Comisiynau Artistiaid Caerdydd Creadigol

Cyflog
Naw comisiwn o hyd at £1000 yr un (cyfanswm y gyllideb, yn cynnwys deunyddiau ac ati)
Location
Cyngor Sir Casnewydd, Cyngor Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf
Oriau
Other
Closing date
02.02.2024
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 15 January 2024

Mae Caerdydd Creadigol, mewn partneriaeth ag Awdurdodau Lleol yng Nghasnewydd, Sir Fynwy a Rhondda Cynon Taf, am gomisiynu naw artist i gynhyrchu darn o waith ar y thema creadigrwydd lleol, cymuned ac arloesi.  

Mae'r cyfle hwn yn cael ei gynnig fel rhan o brosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol (CICH).

Gall gweithiau a gomisiynir fod yn amlddisgyblaethol ar draws amrywiaeth o gyfryngau creadigol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i: y celfyddydau gweledol, cerflunio, fideo, gair llafar/ysgrifenedig, tecstilau, perfformio, dawns, gosodiad ac ati.

Dylai ymatebion ystyried yr hyn y mae’n ei olygu i fod yn 'greadigol' yn un o’r ardaloedd Awdurdod Lleol partner. Dylent hefyd geisio cynnwys y gymuned mewn trafodaeth ynghylch rôl a phwysigrwydd ymarfer creadigol ar gyfer cymdeithas ehangach, yn ogystal ag ystyried yr hyn y gallai cymuned greadigol ffyniannus ei gyflawni yn y dyfodol ar gyfer lle, ac ar gyfer ei drigolion.

Rhaid i ymgeiswyr fod yn byw neu'n gweithio yng Nghasnewydd, Sir Fynwy neu Rhondda Cynon Taf. Rydym yn bwriadu comisiynu tri artist o bob ardal.

Cefndir:

Roedd Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn brosiect a gyflwynwyd gan Ganolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd, mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol Rhondda Cynon Taf, Sir Fynwy a Chasnewydd, wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC) a'r Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS). Mae'r gwaith hwn wedi canolbwyntio ar archwilio a threialu modelau partneriaeth newydd i greu tair canolfan brototeip a all sbarduno twf, cyrhaeddiad ac effaith yn y clwstwr. Mae hyn yn cefnogi dull mwy cynhwysol a democrataidd tuag at dwf y sector drwy greu cyfleoedd diriaethol ar lawr gwlad i dalent newydd mewn cymunedau yn y rhanbarth, ac adeiladu rhwydweithiau creadigol newydd sy'n cysylltu ystod eang o bobl greadigol ledled ardaloedd Sir Fynwy, Rhondda Cynon Taf a Chasnewydd.

Mae Caerdydd Creadigol bellach yn ymestyn y gwaith a gyflawnwyd yn ystod y cyfnod peilot gyda chyfres o hyd at naw cyfle comisiynu lleol ar draws yr Awdurdodau Lleol partner. Nod hyn fydd cyfleu hanfod prosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiant Creadigol a’i weithgareddau — sydd wedi canolbwyntio ar gysylltu artistiaid, cydweithio â'r gymuned ac arddangos pobl greadigol leol — mewn ffyrdd newydd diriaethol y gellir eu rhannu.

Ynglŷn â Chanolfan yr Economi Greadigol:

Lle i gynnal prosiectau ymchwil ac ymgysylltu y mae mawr eu hangen ac sy’n canolbwyntio ar y diwydiannau creadigol yng Nghymru yw Canolfan yr Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd. O fewn y Ganolfan, mae tair rhaglen waith benodol yn cael eu cyflwyno, Caerdydd Creadigol (a sefydlwyd yn 2014), Clwstwr (2018-2023) a Media Cymru (2022 — 2026). Mae gwaith Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol yn un o brosiectau etifeddiaeth Clwstwr, a reolir yn bennaf gan Dîm Caerdydd Creadigol.

Y Comisiwn:

Gwahoddir artistiaid ac ymarferwyr creadigol sy'n gweithio mewn ystod o gyfryngau ar draws yr Awdurdodau Lleol partner i ymateb i'r comisiwn hwn gyda'u syniadau am waith sy'n cofnodi a chyfleu stori am greadigrwydd lleol a chymuned sy'n unigryw i'w hardal.

