Rydym yn chwilio am cyfarwyddwr gyrfa gynnar i gynorthwyo’r Cyfarwyddwr Izzy Rabey ar gyfer berfformiad cyntaf byd-eang NICE THINGS: A QUEER LOVE STORY gan Luke Hereford. Bydd y cynhyrchiad newydd hwn yn ymarfer yng Nghaerdydd, gyda pherfformiadau yn Llundain a Chaerdydd, ac mewn lleoliadau pellach (yn y broses o gael eu gadarnhau). Bydd angen i chi fod ar gael ar gyfer y dyddiadau canlynol:
Ymarferion wythnos sy’n dechrau 9 Mawrth 2026 – Caerdydd
Ymarferion wythnos sy’n dechrau 16 Mawrth 2026 – Caerdydd
Ymarferion wythnos sy’n dechrau 23 Mawrth 2026 – Caerdydd
Tech a Sioeau wythnos sy’n dechrau 30 Mawrth 2026 – Llundain
Tech a Sioeau wythnos sy’n dechrau 6 Ebrill 2026 – TBC
Tech a Sioeau Dydd Llun 20 – Dydd Mercher 22 Ebrill 2026 – Caerdydd
Tâl: £2,200 Bydd costau teithio a llety’n cael eu darparu ar gyfer unrhyw ran o’r ymrwymiad y tu allan i Gaerdydd.
Mae NICE THINGS: A Queer Love Story hon yn canolbwyntio ar gwpl hoyw sy’n byw blynyddoedd cysurus gyda’i gilydd. Mae ganddyn nhw bopeth – fflat hardd, tair gwyliau’r flwyddyn, a chyfrifon Instagram sy’n achosi cenfigen. Ond pan mae un ohonynt yn dod allan fel person anneuaidd (nonbinary), mae eu ffordd ddelfrydol o fyw yn cael ei bygwth gan un peth yn unig – ei gilydd.
Y ROL: Byddwch yn gweithio’n agos gyda’r Cyfarwyddwr i gynorthwyo’r broses ymarfer. Bydd angen i chi fod yn hyblyg ac yn ymatebol i anghenion y cynhyrchiad.
Yn benodol, bydd disgwyl i chi:
- cymryd nodiadau yn ystod ymarferion a pherfformiadau,
- cynnig mewnwelediad creadigol yn ystod y broses,
- gwneud gwaith ymchwil yn ystod y broses creadigol.
I WNEUD CAIS: Anfonwch CV a pharagraff eglurhaol byr yn esbonio pam yr hoffech weithio ar y ddrama hon at Luke Hereford (Awdur/Cynhyrchydd) ar:
lukewilliamhereford@gmail.com
Erbyn 5pm ddydd Mercher 3 Rhagfyr, gyda chyfweliadau’n cael eu cynnal dros Zoom yr wythnos sy’n dechrau 8 Rhagfyr.
Mae NICE THINGS: A Queer Love Story yn gyd-gynhyrchiad gan Luke Hereford a Porter’s Theatre Cardiff. Wedi ei wireddu diolch i Gyngor Celfyddydau Cymru, gyda nawdd gan Llywodraeth Cymru.
Cyfarwyddwr Cynorthwyol
Cyflog
£2,200
Location
Caerdydd / Llundain
Oriau
Fixed term
Closing date
03.12.2025
