I ddathlu Dydd Gŵyl Dewi, rydym yn edrych ymlaen at lansio ein cwrs Cymraeg cyntaf ar gyfer diwydiant ffilm a theledu Cymru: Cyflwyniad i Avid Media Composer ac Ôl-gynhyrchu.
Mae’r cwrs hwn yn mynd y tu hwnt i ddysgu sgiliau meddalwedd. Mae’n edrych ar sut mae Media Composer yn cael ei ddefnyddio yn y diwydiant teledu a ffilm yng Nghymru. Byddwch yn ennill sylfaen gadarn i wella'ch sgiliau a datblygu'ch gyrfa.
Beth mae'r Hyfforddiant yn ei Gwmpasu:
💻 Cyflwyniad i Media Composer: Dysgu am gynllun ac offer y feddalwedd bwerus hon.
🎞️ Gweithio ar y Cyd mewn Ôl-gynhyrchu: Darganfod sut i weithio'n effeithiol mewn amgylchedd tîm.
🎛️ Trefnu, Gweld a Thorri Cynnwys: Datblygu technegau golygu ymarferol.
🎥 Adeiladu Dilyniant ac Ychwanegu Sain: Golygiadau cydlynol crefftus gydag integreiddio sain.
📺 Allforio Golygiadau i'w Gweld: Paratoi prosiectau i'w cyflwyno'n derfynol.
Mae’r rhaglen hon, sydd wedi’i hariannu’n llawn, wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru a hynny drwy Cymru Greadigol. Os ydych yn byw neu’n gweithio yng Nghymru a bod gennych ddiddordeb mawr yn y diwydiant teledu a ffilm, gallwch ymuno yn rhad ac am ddim! Mae lleoedd yn gyfyngedig i chwe chyfranogwr y sesiwn ac mae angen proses ymgeisio. Ond peidiwch â phoeni - byddwn yn cynnal sesiynau ychwanegol yn hwyrach eleni gan roi cyfle arall i chi gymryd rhan.
Nodwch os gwelwch yn dda:
Bydd y sesiwn hon yn cael ei chyflwyno trwy gyfrwng y Gymraeg gan ddefnyddio cynnwys yn yr iaith Gymraeg.
Mae rhuglder mewn siarad a deall Cymraeg yn hanfodol.
Am fwy o fanylion ac i wneud cais ewch i: https://gorillagroup.tv/course/csf_mc_cymraeg