Canllaw gigs Caerdydd i arwain y ffordd

Minty’s Gig Guide - map cerddoriaeth fyw sy’n rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gigs Caerdydd i gefnogwyr cerddoriaeth leol – bydd yn cael ei ddiweddaru cyn Gŵyl Gerddoriaeth BBC Radio 6 a Gŵyl Ymylol, sy'n cael eu cynnal yn y ddinas am y tro cyntaf.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 23 February 2022

Fe gyhoeddwyd Minty’s Gig Guide yn 2017, pan benderfynodd Daniel Minty geisio rhoi gwybod i ffans cerddoriaeth lleol am gigs yn yr ardal, ac yn bwysicach fyth, ymhle’r oedden nhw’n digwydd. Mae Minty wedi bod yn cefnogi’r sîn gerddoriaeth leol yn y brif-ddinas ers blynyddoedd, ac fe sefydlodd y canllaw er mwyn helpu eraill i ddod o hyd i’r cyfoeth o ddigwyddiadau amrywiol sy’n cael eu cynnal ar hyd a lled Caerdydd.

Bydd y Gig Guide yn ddatblygiad o’r syniad gwreiddiol. Bydd map corfforol mewn arddull parc thema ar gael sy’n nodi’r lleoliadau cerddoriaeth yng Nghaerdydd yn ogystal â chanllaw digidol, rhyngweithiol tra bod yr ŵyl a’r Ŵyl Ymylol yn cael eu cynnal. Y cwmni lleol, Big Lemon, sy’n gyfrifol am y fersiwn digidol, ac fe fydd yn tywys ymwelwyr o le i le gan gynnig gwybodaeth am leoliadau, artistiaid a phryd maen nhw’n perfformio.


Wedi cyfnod cythryblus dan gyfyngiadau COVID-19, mae gobaith y bydd yr ŵyl yn ffenestr siop i sîn gerddoriaeth y brif-ddinas, gan adeiladu ar enw da Caerdydd fel dinas gerddoriaeth.

I Minty, mae’r canllaw yn rhan o wythnos gyffrous i’r brif-ddinas. Fe sefydlon ni’r Gig Guide i bontio’r bwlch rhwng lleoliadau a phobl, ond mae e’ wedi datblygu i fod yn gymaint mwy na hynny. Fe fydd y map hwn, sydd wedi ei greu gan ein dylunydd anhygoel ni, Jack Skivens, yn gymorth i bobl ymgysylltu â’r gerddoriaeth, gan wneud yr ŵyl, a digwyddiadau y tu hwnt i’r ŵyl, mor hygyrch â phosib.

Fe fydd y map newydd a’r canllaw rhyngweithiol ar gael o 21 Mawrth, a bydd y lansiad yn cael ei gynnal yn Tiny Rebel yng Nghaerdydd, lle bydd busnesau lleol, y wasg a rhai o wynebau blaenllaw’r diwydiant cerddoriaeth yng Nghymru yn ymuno â thîm Minty’s Gig Guide i nodi’r achlysur. Bydd gig am ddim yn Porter’s Caerdydd ar ôl y digwyddiad.

Fe fydd y canllaw ar gael ar https://www.mintysgigguide.co.uk , a bydd y mapiau papur ar gael mewn lleoliadau ar hyd a lled Caerdydd.

Ewch i gyfrifon @MintysGigGuide ar y cyfryngau cymdeithasol am y diweddara’.

Mae’r prosiect yn cael ei ariannu gan Cymru Greadigol, Caerdydd AM BYTH a’r hwb cyd-weithio o Gaerffili, Welsh ICE, lle mae Minty’s Guide Gig CBC wedi ei sefydlu.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event