Yn S4C, rydyn ni'n angerddol am greu amgylchedd gwaith positif, egnïol a chynhwysol sy'n adlewyrchu ein gwerthoedd craidd:
Ar Dy Orau, Balch o S4C, Dathlu pawb, Cer Amdani.
Chwerthin, deall, creu trwbl da! Mae Hansh yn wasanaeth cynnwys ar gyfer cynulleidfa 18 – 25. Yn un o brif frandiau S4C mae Hansh yn cyhoeddi cynnwys gwreiddiol ar draws nifer o blatfformau yn ddyddiol.
Fel Crëwr Cynnwys Digidol Hansh byddwch yn rheoli sianel YouTube Hansh, gan olygu cynnwys sydd yn gweddu at y platfform ac yn denu'r gynulleidfa darged. Byddwch yn perchnogi a chyfrannu at dôn llais y brand gan gymryd cyfrifoldeb am ystod o gynnwys ar y sianel YouTube ac ar gyfryngau cymdeithasol.
Mae'r rôl hon yn gofyn am gyfuniad o greadigrwydd, sgiliau technegol, a meddwl strategol i gynhyrchu fideos o safon, creu graffeg, a rhannu cynnwys sy'n ymgysylltu â'n cynulleidfa darged a chryfhau'r brand. Byddwch yn archwilio archif Hansh S4C ac ail bwrpasu cynnwys ar gyfer llwyfannau amrywiol digidol.
Bydd eich cyfraniad yn holl bwysig wrth i S4C drawsnewid i fod yn gyhoeddwr cynnwys aml-lwyfan.
Mae'r gallu i gyfathrebu yn rhugl yn y Gymraeg a Saesneg i safon dda yn ysgrifenedig ac ar lafar yn hanfodol ar gyfer y rôl.
Manylion Eraill
Lleoliad: Mae gan S4C swyddfeydd yng Nghaerfyrddin, Caerdydd a Chaernarfon ac maent yn gweithredu polisi gweithio'n hybrid. Disgwylir i chi deithio i le bynnag y bydd S4C yn rhesymol yn ei orchymyn.
Cyflog: £29,000 - £34,000 y flwyddyn
Oriau Gwaith: Bydd eich oriau gwaith arferol yn gyfanswm o 35¾ awr yr wythnos. Oherwydd natur y gwaith, efallai bydd angen i chi weithio yn ôl patrwm sifft weithredol. Felly byddwch yn gweithio yn wythnosol pum diwrnod allan o saith, yn unol â gofynion y gwasanaeth. Os oes angen i chi gweithio patrwm shifft mi fyddwch yn cael eich hysbysu o'r patrwm shifft o flaen llaw.
Cytundeb: Parhaol
Cyfnod Prawf: 6 mis
Gwyliau: Yn ychwanegol i'r gwyliau banc statudol, bydd gennych hawl i 26 diwrnod o wyliau gyda thâl y flwyddyn. Os ydych yn cael eich cyflogi yn rhan amser byddwch yn derbyn cyfran pro rata o'r gwyliau.
Pensiwn: Mae hawl gan staff cyflogedig ymuno â Chynllun Pensiwn Personol Grŵp yn ddarostyngedig i delerau unrhyw gynllun sydd mewn bodolaeth ac a ddiwygiwyd o dro i dro. Os byddwch yn aelod o'r Cynllun Pensiwn Personol Grŵp, bydd S4C yn cyfrannu 10% o'ch cyflog sylfaenol i'r Cynllun. Disgwylir i chi gyfrannu 5%.
Ceisiadau
Dylid anfon ceisiadau erbyn 12.00 ar ddydd Sul 15 Mehefin 2025 trwy lenwi'r ffurflen gais yma.
Nid ydym yn derbyn CV.
Ni fydd cais a gyflwynir yn Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynir yn Saesneg.