Cydlynydd Sector a Chynorthwyydd Adran (Mamolaeth)

Cyflog
£29,000 y flwyddyn
Location
Gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio o Ganolfan yr Egin, Caerfyrddin, neu o Sgwâr Canolog, Caerdydd.
Closing date
14.08.2025
Profile picture for user Swyddi S4C

Postiwyd gan: Swyddi S4C

Dyddiad: 23 July 2025

Yn S4C, rydyn ni'n cynnig mwy na dim ond swydd - rydyn ni'n cynnig y cyfle i fod yn rhan o sefydliad creadigol, dynamig, a chenedlaethol sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywyd diwylliannol Cymru. Fel Cydlynydd Sector a Chynorthwyydd Adran, byddwch yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi ein gwaith cynnwys a hyrwyddo cyflawniadau S4C yn y gwobrau a'r gweithgareddau, yn ogystal â gweithio'n agos gyda'r sector cynhyrchu.

Mae'r rôl hon yn ddelfrydol ar gyfer rhywun sydd yn drefnus, yn frwdfrydig, ac sydd â diddordeb mewn cyfryngau ac adloniant. Byddwch yn gweithio gyda thîmau ar draws y sefydliad a byddwch yn adeiladu perthynas â phartneriaid allanol, gan gyfrannu’n uniongyrchol at hyrwyddo rhagoriaeth a chreadigrwydd yn y diwydiant.

Rydym yn cynnig amgylchedd gweithio hyblyg ac uchelgeisiol, lle mae eich lles, datblygiad personol, ac ymddangosiadau yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr. Mae gennym werthoedd cryf - Ar eich orau, Balch o S4C, dathlu pawb, Cer Amdani - ac rydym yn chwilio am rywun sydd ag angerdd am weithio mewn ffordd gydweithredol, gadarnhaol, ac ymrwymedig i helpu i gyflawni ein gweledigaeth.

Dewch a bod yn rhan o'n taith.

Manylion eraill 

Lleoliad:                        Gall yr ymgeisydd llwyddiannus weithio o Ganolfan yr Egin, Caerfyrddin, neu o Sgwâr Canolog, Caerdydd. 

Cyflog:                  £29,000 

Cytundeb:                    9 mis  

Oriau gwaith:             35 ¾ yr wythnos.  Oherwydd natur y swydd, disgwylir hyblygrwydd, gan gynnwys gweithio tu allan i oriau swyddfa, ar rai penwythnosau a gwyliau banc. 

Cyfnod prawf:            6 mis 

Gwyliau:                        Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. 

Pensiwn:                       Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro.  Os byddwch yn aelod o’r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o’ch cyflog sylfaenol i’r Cynllun.  Disgwylir i chi gyfrannu 5%.  

Teithio:                   Bydd teithio achlysurol yn rhan o’r swydd, fel rheol o fewn y Deyrnas Unedig 

Ceisiadau  

Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar 14 Awst 2025 trwy llenwi’r ffurflen cais ar-lein.

Nid ydym yn derbyn CV. 

Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.