Cydlynydd Trefnu Cyfryngau

Cyflog
£30,000-£32,000 y flwyddyn
Location
Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Oriau
Full time
Closing date
31.03.2025
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 20 March 2025

Mae’r S4C yn chwilio am Gydlynydd Trefnu Cyfryngau i ymuno a’r Tîm Cyhoeddi fydd yn gyfrifol am amserlenni ymgyrchoedd hyrwyddo ar-sgrin a chynnwys aml-blatfform S4C.

Byddwch yn amserlennu a darlledu asedau fel tréls, negeseuon hyrwyddo ac eitemau graffeg yn unol â’r flaenoriaeth marchnata a chyfathrebu S4C i ddenu diddordeb y gynulleidfa a chodi ymwybyddiaeth am ein cynnwys.

Mae’r swydd hefyd yn cynnwys cyfrifoldebau cydlynu ar draws yr adran gyhoeddi, gan gydweithio gyda’r adran gyfleu a gwasanaethau mynediad lle bo’r angen.

Mae’r gallu i gyfathrebu ac i weithio yn effeithiol yn y Gymraeg ac yn Saesneg ar lafar ac yn ysgrifenedig i safon uchel yn hanfodol ar gyfer y rôl yma.

Manylion eraill

Lleoliad:                 Lleoliad arferol eich gwaith fydd S4C, Sgwâr Canolog, Caerdydd. Fel rheol, bydd disgwyl i chi weithio o Sgwâr Canolog am 3 diwrnod yr wythnos. Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac rydym yn gweithredu polisi gweithio’n hybrid. Bydd gofyn ichi fynychu swyddfeydd S4C yng Nghaernarfon a Chaerfyrddin o bryd i’w gilydd.

Cyflog:                    £30,000-£32,000 y flwyddyn

Oriau gwaith:         35¾ yr wythnos. Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cytundeb:               Parhaol

Cyfnod prawf:        6 mis

Gwyliau:                 Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn.  Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.

Pensiwn:                Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.  

Ceisiadau

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Llun 31 Mawrth 2025 at Pobl@s4c.cymru neu Pobl a Diwylliant, Canolfan S4C, Yr Egin, Caerfyrddin, SA31 3EQ. 

Nid ydym yn derbyn CV.

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event