HYFFORDDWR A CHYDLYNYDD GWIRFODDOLWYR
Lleoliad : Trecelyn / gweithio hybrid yn bosibl
Statws : Cyfnod Penodol 1 flwyddyn
Oriau : 3 diwrnod yr wythnos (22.5 awr)
Patrwm Gwaith : Hyblyg
Cyflog : £23,800 pro-rata (£14,280 gwirioneddol)
Cefndir
Mae Sefydliad Glowyr Celynen a Neuadd Goffa (yn masnachu dan yr enw Newbridge Memo Ltd) yn elusen gofrestredig (Rhif elusen 1137112).
Wedi'i leoli yn Nhrecelyn yng Nghymoedd De Cymru, mae Newbridge Memo yn sefydliad hanesyddol i lowyr ac mae bellach yn ganolfan celfyddydau cymunedol amlbwrpas. Mae gennym lyfrgell, ystafelloedd darllen, ac un o'r enghreifftiau gorau o sinema art deco gyda neuadd ddawns a theatr fach. Mae'n gartref i nifer o denantiaid llawn amser, gan gynnwys Llyfrgell Trecelyn (Llyfrgelloedd Cyngor Sir Caerffili), Swyddfa Etholaeth leol Rhiannon Passmore a NONaffArt, cydweithfa gelf.
Mae'r Memo, gyda’i theatr 446 sedd art deco, neuadd ddawns a mannau cyhoeddus eraill, yn anelu at fod yn sefydliad celfyddydau / diwylliannol ffyniannus ac mae'r Bwrdd Ymddiriedolwyr a'r Tîm yn chwilio am berson sydd â'r weledigaeth a'r ysfa i gefnogi'r trawsnewid hwn wrth inni baratoi am ganmlwyddiant yr adeilad yn 2025.
Mae'r swydd hon wedi ei chynnig â chefnogaeth Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru
Prif bwrpas y Swydd
Mae gan Newbridge Memo dîm bach ond ymroddedig ac rydym am ychwanegu swydd ran-amser newydd gyffrous at ein tîm.
Gyda chyfrifoldeb am weithredu rhaglen wirfoddoli gadarn a gwerth chweil, bydd yr hyfforddwr a chydlynydd gwirfoddolwyr yn cydweithio ag eraill i sicrhau bod gwirfoddolwyr yn cyd-fynd â'n nodau sefydliadol, gan gyfrannu'n gyfartal at les y tîm gwirfoddol a phrofiad gwirfoddoli cadarnhaol. Bydd dull tîm cyfan o ddylunio a datblygu'r rhaglen yn sicrhau bod yr holl staff yn deall ac yn gwerthfawrogi'r prosiect, a fydd yn cyfrannu at y prosiect i sicrhau ei fod yn cyflawni ei nodau.
Bydd y rhaglen yn datblygu grwpiau cymorth cymheiriaid a rhwydwaith cefnogwyr gwirfoddol. Credwn y gellir defnyddio cymorth gan gymheiriaid I helpu gyda iechyd meddwl unigolyn a hefyd i i gefnogi pobl i feithrin eu sgiliau, eu hyder a'u gwytnwch eu hunain wrth weithio gyda grwpiau amrywiol gan gynnwys y rhai ag anableddau dysgu neu gorfforol, dementia, pobl hŷn, gofalwyr, plant a phobl ifanc a'r rhai ag iechyd meddwl gwael.