Cyhoeddi ein rhaglen digwyddiadau'r hydref

Mae Caerdydd Creadigol yn falch iawn o gyhoeddi ein rhaglen digwyddiadau hydref ar gyfer 2025, gyda chyfres o sgyrsiau, gweithdai a digwyddiadau rhwydweithio.

Mae ein holl ddigwyddiadau am ddim i'w mynychu ac yn cael eu cynnal yn Tramshed Tech yng Nghaerdydd neu Tramshed Tech yn y Barri.

Dysgwch fwy a chofrestrwch i fynychu:

Autumn events

AMDANI: Grwpiau ysgrifennu mewn partneriaeth ag MA Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Caerdydd

Mae Caerdydd Creadigol yn cynnal Grŵp Ysgrifennu agored, am ddim i bobl greadigol yn Tramshed Tech, Caerdydd. Mae pob Grŵp Ysgrifennu misol yn cael ei hwyluso gan fyfyriwr sy'n astudio ar gyfer eu MA mewn Ysgrifennu Creadigol a bydd yn canolbwyntio ar bwnc, thema neu genre gwahanol.

Dydd Mercher 17 Medi13:00 // Dydd Mercher 15 Hydref 13:00 // Dydd Mercher 19 Tachwedd 13:00

An image from Creative Cuppa

DIVERGE: Cydweithio a rhwydweithio ar gyfer pobl greadigol niwroamrywiol mewn partneriaeth â'r Cynhyrchydd Tom Bevan

Mewn partneriaeth â Chaerdydd Creadigol, mae Tom Bevan yn cynnal gofod misol i bobl greadigol niwroamrywiol sy'n gweithio yn y sector diwylliannol yn Ne Cymru i ddod at ei gilydd i weithio a chysylltu. Bydd y diwrnod wedi'i strwythuro i gynnwys rhywfaint o gydweithio, rhwydweithio, sgwrs fer a sesiwn holi ac ateb gan gyd-greadigwr niwroamrywiol ac amser ar gyfer mentora cyfoedion a datblygu syniadau.

Dydd Mawrth 23 Medi: Caerdydd (drwy'r dydd) // Dydd Mawrth 14 Hydref: Y Barri (drwy'r dydd) // Dydd Mawrth 28 Hydref: Caerdydd (drwy'r dydd) // Dydd Mawrth 25 Tachwedd: Caerdydd (drwy'r dydd)

An image from Creative Cuppa

Paned i Ysbrydoli: Rhwydweithio anffurfiol misol

Ymunwch â ni i gwrdd, cysylltu a dysgu gan pobl greadigol eraill, boed eich bod newydd ddechrau neu wedi bod yn gweithio yn y diwydiant ers degawdau, yn ein Paned i Ysbrydoli misol.

Mae pob Paned i Ysbrydoli yn dechrau gyda sgwrs ardull 'TED-talk' ar bwnc sy’n berthnasol ar draws pob sector creadigol, ac yna awr anffurfiol i feithrin perthnasoedd, rhannu gwybodaeth ac archwilio cyfleoedd newydd.

Dydd Mercher 24 Medi14:00 - 16:00: Gweithio'n Rhyngwladol // Dydd Mercher 22 Hydref 14:00 - 16:00: Adeiladu rhwydwaith

An image from Creative Cuppa

Cyhoeddir digwyddiadau’r gaeaf yn fuan! Cadwch lygad ar ein sianeli a’n cylchlythyr.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.