Cyfle Llawrydd: Rheolwr Marchnata

Cyflog
£7,700 yn cynnwys TAW, ar sail hunangyflogedig.
Location
Cymru
Oriau
Part time
Closing date
28.02.2022
Profile picture for user National Youth Arts Wales

Postiwyd gan: National Youth…

Dyddiad: 6 February 2022

Rydym yn chwilio am Reolwr Marchnata llawrydd i’n helpu i gynllunio a throsglwyddo ymgyrch marchanta digwyddiadau strategol ar gyfer ein rhaglen o ddigwyddiadau haf.

Yn haf 2022, bydd mwy na 350 o’n haelodau ifanc 16-22 oed yn perfformio mewn cyngherddau a chynyrchiadau cyhoeddus ledled Cymru. Dyma’r tro cyntaf y bydd ensembles CCIC yn perfformio i gynulleidfa sydd wedi prynu tocynnau ers 2019, ac i Theatr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, dyma fydd y cynhyrchiad theatr graddfa lawn cyntaf iddynt ei berfformio ers sefydlu Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru ar ei newydd wedd yn 2017.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am yrru gwerthiant tocynnau ar gyfer 15 o ddigwyddiadau â thocynnau, mewn canolfannau ledled Cymru gyfan ac yn cwmpasu cerddoriaeth, theatr a dawns. Mae hwn yn gyfle perffaith i weithiwr marchnata proffesiynol, profiadol sydd am helpu i arddangos gwaith perfformwyr mwyaf talentog Cymru.

Tâl: £7,700 yn cynnwys TAW, ar sail hunangyflogedig. Byddem yn disgwyl y byddai’r ffi yn cwmpasu 44 diwrnod llawn o waith, yn seiliedig ar raddfa grynswth o £175 y dydd, dros gyfnod o 20 wythnos (tua 2 ddiwrnod yr wythnos).

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.