Cyfnod Penodol Contract Mai 2026. 0.75 o wythnos waith 35 awr (26.25 awr)
Mae WNO yn rhannu grym opera fyw a cherddoriaeth glasurol â chynulleidfaoedd a chymunedau ledled Cymru a Lloegr. Rydym ni'n lle creadigol ac ysbrydoledig i weithio, ac rydym yn cydnabod bod ein cydweithwyr yn chwarae rhan hanfodol yn symud ymlaen â'n prif flaenoriaethau strategol i gyflawni ein huchelgeisiau.
Y Rôl
Rydym yn chwilio am Gydlynydd Prosiect y Celfyddydau ac Iechyd dwyieithog. Bydd y rôl hon yn darparu amrediad o gydgorddi prosiect, cyfathrebu a chymorth 'ar y tir' ar draws ein rhaglen Lles gyda WNO ac yn bennaf ar ein rhaglen genedlaethol ar gyfer unigolion â chlefydau ôl-firws a chyfyngiadau ynni, a gefnogir gan fyrddau iechyd GIG Cymru.
Mae hon yn swydd cyfnod penodol sydd wedi ei hariannu gan gyllid Loteri'r Celfyddydau, Iechyd a Llesiant, Cyngor Celfyddydau Cymru, a bydd disgwyl i’r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau monitro’r KPI (monitro dangosydd perfformiad allweddol) a chyfrannu at gasglu data a gofynion adrodd drwy gytundeb ariannol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Beth fydd chi angen?
- Cynnal gweithdai Llesiant gyda WNO drwy zoom, a chyfarfodydd un i un i gyfranogwyr fel cynrychiolydd WNO a ‘gwesteiwr digidol’.
- Bod yn brif bwynt cyswllt i gyfranogwyr Cymraeg a Saesneg y prosiect, gan gynnwys ymdrin ag ymholiadau drwy e-bost ac ar y ffôn, trosglwyddo amserlenni, cyflwyno pecynnau croeso ac adnoddau eraill.
- Cyfrannu at gynllunio prosiect a logisteg y prosiect, gan gynnwys creu a chynnal cronfeydd data a chofrestri.
- Hyrwyddo recriwtio cyfranogwyr newydd ledled Cymru, a all elwa o’r rhaglen, ar-lein ac wyneb yn wyneb (gyda'r posibilrwydd o deithio ledled Cymru yn achlysurol).
Beth fydd angen i chi ei gael?
- Byddwch yn siaradwr a ysgrifennwr Cymraeg rhugl.
- Dealltwriaeth o ddiwylliant Cymru a sefydliadau celfyddydau sy'n gweithredu mewn cyd-destun lles.
- Profiad o weithio yn y celfyddydau a iechyd neu mewn lleoliadau sydd yn canolbwyntio ar y gymuned.
- Profiad o ddatblygu systemau a gweithdrefnau gweinyddol effeithiol.
- Sgiliau cyfathrebu a TG rhagorol.
- Hyblyg a rhyngweithiol; gweithgar ac egniol.
- Gallu gweithio ar eich menter eich hun yn ogystal â bod yn aelod o dîm.
Beth allwn ni ei gynnig i chi?
Cyflog Cystadleuol |
£25,055 y flwyddyn pro rata |
Gwyliau Blynyddol |
Mae gan gydweithwyr yr hawl i 25 diwrnod o wyliau blynyddol (pro-rata ar gyfer oriau rhan amser) bob blwyddyn wyliau lawn sy’n mynd o 1af Medi i 31 Awst. Mae gwyliau banc a chyhoeddus yn ychwanegol at hyn. Ar ôl 5 mlynedd, bydd eich gwyliau yn cynyddu i 28 diwrnod. |
Pensiwn |
Mae'r holl weithwyr yn cael eu cofrestru'n awtomatig ar Gynllun Pensiwn Rhanddeiliaid WNO (y "Cynllun") neu unrhyw gynllun pensiwn cofrestredig arall a sefydlir gan y Cwmni fel Cynllun Pensiwn Gweithle Cymwys, dri mis ar ôl ymuno â'r Cwmni, yn amodol ar fodloni meini prawf cymhwysedd penodol. |
Aelodaeth Campfa |
Mae'r holl weithwyr yn gymwys am y Cerdyn Corfforaethol Gweithredol a weithredir gan Gyngor Dinas Caerdydd sydd ar gael ar gyfradd is o 25% ac sy'n cynnwys cyfleusterau hamdden amrywiol ledled Caerdydd. |
Gostyngiadau |
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn cynnig gostyngiadau i breswylwyr mewn allfeydd dethol yn yr adeilad a bwytai dethol o amgylch Bae Caerdydd wrth gyflwyno cardiau adnabod. Cyfradd ostyngol gyda gwesty Future Inn yng Nghaerdydd. |
Gostyngiad Parcio Staff gyda Q Park |
Mae gennym gyfradd gorfforaethol gyda Q Park, Stryd Pierhead (gyferbyn â CMC). |
Rhaglen Cymorth i Weithwyr |
Rydym yn cynnig gwasanaeth cwnsela a chynghori cyfrinachol am ddim sydd ar gael i'n holl weithwyr, gweithwyr llawrydd a chontractwyr. |
Gwersi Cymraeg |
Rydym yn cefnogi staff sydd am ddysgu neu wella eu sgiliau Cymraeg, ac rydym yn cynnig gwersi Cymraeg sylfaenol a gwersi gloywi dewisol yn rhad ac am ddim. |
Os ydych yn chwilio am yr her nesaf, gwnewch gais heddiw. Croesawir ceisiadau yn y Gymraeg neu'r Saesneg fel ei gilydd.
Os hoffech gael sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl, cysylltwch â: Carys Davies ar carys.davies@wno.org.uk.