Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru: Cyfarwyddwr Artistig

Cyflog
£50-55,000
Location
Caerdydd
Oriau
Full time
Closing date
27.11.2020
Profile picture for user NDCWales

Postiwyd gan: NDCWales

Dyddiad: 19 October 2020

Mae Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru yn chwilio am Gyfarwyddwr Artistig gweledigaethol i arwain y cwmni wrth gyflawni ei genhadaeth i wneud dawns wych gydag ac ar gyfer pob math o bobl ym mhob math o leoedd a'n pwrpas craidd i greu rhaglenni sy'n atseinio gyda chymunedau amrywiol Cymru. Ein nod yw ennyn diddordeb mewn dawns gyda'r ystod ehangaf o hyrwyddwyr; adeiladu cynulleidfaoedd mawr, ehangach ar gyfer dawns.  

Rydym yn chwilio am arweinydd creadigol gyda gweledigaeth gymhellol, unigryw ar gyfer dyfodol y cwmni dawns gyfoes sefydlog hwn ac a fydd yn darparu arweinyddiaeth artistig ragorol. Bydd y Cyfarwyddwr Artistig yn curadu rhaglenni gwaith ysbrydoledig, gan ennyn brwdfrydedd aelodau'r cwmni, cynulleidfaoedd a chyfranogwyr mewn grym trawsnewidiol dawns. 

Yn gydweithredwr cryf, byddwch yn guradur dawns, cynhyrchydd creadigol, rhaglennydd, neu goreograffydd profiadol, neu'n dod o gefndir creadigol arall mewn dawns.

Mae hon yn swydd llawn amser barhaol wedi'i lleoli yng Nghaerdydd.

Cyflog £50-£55,000 y flwyddyn

Mae cyfiawnder cymdeithasol, cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd holl weithgareddau CDCCymru. Rydym yn ymroddedig i sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael cyfle cyfartal i gael mynediad i ddawns. Bydd CDCCymru yn ceisio sicrhau nad oes neb yn cael ei drin yn llai ffafriol oherwydd bod ganddo nodwedd warchodedig. Rydym yn annog ceisiadau yn arbennig gan bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y sector dawns, a chan y rhai sy'n profi gwahaniaethu oherwydd hil, hunaniaeth rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, statws priodasol, crefydd, cenedligrwydd, tarddiad ethnig, anabledd neu oedran. Rydym yn ymroddedig i gwrdd â gofynion mynediad; rhowch wybod beth sydd ei angen arnoch.

Am ragor o wybodaeth a phecyn ymgeisio mewn amrywiol fformatau, ewch i'n gwefan: https://ndcwales.co.uk/cy/en/about/jobs

Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais 10:00, dydd Gwener 27 Tachwedd 2020

Cofrestredig fel Cwmni Cyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, Rhif. 1672419

Elusen Gofrestredig yng Nghymru a Lloegr, Rhif. 326227