*Wedi gwerthu allan*
Yr haf diwethaf, fe agorodd tri man cydweithio creadigol yng Nghaerdydd - Rabble Studio, The Sustainable Studio a Tramshed Tech.
Mae'r tri lle yn wahanol iawn i'w gilydd, nid yn unig o ran eu lleoliadau ffisegol, ond hefyd o ran y bobl, y gweithgareddau a'r diwylliant a gynigir. Yr hyn sy'n gyffredin rhyngddynt yw eu hymrwymiad at ddod â'r gymuned greadigol ynghyd; creu cysylltiadau ac annog cydweithio.
Hoffai Caerdydd Creadigol eich tywys o ganolfan i ganolfan lle cewch y cyfle i gwrdd â'r bobl sy'n gyfrifol am y canolfannau, gweld y lleoedd a gynigir, dod i adnabod y bobl greadigol sy'n gweithio yno, a chael awyr iach wrth gerdded o un ganolfan i'r nesaf.
Lleoliadau:
· Rabble Studio, 4pm
· The Sustainable Studio, 5.30pm
· Tramshed Tech, 7pm
Dyma amserlen y daith y byddwn yn ei cherdded, felly cofiwch wisgo esgidiau cyfforddus a dillad sy'n addas ar gyfer y tywydd. Bydd sgwrs fer ym mhob canolfan a chynigir lluniaeth ysgafn.
Byddem wrth ein bodd pe gallech rannu eich taith ar Twitter drwy ddefnyddio #hubcrawlcc.
Cewch wybod rhagor am y canolfannau creadigol a'r lleoedd i gydweithio yng Nghaerdydd a'r ddinas-ranbarth yn ein hadnodd Caerdydd Creadigol.