Ym mhennod gyntaf ail gyfres Get A 'Proper' Job, mae Kayleigh Mcleod, y cyflwynydd, yn cael sgwrs â Krystal Lowe sy’n ddawnsiwr llawrydd, coreograffydd, awdur ac yn Gyfarwyddwr Artistig Kokoro Arts Ltd,a Fabio Thomas sy’n Ymchwilydd Prosiect argyfer asiantaeth ymgysylltu a chyfle o Birmingham am sut mae pobl greadigol yn rhyngweithio â llunwyr polisïau ac yn llywio’r broses benderfynu ar gyfer sut mae gweithwyr creadigol yn cael eu cefnogi.
Dywedodd Krystal, sy'n aelod o Dasglu Llawrydd Cymru: "Mae mor hawdd teimlo nad oes gennych lais fel llawrydd. Gall fod yn unig ac mae’r tasglu hwn yn rhoi pobl mewn cysylltiad â’i gilydd i wneud hynny. Mae’n dod â ni at ein gilydd... rhoddodd gymaint o gyfleoedd i ni a’n rhoi mewn cysylltiad â sefydliadau fel bod gennym lais o fewn sefydliadau.”
Dywedodd Fabio, sy'n gweithio gyda chymuned o bobl greadigol ifanc: “Er gwaethaf hynt a helynt y pandemig, mae wedi cynnig cyfleoedd a chyfeiriad i sawl person. Cyn i ni weld nad oedd pobl o reidrwydd yn gwybod sut i ymgysylltu â'r llywodraeth na lleisio’u barn a sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed. Mae’r pandemig wedi dod â phawb ynghyd...ac mae’n golygu ein bod ni’n aros ac yn ystyried ein rôl.”
Gwrandewch ar y bennod lawn:
Gallwch ddarllen adroddiad Tasglu Llawrydd Cymru, Ail-gydbwyso ac Ail-ddychmygu – strategaethau i gefnogi gweithwyr llawrydd y celfyddydau a pherfformiad yma.
Recordiwyd y bennod hon o bell o ganlyniad i gyfyngiadau COVID-19 ym mis Awst 2020.
Gwnaethpwyd Get a ‘Proper’ Job gan rwydwaith ddinesig Caerdydd Creadigol ar y cyd â’r gymuned greadigol ac ar ei chyfer.
Gwrando ar benodau eraill o gyfres gyntaf Get A 'Proper' Job yma.