Mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn chwilio am gyfarwyddwr cerddorol ar gyfer ensemble ysgol newydd, a fydd yn cychwyn ym mis Medi 2021. Byddai'r swydd hon yn cael ei chynnig ar sail contractwr trydydd parti ar ei liwt ei hun (talu trwy anfoneb) a byddai'n addas i gerddor gweithredol sydd â phrofiad a diddordeb mewn arwain ensemblau bach o gerddorion ifanc a gweithgar.
Cylch gwaith: cyfarwyddo'r grŵp, cyflwyno hanfodion perfformio a chynhyrchu cerddoriaeth bop, a datblygu cyfeiriad artistig ac, yn nhermau addysg, cyfeiriad yr ensemble ar y cyd ag aelodau perthnasol o'r staff academaidd; goruchwylio clyweliadau.
Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yw un o ysgolion cerddoriaeth mwyaf Prydain, ac mae’n derbyn tua 70 o fyfyrwyr israddedig a thua 40 o fyfyrwyr ôl-raddedig bob blwyddyn. Mae rhaglenni'r Ysgol yn cynnwys perfformio, cyfansoddi, dadansoddi, cerddoleg ac ethnogerddoleg, ac mae'n rhoi pwys arbennig ar berfformio fel elfen hanfodol mewn addysg gerddorol sy'n cydbwyso ac yn cyfuno sgiliau ymarferol ac academaidd. Er bod gan yr Ysgol gryfder yn nhraddodiadau clasurol y Gorllewin, mae ein cylch gwaith wedi ehangu dros y blynyddoedd diwethaf, fel y dangosir gan ychwanegiad diweddar yr ensemble jazz, ensemble gamelan Jafa, ac ensemble Gorllewin Affrica. Yn ogystal â'r ensembles ysgol hyn, rydym yn annog ac yn cefnogi nifer o ensembles arweinwyd gan fyfyrwyr sy'n cynrychioli ystod eang o arddulliau i’r ysgol. Byddai'r Grŵp Cerddoriaeth Bop yn cyfrannu at ehangu ein diwylliant perfformio bywiog, yn ogystal â gwella'r ddarpariaeth ar gyfer y nifer bach ond cynyddol o fyfyrwyr sydd ag arbenigedd mewn arddulliau cerddoriaeth boblogaidd. Mae pob un o ensembles y brifysgol yn cyfrannu at nodau addysgol yr ysgol, ac rydym yn chwilio am cyfarwyddwr cerddorol sy'n dymuno cydweithredu ag aelodau academaidd o staff, cyfarwyddwyr ensembles eraill, a thiwtoriaid ymarferol i ddarparu profiad addysgol integredig i fyfyrwyr.
Mae’r Grŵp Cerddoriaeth Bop yn ensemble ysgol newydd. Mewn cydweithrediad â'r Cyfarwyddwr Perfformio a staff eraill yr Ysgol Cerddoriaeth, bydd yr cyfarwyddwr yn cyfrannu’n sylweddol at greu ei ffurf. Rydym yn rhagweld y bydd yr ensemble yn cynnwys nifer o grwpiau bach o fyfyrwyr a fydd yn ymarfer yn annibynnol ac yn cwrdd â chyfarwyddwr yr ensemble yn rheolaidd yn ystod yr wythnosau addysgu (rhwng Hydref a Rhagfyr a Chwefror a Mai fel arfer), naill ai yn ystod yr wythnos neu ar y penwythnos. Bydd yr ensemble yn agored i berfformwyr a myfyrwyr sydd â phrofiad stiwdio / technoleg cerddoriaeth. Bydd mynediad i'r grŵp trwy glyweliadau a gynhelir yn ystod wythnos ymrestru'r Brifysgol (yr wythnos olaf ym mis Medi), neu, yn achos myfyrwyr â chefndir stiwdio / technoleg, trwy gyflwyno portffolio. Disgwylir y bydd y grwpiau a ffurfir yn amrywio o ran fformat a chyfeiriadedd arddull fel sy'n briodol i'r myfyrwyr sy'n cymryd rhan a nodau addysgeg cyfarwyddwr yr ensemble. Bydd o leiaf un perfformiad yn digwydd bob blwyddyn.
Manyleb yr unigolyn:
Disgwylir yr cyfarwyddwr ysbrydoli, addysgu ac arwain grwpiau cerddorol. Dylai fod gan y Cyfarwyddwr yr hyblygrwydd a'r gallu i arwain myfyrwyr mewn ystod eang o arddulliau cyfoes, a dylai feddu ar sgiliau trefnu, cyfathrebu a sgiliau rhyngbersonol rhagorol. Dylai'r cyfarwyddwr hefyd fynegi gweledigaeth artistig ar gyfer Grŵp Cerddoriaeth Bop yr Ysgol Cerddoriaeth, ac arddangos gallu i gyfarwyddo'r Grŵp mewn modd sy'n hybu ac yn gwella addysg y myfyrwyr.
I wneud cais, anfonwch curriculum vitae, llythyr yn egluro ac yn manylu ar eich addasrwydd, ac enwau a manyllion cysyllt tri pherson a allai gynnyg geirda, gan nodi natur eich perthynas â nhw, i MusicOffice@cardiff.ac.uk cyn 5pm ar 30fed o Fehefin 2021. Gwahoddir ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer i glyweliad a chyfweliad a gynhelir ar y 19eg neu 20fed o Orffenaf. Y gyfradd fesul awr ar gyfer y swydd hon yw £65 a rhagwelir na fydd y swydd hon yn cwmpasu mwy na 60 awr yn y flwyddyn academaidd. Cynhelir arolygiad o’r ensemble a’i gyfarwyddwr ar ddiwedd y flwyddyn gyntaf. I gael mwy o wybodaeth am Brifysgol Caerdydd a'r Ysgol Cerddoriaeth, ewch i www.cardiff.ac.uk/cy/music.