Am y bedwaredd flynedd yn olynol, mae’r Queer Emporium WIP Season yn dychwelyd, gyda nifer o ddigrifwyr a chomediwyr cwiar yn dod a’i ‘preview’ o’i sioeau llawn! Am yr ail sioe, dewch i weld gwaith newydd gan Priya Hall a Pravanya Pillay!
Mae Priya Hall yn gomedïwr ac ysgrifennwr. Mae wedi perfformio ar Comedy Central Live (Comedy Central), BBC Presents: Stand Up for Live Comedy (BBC One & Three), Live From Aberystwyth Pier (BBC One Wales and BBC Radio Wales), Fred At The Stand (BBC Radio 4), Machynlleth Comedy Showcase (BBC Radio Wales), Stand Yp (S4C) ac mae wedi ysgrifennu am Time of the Week (BBC Radio 4) a Bad Education (BBC). Creodd hi’r sioe Beena & Amrit am BBC Radio Wales.
Mae Pravanya Pillay yn gomedïwr ac ysgrifennwr. Mae Pravanya wedi serennu ar sioeau gan gynnwys ‘Asian Network Comedy ar BBC Three, Comedy Central’s Rhod Gilbert’s Growing Pains a chafodd ei henwebu am Wobr Chortle 'Best Newcomer Nominee' yn 2023. Mae wedi ysgrifennu am BBC Radio 4 (The Now Show, Best Medicine a TL;DR) a BBC Radio Wales (Beena & Amrit a Welcome Strangers).
Beth ydy WIP?
Mae WIP neu ‘work-in-progress’, yn sioe mae digrifwyr yn wneud i brofi deunydd newydd, cyn cyflwyno sioe terfynnol i gynulleidfaoedd ehangach.
Beth ydy WIP Season?
Pob dydd Iau, o ddiwedd Mai a thrwy gydol Mehefin, bydd dau gomedïwr o’r gymuned LHDTC+ yn dod a chipolwg o’i sioe derfynol i’r Queer Emporium! Medrwch brynu tocynnau am bob digwyddiadau yn unigol, neu bas sy’n caniatáu mynediad i bob digwyddiad am bris rhatach!