Rydyn ni wedi colli'r cyfle i gwrdd, i gael CLONC a rhannu syniadau newydd! Arwyddair Caerdydd Creadigol yw cydweithio ac rydyn ni’n dechrau ystyried, o dipyn i beth, sut y gallwn ni wneud hynny wyneb yn wyneb unwaith eto.
Rydyn ni wedi trefnu rhai cyfarfodydd anffurfiol yn yr awyr agored mewn lleoliadau gwahanol o amgylch Caerdydd ac ar adegau gwahanol yn ystod y mis nesaf.
Dydd Mercher 13 Hydref, 11am - cychwyn yng Nghaffi Castan, Caeau Llandaf cyn mynd draw i gaffi Secret Garden, Parc Bute (yn gorffen am ganol dydd)
Dydd Gwener 15 Hydref, 12pm ganol dydd - cychwyn yng Nghanolfan Mileniwm Cymru cyn mynd draw i Bafiliwn Grange (yn gorffen am 1pm)
Dydd Mawrth 19 Hydref, 9.30am - cychwyn y tu allan i Milk & Sugar, sgwâr canolog cyn mynd draw i Brodies Coffee tu allan i Neuadd y Ddinas (yn gorffen am 10.30am)
Felly, os ydych chi'n berson creadigol sy’n byw neu'n gweithio yn y ddinas a hoffech chi gwrdd â phobl greadigol eraill wyneb yn wyneb, mae croeso mawr ichi ymuno â ni.
Ni fydd yn talu am y coffi/sudd/smwddis!
Byddwn ni yn yr awyr agored ac os gallwch chi gerdded rhwng y lleoliadau yna mae croeso ichi ymuno â ni ar daith gerdded. Fel arall, bydd digon o gyfle i ddal i fyny a chysylltu yn y mannau cychwyn neu ar y diwedd felly dewch i gwrdd â ni yn y naill le neu'r llall.
Mae croeso ichi ddod â'ch babanod, eich plant, aelodau'r teulu, ffrindiau neu ofalwyr gyda chi.
Gadewch inni wybod ydych chi eisiau inni ddarparu cymorth hygyrchedd megis cyfieithydd iaith arwyddion Prydain.
Os bydd hi’n bwrw glaw, byddwn yn gohirio’r digwyddiad tan ryw dro arall a byddwn ni’n rhoi gwybod ichi ar ein sianeli cymdeithasol – Twitter, Facebook, LinkedIn ac Instagram ddim hwyrach nag awr ymlaen llaw.
Does dim angen cadw lle - dim ond dod draw ar y diwrnod. Bydd angen inni gymryd eich manylion cyswllt ar y diwrnod at ddibenion olrhain. Peidiwch â dod os ydych chi'n teimlo'n wael, os oes unrhyw symptomau o COVID-19 gennych chi neu os ydych chi wedi profi'n bositif ar ei gyfer.
Os oes gennych chi gwestiynau neu bryderon, cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk neu drwy ffonio 02922 511597.