Cyfres dau Get a ‘Proper’ Job, pennod #3 - Cysylltu â chynulleidfaoedd drwy ddefnyddio cynnwys digidol

I weithwyr creadigol sy’n becso am y materion pwysig, mae Get a ‘Proper’ Job yn bodlediad sy’n trafod ac yn arddangos uchafbwyntiau ac isafbwyntiau gweithio mewn swydd neu sefydliad creadigol. Rydym yn dod ag arbenigwyr y diwydiant ynghyd i rannu gwybodaeth newydd.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 23 October 2020

Yn nhrydydd rhifyn Get A 'Proper' Job, mae'r cyflwynydd Kayleigh Mcleod yn sgwrsio â Kelly Barr, rheolwr Rhaglen Celfyddydau a Chreadigrwydd Age Cymru a'r Athro Chris Speed, Deiliad Cadair Gwybodeg Ddylunio ym Mhrifysgol Caeredin, am y pontio cyflym i waith digidol i weithwyr creadigol yn sgîl COVID-19. 

Mae’r bennod hon yn canolbwyntio ar bwy a ble gall gweithwyr creadigol gyrraedd â chynnwys digidol, a sut i fesur yr ymgysylltiad hwnnw. 

Selfie of Professor Chris Speed, Kelly Barr and Kayleigh Mcleod recording Get A 'Proper' Job podcast

Wrth drafod unrhyw fanteision posibl i ddeillio o weithio’n ddigidol, meddai Kelly: “Mae’r rhwydweithio’i hun wedi dod yn llawer o haws. Rydym wedi gallu cysylltu â sefydliadau ac unigolion ar draws Cymru mor hawdd o gymharu â sut byddai wedi bod o’r blaen. Mae hyn hefyd wedi’i gwneud yn haws cael llais unedig ynghylch y celfyddydau cyfranogol.”

Wrth siarad am lythrennedd digidol yng Nghaeredin, dywedodd Chris: “Rwy’n credu bod hi’n deg dweud bod synnwyr cymysglyd o lythrennedd, ynghylch digidol a data. Roedd y busnesau newydd yn gallu symud yn eithaf cyflym. Roedd y rheiny ym meysydd data’n iawn. Roedd ganddynt synnwyr o wydnwch sy’n eu gweld nhw’n symud i gartrefi. Ar y pen arall - sef y materol, y cymdeithasol a’r analog iawn - roeddent wedi’u drysu a’u colli’n gyfan gwbl.”

Gwrandewch ar y bennod lawn: 

iTunes: http://bit.ly/GAPJS2E3

Spotify: https://spoti.fi/3ku2x3K

Dolenni a rhagor o wybodaeth

Recordiwyd y bennod hon o bell o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 ym mis Awst 2020. 

Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.

Gwrando ar benodau eraill o gyfres gyntaf Get A 'Proper' Job yma.