Mae Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn chwilio am arweinydd cryf sydd â phrofiad cyfathrebu helaeth i fod yn Gyfarwyddwr Cyfathrebu Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle gwych i arbenigwr cyfathrebu o safon uchel weithio gyda'n tîm Gweinidogol i ddarparu gwaith cyfathrebu strategol, rhagweithiol a chreadigol o ansawdd uchel ar gyfer Llywodraeth y DU yng Nghymru.
Y Cyfarwyddwr Cyfathrebu yw prif gynghorydd cyfathrebu yr Ysgrifennydd Gwladol Cymru a phrif gynghorydd cyfathrebu adrannau eraill Llywodraeth y DU ar faterion Cymreig.
I gael rhagor o wybodaeth a phwynt cyswllt, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd yn llawn ar wefan Swyddi'r Gwasanaeth Sifil.