CODI CYMRY CREADIGOL - RHAGLEN BLWYDDYN O HYD GYDA THÂL

Mae’r cwmni celfyddydol a theatr blaenllaw Fio, sy’n adnabyddus am hyrwyddo artistiaid o’r mwyafrif byd-eang, wedi dod ynghyd â’r ganolfan gelfyddydau adnabyddus, Canolfan Mileniwm Cymru, i lansio CODI CYMRY CREADIGOL. Bydd y rhaglen datblygu artistiaid blwyddyn o hyd gyda thâl, CODI CYMRY CREADIGOL, yn canolbwyntio ar gefnogi’r genhedlaeth nesaf o bobl greadigol ar ddechrau eu gyrfa o bob oed sy’n byw neu’n dod o bob rhan o Gymru.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 17 March 2022

Bydd y rhaglen yn anelu i gefnogi 10 cyfarwyddwr a 10 cynhyrchydd i gymryd y camau nesaf yn eu gyrfa. Bydd yr artistiaid yn cydweithio ar brosiectau drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys gŵyl yn Stiwdio Weston Canolfan Mileniwm Cymru. Bydd y cyfranogwyr yn cydweithio gyda chynllunwyr perfformiadau o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

ARISE flyer

Crëwyd CODI CYMRY CREADIGOL ar gyfer pobl greadigol ar ddechrau eu gyrfa dros 18 oed sy’n teimlo wedi’u tangynrychioli ar hyn o bryd ym myd y theatr a’r celfyddydau yng Nghymru. Mae’r rhaglen yn arbennig o addas i rywun sy’n uniaethu ag unrhyw grŵp â nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys ethnigrwydd, dosbarth, rhywedd, rhywioldeb, ac anabledd.

Meddai Sita Thomas, Cyfarwyddwr Artistig Fio: Yn Llundain, fe elwais i ar raglenni fel Rhaglen Cyfarwyddwyr y Young Vic a Chyfarwyddwyr Artistig y Dyfodol gan Up Next. Heb y mentrau yma fyddwn i ddim yn Gyfarwyddwr Artistig heddiw. Yng Nghymru, hyd y gwn i, does dim byd ar y raddfa yma wedi bodoli o ran Rhaglenni Datblygu ar gyfer Cyfarwyddwyr a Chynhyrchwyr. Mae’r ffaith ein bod ni’n talu cyfranogwyr yn ein gosod ni ar wahân i lawer o fentrau eraill. Rydw i’n llawn cyffro am ddyfodol byd y theatr a’r celfyddydau yng Nghymru, ac yn gwybod y bydd y rhaglen yma, a fydd yn parhau’n hirdymor gobeithio, yn gam pwysig yn ecoleg y sector, gan sicrhau ei fod yn dod yn fwy amrywiol a chynrychioliadol o’n byd cyfoes.

Meddai Emma Evans, Pennaeth Cynyrchiadau Canolfan Mileniwm Cymru: Rydyn ni wrth ein boddau o fod yn gweithio gyda Sita, un o’n Cymdeithion Creadigol, sydd wedi llunio rhaglen a fydd yn cefnogi artistiaid i ddod o hyd i’w llais a chreu lle iddyn nhw archwilio eu harfer. Rydyn ni’n creu carfan o unigolion a fydd, drwy ddysgu a thyfu gyda’i gilydd, yn cael eu grymuso i ffurfio dyfodol newydd a chyffrous.

Bydd y rhaglen yn rhedeg o fis Mai 2022 tan fis Mai 2023, gyda sesiynau’n cael eu cynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Mae ceisiadau nawr ar agor, a byddant yn cau ddydd Llun 4 Ebrill am 10yb. Mae manylion llawn am y rhaglen a sut i wneud cais ar gael yma: www.wearefio.org.uk/codi-cymry-creadigol.

Mae CODI CYMRY CREADIGOL yn bartneriaeth rhwng Fio a Chanolfan Mileniwm Cymru, gyda chefnogaeth gan Stage Directors UK, Stage One, Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, a Chylchgrawn Buzz.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event