Mae Boom yn chwilio am Gydlynydd Cynhyrchu brwdfrydig, gweithgar a threfnus iawn o ganol mis Ebrill am 16 wythnos ar gyfer gyfres feddygol ffeithiol ar gyfer Channel 5. Bydd y rôl yn cynnwys 9 diwnrod o ffilmio ar leoliad yn Birmigham ar diwedd Mai.
Byddwch yn gyfrifol am helpu gyda trefnu teithio, llety, amserlenni ar gyfer nifer uchel o gyfranwyr, drafftio call sheets, prosesu treuliau a chwblhau gwaith papur ôl-gynhyrchu trwy Silvermouse a Cue.
Lleolir y cynhyrchiad yng Nghaerdydd ond mae’n bosib gweithio o adref rhan o’r wythnos. Croesawn geisiadau gan bobl sydd â phrofiad fel Cynorthwyydd Cynhyrchu yn ogystal â phrofiad fel Cydlynydd Cynhyrchu.
Danfonwch CV a llythyr cyflwyno at hr@boomcymru.co.uk gan nodi’r cyfeirnod Cydlynydd Cynhyrchu – Boom
Mae Boom Cymru yn gyflogwr cyfleoedd cyfartal ac yn croesawu pobl o safbwyntiau a chefndiroedd amrywiol. Rydym yn ymroi i adlewyrchu a chynrychioli’r amrywiaeth a geir yn y Deyrnas Unedig ymhob agwedd o’n gwaith.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom Cymru a chaiff y wybodaeth a gyflenwir ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a (Hysbysiad Preifatrwydd Boom Cymru). Byddwn yn cadw eich CV am 6 mis, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei ddileu yn gynharach