Cam Creadigol Cyntaf- Rhyddhau EP am y tro cyntaf

Ar gyfer cyfweliad Cam Creadigol Cyntaf y mis hwn, buon ni’n siarad â Nyasha Chiketsani.

Yn ddiweddar, rhyddhaodd Nyasha ei EP cyntaf, sef Jamal, ac mae wedi siarad â ni am y broses o ysgrifennu a rhyddhau ei waith a’i dyheadau ar gyfer y dyfodol ym myd cerddoriaeth a phodledu.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 1 December 2023

Nyasha Creative First

Dywedwch wrthon ni amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol

Fy enw i yw Nyasha. Rwy’n artist hip hop ac yn Gristion. Mae pobl yn dueddol o feddwl na all y ddau gydfodoli, ond ces i fy magu i fod yn ffan o hip hop, a des i’n Gristion yn hwyrach yn fy mywyd, felly cyfunais i’r ddwy elfen yna yn fy mhersonoliaeth i greu fy ngherddoriaeth. Mae llu o artistiaid gwahanol megis Kendrick Lamar, J. Cole, Lecrae, Andy Mineo, DMX, wedi dylanwadu arna i. Rwy'n ceisio adlewyrchu fy nghredoau Cristnogol yn fy ngherddoriaeth, a bydda i’n rapio am bopeth ac yn ceisio peidio â chyfyngu fy hun.

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Y Cam Creadigol Cyntaf yr hoffwn i dynnu sylw ato heddiw yw fy EP cyntaf, Jamal. Dim ond dwy gân sydd arni; Jamal a The Touch.

Beth oedd yr her fwyaf yn y broses honno?

Yr her fwyaf yn fy marn i oedd gweld y dudalen wag cyn ysgrifennu. Rwy'n dueddol o gael hwrdd o weithgarwch, felly bydda i’n gorffen pennill un diwrnod ac yna’n cymryd amser hir iawn i ysgrifennu’r pennill nesaf. Roedd gweld y dudalen wag cyn ysgrifennu’r ail gân yn anodd iawn. Gorffennais y gân gyntaf, sef Jamal, cyn pen tua hanner awr, ond cymerodd y llall ychydig wythnosau o ymdrech i orffen.

Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau i bobl sydd eisiau gweithio yn y diwydiannau creadigol neu sydd eisiau ryddhau EP? 

Oes, rwy'n meddwl bod rhwydweithio'n bwysig iawn. Hynny yw, dod i adnabod pobl bwysig yn y maes ac yn y diwydiant.
Byddwn i hefyd yn dweud mai’n rhaid bod yn hyderus ac yn gyson yn eich crefft. Dydych chi'n mynd i fynd yn bell iawn os ydych chi'n creu yn achlysurol, mae'n rhaid i chi ymrwymo'ch hun iddo. Mae yna lawer o bobl yn ceisio gwneud yr un peth, felly dylech chi ystyried beth sy'n mynd i'ch gwahanu chi oddi wrth y dorf. Mae'n fater o fod yn gyson, rwy'n credu.

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Drwy fod yng Nghaerdydd ro’n i’n gallu cyrchu llawer o gyfleusterau gwahanol, ac rwy hyd yn oed wedi cyfeirio at lefydd penodol yng Nghaerdydd fel Cathays neu Barc Bute neu Barc y Rhath yn rhai o fy nghaneuon. Hefyd roedd mynd i Brifysgol Caerdydd a gallu rhwydweithio gyda phobl yno yn golygu gallu defnyddio llawer o gyfleusterau gwahanol megis stiwdios a chysylltu â chynhyrchwyr. Mae Caerdydd wedi bod yn hollbwysig.

Beth gallwn ni ei ddisgwyl gennych chi nesaf?                           

Cryn dipyn yn fwy o gerddoriaeth yn y dyfodol, siŵr o fod. Gallwch chi hefyd ddisgwyl podlediad gen i. Yn y podlediad, bydda i’n trafod hip hop trwy lens Gristnogol ac yn trafod y croestoriadau rhwng hip hop a chrefydd gan fod llawer o grefyddau yn bresennol yn hip hop. 

 

Instagram - @Nyasha.manasseh

Spotify - Nyasha Munashe

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event