Rydyn ni’n gartref i’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn grochan o greadigrwydd i’r genedl gyfan. Rydyn ni’n tanio’r dychymyg drwy guradu cynyrchiadau teithiol arobryn o’r radd flaenaf – o sioeau cerdd i gomedi a dawns, cabaret a gŵyl ryngwladol. Rydyn ni’n meithrin doniau newydd gyda’n gweithiau ffres, pryfoclyd a phoblogaidd, wedi eu gwreiddio’n ddwfn yn niwylliant ein gwlad. Ac rydyn ni’n ennyn angerdd pobl ifanc dros y celfyddydau, gan roi iddynt gyfleoedd dysgu sy’n newid eu bywydau ac yn rhoi cyfle iddynt ddisgleirio.
Ni yw Canolfan Mileniwm Cymru. Tanwydd i’r dychymyg.
Fel Cydlynydd Gwisgoedd, eich prif rôl fydd delio gyda gofynion gwisgoedd cynyrchiadau sy’n ymweld â’r Ganolfan. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'r rheolwyr technegol i fodloni a darparu'r safon uchel o wasanaeth a ddisgwylir gan y cwmnïau sy'n ymweld.
Mae Canolfan Mileniwm Cymru yn gartref i amrywiaeth eang o gynyrchiadau teithiol blaenllaw, o sioeau cerdd, dawns, ac opera i gomedi, yn ogystal â chynyrchiadau rhyngwladol, digwyddiadau a chynadleddau. Byddwch yn rhan annatod o'r tîm sydd yn helpu i roi'r cynyrchiadau hyn ar waith.
Mae'r adran yn gweithio ar hyd a lled yr adeilad yn ogystal ag oddi ar y safle o dro i dro. Bydd disgwyl i chi helpu i gefnogi'r digwyddiadau hyn os oes angen.
Am fwy o fanylion am y rôl a fwy o fanylion am ein buddion staff cystadleuol, plîs ewch i ein wefan: https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/buddion-staff
Proses Ymgeisio:
- Ewch https://www.wmc.org.uk/cy/yr-hyn-a-wnawn/gyrfaoedd-a-swyddi/swyddi-gwag ac adolygu'r nodiadau canllaw i wneud cais am y rôl (mae'r ddogfen hon yn cynnwys Gwerthoedd Canolfan y Mileniwm).
- Llenwch y ffurflen monitro cyfle cyfartal.
- Adolygu'r Proffil Rôl ar gyfer y swydd a lawrlwytho ffurflen glawr y Ganolfan.
- Anfonwch eich CV a'ch Ffurflen Clawr wedi'i llenwi at recriwtio@wmc.org.uk
Rydyn ni’n croesawu ffurflenni cais yn Gymraeg. Os ydych chi’n ymgeisio am swydd yn y Ganolfan yn Gymraeg, ni fydd eich cais yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais sydd wedi’i gyflwyno yn Saesneg.