Rydym am gomisiynu darnau amrywiol o waith a all gyflawni yn erbyn rhai neu bob un o’r amcanion canlynol: 

  • Cyfleu yn weithredol ac ystyrlon fywyd creadigol a threftadaeth yr Awdurdod Lleol, a'r bobl sy'n byw yno.
  • Adlewyrchu 'golwg a theimlad' a hunaniaeth unigryw cymunedau amrywiol yr Awdurdod Lleol.
  • Rhoi ymdeimlad o weledigaeth ar gyfer y dyfodol i gymuned leol sy'n cyflawni ei photensial yn y diwydiannau creadigol.
  • Dathlu’r amrywiaeth o weithgarwch sector creadigol sy'n ffynnu yn yr ardal.
  • Dangos beth yw ystyr bod yn berson creadigol i chi, naill ai fel preswylydd lleol neu rywun sy'n gweithio yn yr ardal.
  • Cysylltiadau i thema 'arloesi' yn y sector creadigol.

Drwy ddarparu naratif aml-bersbectif a gynhyrchir gan y sector ar greadigrwydd a'r diwydiannau creadigol ledled y rhanbarth, bydd y gweithiau a gomisiynir yn chwarae rhan annatod wrth helpu i ddatblygu a siapio gwaith prosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol ymhellach. Bydd hyn drwy ddathlu creadigrwydd a dod â chlystyrau creadigol a chymunedau lleol ynghyd

Beth fydd yn digwydd i'r gweithiau a gomisiynir?

Bydd Caerdydd Creadigol yn cofnodi ac yn dogfennu'r broses gomisiynu, a'r gweithiau a grëwyd, drwy gyfrwng ffilm. Bydd y ffilm wedyn yn rhan allweddol o’r gwaith o ledaenu'r prosiect, fel ysgogiad ar gyfer trafodaeth ynghylch rôl ymarfer creadigol yn eich ardal chi ac fel arddangosiad o gryfder a photensial clystyrau diwydiannau creadigol ledled De-ddwyrain Cymru. Caiff ei rannu'n eang drwy sianeli Caerdydd Creadigol, o fewn Awdurdodau Lleol, gydag arianwyr, a chyda'n rhwydwaith o bartneriaid a rhanddeiliaid yn y DU ac yn rhyngwladol.

Bydd gweithiau a gomisiynir hefyd yn cael eu harddangos yn lleol, lle bo hynny’n briodol ac ymarferol.

Fformat

Mae hwn yn gyfle comisiynu agored, amlddisgyblaethol.

Gallai'r cyfrwng creadigol ar gyfer artistiaid a gomisiynir gynnwys: y celfyddydau gweledol, cerflunio, cerddoriaeth, fideo, barddoniaeth, dawns, gair llafar ac ysgrifenedig, tecstilau neu arferion creadigol eraill. Sylwer nad yw hon yn rhestr gynhwysfawr.

Y broses ymgeisio

Gofynnwn i ymgeiswyr anfon cais byr atom, yn ateb y cwestiynau canlynol:  

  1. Dywedwch wrthym am eich ymarfer creadigol (200 gair)
  2. Dywedwch wrthym am eich gwaith creadigol blaenorol (e.e. comisiynau yn y gorffennol ac ati) gydag enghreifftiau (uchafswm o 300 gair)
  3. Dywedwch wrthym am eich syniad ar gyfer y comisiwn hwn, a sut mae'n ymwneud â phrosiect Canolfannau Clwstwr y Diwydiannau Creadigol, ardal yr Awdurdod Lleol, neu Brifddinas-Ranbarth ehangach Caerdydd (uchafswm o 500 gair).
  4. Esboniwch ym mha fformat y byddech yn bwriadu cyflwyno'r gwaith, a pham? 
  5. Rhowch enwau dau eirda y gallwn gysylltu â nhw i ofyn amdanoch chi a'ch gwaith.

Gall ceisiadau fod mewn fformat ysgrifenedig, neu fideo byr.

Gallai cyflwyniadau hefyd gynnwys darlun, dyluniad digidol, gwaith celf, neu arfer sy’n seiliedig ar ffotograffiaeth. Fodd bynnag, enghreifftiau yw’r rhain, ac nid yw'r rhestr hon yn cynnwys popeth. 

Dyddiad cau ar gyfer Cyflwyno Cais:

Anfonwch eich ceisiadau i creativecardiff@caerdydd.ac.uk gyda’r llinell pwnc 'Comisiynau Artistiaid CICH' erbyn Dydd Gwener 2 Chwefror 2024, 17:00. 

Amserlen

Gweithgaredd

Dyddiad cau

Dyddiad cau ar gyfer cynigion 

2 Chwefror 2024

Cyfnod asesu a dethol 

5 Chwefror — 9 Chwefror 2024 

Rhoi gwybod i’r artistiaid llwyddiannus  

15 Chwefror 2024

Gwaith celf i’w gwblhau erbyn 

28 Mawrth 2024

Lledaenu gwaith celf

Ebrill 2024

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event