Cyflwyno’r myfyrwyr sy’n Gynhyrchwyr Cynorthwyol

Yn ein hadolygiad ddiwedd 2021, diolchwyd i'r bobl a'r sefydliadau sy'n cefnogi ac yn llywio gwaith Caerdydd Greadigol. Ymhlith y rheiny mae’r cynhyrchwyr sy'n astudio ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn helpu Caerdydd Greadigol i gyflawni gwaith. Rydyn ni’n edrych ymlaen yn fawr at gydweithio â nhw eto yn 2020 a hoffen ni gymryd y cyfle yma i gyflwyno’r myfyrwyr sy’n gynhyrchwyr cynorthwyol ar hyn o bryd fel y gallwch chi ddod i’w hadnabod.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 12 January 2022

Maen nhw’n gweithio’n hyblyg trwy gynllun Siop Swyddi’r Brifysgol, gan ein helpu i gynllunio, trefnu a chynnal ein digwyddiadau a’n gweithgareddau ymgysylltu. Maen nhw’n rhoi cymorth yn ystod ein cyfarfodydd misol yn ogystal â chreu a golygu darnau a helpu i lunio podlediadau.

Mae gan bob un ei fedrau, ei frwdfrydedd a’i brofiad unigryw gan lywio gwaith a chynlluniau Caerdydd Greadigol o safbwynt myfyrwyr.

3 headshots of the student producers on a purple background with blue border

Beth

Beth ydw i, ac rwy’n astudio newyddiaduraeth, y cyfryngau a llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerdydd. Rwy'n dod o’r deheubarth ac rwy’n hoffi dysgu ioga, gweu dillad a barddoni yn ystod fy amser rhydd. A minnau yn fy nhrydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, rwy’n ymwneud â phrosiect ysgrifennu creadigol am ferched ifanc sy’n byw gyda chlefyd parhaol a/neu anabledd yn ogystal â’m traethawd sy’n dadansoddi’r ffordd y bydd merched ifanc yn disgrifio byw gyda chlefyd parhaol trwy gyfrwng Instagram. Yn ystod fy astudio, rwyf i wedi gweithio’n llawrydd gan lunio darnau ar gyfer cylchgrawn penwythnos. Rwyf i wedi rheoli brand elusen ar y campws a dysgu ioga yng Nghaerdydd, hefyd. Yn ddiweddar, rwyf i wedi cyhoeddi barddoniaeth mewn dau gylchgrawn, Spelt a Lucent DreamingAr ôl graddio, hoffwn i weithio ym maes cyfathrebu yn y diwydiant creadigol yng Nghaerdydd a pharhau i gyhoeddi barddoniaeth. At hynny, hoffwn i gynghori sefydliadau ynghylch bod yn haws eu cyrraedd i bobl anabl gan archwilio hygyrchedd ar bob lefel megis iaith a dylunio ymarferol. 

Erykah

Erykah ydw i ac rwy'n fyfyriwr ail flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd, gan astudio’r cyfryngau a chyfathrebu. Rwy'n frwd iawn am amrywioldeb, cynhwysiant a ffilmiau. Rwyf i wedi astudio ffilmiau trwy TGAU, y Safon Uwch a chwrs gradd ac mae hynny wedi ennyn fy niddordeb yn y pwnc ac fy ysgogi i anelu at weithio yn niwydiant y cyfryngau a ffilmiau. A minnau’n ferch o dras gymysg, rwy’n gwybod sut mae’n teimlo i gael eich tangynrychioli yn y cyfryngau ac, felly, rwy’n gobeithio defnyddio fy mrwdfrydedd yn y ddau faes i helpu Caerdydd Greadigol i dynnu sylw at waith pobl greadigol sydd wedi’u tangynrychioli yn niwydiant y cyfryngau a helpu’r diwydiant i fod yn fwy amryfal ei natur o ganlyniad. Rwy'n gobeithio parhau â'r math hwn o waith ar ôl graddio, gan fy mod yn anelu at helpu cwmnïau ffilmiau a’r cyfryngau i fod yn fwy cynhwysol a chreu cynnwys mwy amryfal. Dydw i ddim wedi dewis swydd eto, er fy mod yn gwybod y pethau sydd o ddiddordeb imi ac yn bwriadu parhau â nhw yn y Brifysgol a’r tu allan iddi fel ei gilydd - fe welwn ni ble bydd hynny’n fy arwain! Gan fod ein cynhyrchwyr dawnus o fyfyrwyr yn hysbys ichi bellach, edrychwch am eu darnau, eu cyfarch nhw mewn digwyddiadau a chysylltu â ni os ydych chi am wybod rhagor am eu gwaith.

Rhiannon

Rhiannon 'dw i ac rwy’n mwynhau gweithio gyda Chaerdydd Creadigol, yn enwedig ar bodlediad Rhywbeth Creadigol?. Cefais y cyfle i olygu’r podlediad, helpu ei farchnata, ac ro’n i'n ddigon lwcus i gael gwrando mewn ar y sgyrsiau cyfareddol wrth recordio. Rwy’n dod o Faesteg yn y Cymoedd ac rwy’n astudio yng Nghaerdydd. Rwy’n dwlu ar bopeth sy’n ymwneud â chelf a ffilm, ac mae Caerdydd yn llawn diwylliant i fwynhau. Rwy’n rhugl yn y Gymraeg ac yn angerddol am yr iaith, ac felly’n hapus i fod yn cyfrannu tuag at greu mwy o gynnwys creadigol, cyfrwng Cymraeg fel Rhywbeth Creadigol?.Yn ddiweddar, cyflawnais radd israddedig yn y Gymraeg a Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Yno, cefais y cyfle i fod yn olygydd ar adran Clebar, sef adran Gymraeg cylchgrawn y myfyrwyr, Quench. Mae cyfathrebu ac adrodd straeon wir yn fy niddori i. Rwy’n chwilfrydig ynghylch pobl a’r wahanol ffyrdd allem ni adrodd eu straeon, a gwthio’r ffiniau wrth wneud hynny. Rwy’n archwilio hyn ymhellach ar hyn o bryd fel rhan o fy nghwrs meistr yn Dogfennau Digidol ym Mhrifysgol Caerdydd. Un o fy hoff raglenni dogfen buasai siŵr o fod Saudi Women’s Driving School wedi’i chyfarwyddo gan Erica Gornall, mae’n bendant werth gwylio!

---

Gan fod ein cynhyrchwyr dawnus o fyfyrwyr yn hysbys ichi bellach, edrychwch am eu darnau, eu cyfarch nhw mewn digwyddiadau a chysylltu â ni os ydych chi am wybod rhagor am eu gwaith.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event