mae Lleuwen yn uno hanes Cymru hynafol â chyfansoddiadau personol i feistroli'r albwm hwn. Mae'r gwaith yn cynnwys amrywiaeth o dalent gerddorol o'r delynores Llio Rhydderch i gerddorion gwlad alt-roc, Aled a Dafydd Hughes.s.

Touchy Love gan Lucas J Rowe (self-released)

Canwr-gyfansoddwr o Gaerdydd; Cefnogodd Lucas Sean Paul yn Motorpoint Arena eleni yn fuan ar ôl rhyddhau ei albwm cyntaf. Mae cyfuniad o RnB ar yr albwm hwn yn asio dylanwadau gan rai fel Craig David, Usher a Justin Timberlake.

Oesoedd gan Mr (Strangetown Records)

Yn ddyn sydd â chyfoeth o brofiad, mae Mark Roberts wedi bod mewn amryw o fandiau Cymreig dros y blynyddoedd. Ar ôl gigs a theithiau dirifedi gydag Y Cyrff, Y Ffyrc, The Earth a Catatonia, mae Mark - dan yr enw ‘Mr’ - yn cyflwyno ei albwm unigol cyntaf, Oesoedd. Mae'r albwm hwn wedi'i lenwi â bariau sbonciog a hiwmor hawdd uniaethu ag e o’r byd modern.

Melyn gan Adwaith (Libertino Records)

Ar ôl deunaw mis cyntaf llwyddiannus o fodolaeth, cyflwynwyd albwm gyntaf Adwaith gyda llawer o gyffro. Mae'r prosiect yn finiog, grŵfi a hyderus, gan nodi twf yn eu ffiniau creadigol.

Tŷ ein Tadau gan VRï (Recordiau Erwydd)

Mae'r triawd gwerin yn dychwelyd gyda'r cofiant hwn o dreftadaeth Gymreig sy’n llawn ysbrydoliaeth o emynau traddodiadol a chlychau eglwys fore Sul. Mae'r albwm yn briddlyd, wedi'i wreiddio ac yn brydferth.

Meddai Huw Stephens, “Bob blwyddyn rydw i'n cael fy synnu gan y gerddoriaeth sy'n dod gan artistiaid o Gymru ac mae poblogrwydd cerddoriaeth a wneir yng Nghymru yn tyfu ac yn tyfu. Rwy'n gwybod ei fod bob amser yn benderfyniad mor anodd i'n beirniaid i benderfynu.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.