Ydych chi'n weithiwr llawrydd neu'n gyfarwyddwr unigol yn gweithio yn y sector sgrin yng Nghymru? Hoffem glywed gennych.
Galwad agored i gymryd rhan mewn ymchwil sy'n edrych ar effeithiau COVID-19 ar weithwyr y sector sgrin yng Nghymru.
Rydym yn gwahodd gweithwyr yn y sector sgrin yng Nghymru i gymryd rhan mewn prosiect ymchwil cenedlaethol sy'n edrych ar effeithiau COVID-19 ar y diwydiannau diwylliannol ledled y DU. Fel rhan o'r astudiaeth, rydym ni'n cynnal astudiaeth achos benodol i weithlu'r sector sgrin yng Nghymru. Drwy gymryd rhan, byddwch yn benthyg eich stori, eich profiad a'ch gweledigaeth i ymchwil fydd yn cynorthwyo'r rheini sy'n gyfrifol yn uniongyrchol am greu polisi diwylliannol yng Nghymru a'r DU. Gallwch ddysgu mwy am y prosiect a beth fydd yn ei olygu i gymryd rhan yma.
Ydw i’n gymwys?
- Rwy'n weithiwr llawrydd, yn hunangyflogedig, yn unig gyfarwyddwr cwmni cyfyngedig neu'n gyfarwyddwr micro-fenter; ac
- Rwy'n gweithio yn sector sgrin Cymru gan gynnwys animeiddio, ffilm, teledu, gemau, VFX, ymgolli, ôl-gynhyrchu, neu weithgareddau cysylltiedig.
Beth fydd hyn yn ei olygu?
- Cyfweliad awr dros Zoom
- £40 am wneud y cyfweliad
Sut gallaf gymryd rhan?
- Llenwch y ffurflen hon ac fe gysylltwn ni â chi
- Dyddiad Cau: 25 Chwefror 2021
Diolch am ddarllen hwn ac ystyried cymryd rhan yn y prosiect ymchwil. Edrychwn ymlaen at glywed gennych.
Pwy sy'n trefnu / ariannu'r ymchwil?
Cynhelir yr ymchwil ar y cyd rhwng y Ganolfan Gwerth Diwylliannol, Canolfan Polisi a Thystiolaeth y Diwydiannau Creadigol, yr Asiantaeth Cynulleidfaoedd a chonsortiwm o ymchwilwyr academaidd y DU ym maes rheoli diwylliannol. Mae'n rhan o astudiaeth fwy dros 15 mis a ariannwyd gan Ymchwil ac Arloesedd y DU (UKRI), ac a gyhoeddwyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau (AHRC). Cynhelir yr astudiaeth achos hon i weithwyr y sector sgrin yng Nghymru mewn cydweithrediad â Phrifysgol Caerdydd.