Cam Creadigol Cyntaf: Gweithio fel llythrennwr arwyddion yng Nghymru

Ar gyfer eitem Cam Creadigol Cyntaf y mis hwn, buom ni'n siarad gyda'r dylunydd a'r llythrennwr arwyddion o Gaerdydd, Bruce Williams, sylfaenydd stiwdio dylunio creadigol Dim Problem. 

Bu Bruce yn siarad gyda ni am ei brofiad o weithio fel llythrennwr a dylunydd arwyddion yng Nghymru ar ôl symud o Fryste, gan sôn am sut mae wedi datblygu ac arallgyfeirio ei grefft. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 7 February 2024

Bruce from Dim Problem

Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol 

Cefais fy ngeni yng Nghaerfyrddin, mae fy mam yn seramegydd a fy nhad yn gerddor, felly doedd gen i ddim dewis ond bod yn greadigol!  

Cerddoriaeth oedd yn mynd â fy mryd wrth dyfu i fyny. Roeddwn i mewn bandiau ar y drymiau, ond roeddwn i'n gallu gweld nad oedd hyn yn yrfa felly pan es i i'r brifysgol penderfynais astudio graffeg. Yn ystod fy ngradd dechreuais luniadu a llythrennu llawer, heb syniad pam mod i'n ei wneud, ond fe ddaeth yn obsesiwn. 

Symudais i Fryste ar ôl y brifysgol a dechrau gweithio mewn bariau a thai bwyta a byddai'r perchnogion yn gofyn i fi "O, ti'n gallu tynnu llun, wnei di arwydd i'r drws cefn?" neu "Wnei di ysgrifennu'r fwydlen ar y bwrdd sialc yma?" felly dechreuais i wneud hynny. Daeth i'r pwynt lle'r oedd gen i gymaint o waith fel bod rhaid i mi ofyn am fwy o amser yn rhydd o'r gwaith yn barhaus! 

Tua'r adeg honno roeddwn i’n ymchwilio i arwyddion a llythrennu arwyddion a sylweddoli bod llythrennu arwyddion yn grefft, y gallech ei wneud gyda brwsys, yn defnyddio techneg briodol. Fe ddes i o hyd i ddylunydd arwyddion arall ym Mryste, y diweddar James Cooper, oedd yn berchen ar gwmni o'r enw Dapper Signs. Cefais gwrdd ag e a'i wylio'n paentio gyda brwsh, ac roedd fel gwylio hud. Cyn gynted ag i mi ei weld, roeddwn i'n gwybod mai dyma oeddwn i am ei wneud, ac rwy wedi bod yn ei wneud byth ers hynny. 

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly? 

Fy Ngham Creadigol Cyntaf yw symud i addysgu fy nghrefft mewn gweithdai. Mae'n agwedd mor bwysig o'r hyn rwy'n ei wneud gan mai pobl yn fy nysgu i oedd beth arweiniodd fi at yr yrfa hon yn y lle cyntaf. Yn y diwydiant hwn, mae pobl mor agored, felly roeddwn i'n benderfynol na fyddwn i fyth yn ochelgar ynglŷn â dysgu pethau i bobl. Os yw pobl yn awyddus i ddysgu, mae fy nrws i ar agor bob amser.  

Doedd addysgu byth yn rhywbeth roeddwn i'n gweld fy hun yn ei wneud, ond ar ôl arwain gweithdy i blant yn ysgol fy merch a dangos iddyn nhw bod modd cael gyrfa ddilys yn gwneud beth rwy'n ei wneud, roedd yn teimlo mor bwysig. Gweithiais hefyd gyda Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Caerdydd ar furlun ac roedd yn wych gweld y bobl ifanc yn rhoi cymaint ac yn dangos diddordeb yn y gwaith rwy'n ei wneud.  

Fyddwn i ddim yn y swydd yma pe na bai pobl wedi bod yn barod i fy nysgu i felly mae'n bwysig i mi fy mod yn gwneud yr un peth i lythrenwyr arwyddion y dyfodol.

Sign writer  

Beth oedd yr her fwyaf?  

Rwy'n credu bod fy swydd gyfan yn her, ond rwy'n mwynhau her! Yn y bôn, yr hyn rwy'n ei wneud yw datrys problemau i gleientiaid a'r busnesau rwy'n gweithio gyda nhw. Rwy'n gweithio gyda nhw i ddod o hyd i ateb, gan weithio ar eu delweddau allanol, eu bwydlenni ac unrhyw graffeg maen nhw'n ei ddefnyddio. Rwy'n edrych ar flaen siopau ac arwyddion ac yn y bôn yn eu helpu gyda golwg a naws eu busnesau. 

Un enghraifft arbennig o heriol oedd bwyty byrgyrs poblogaidd yn Hammersmith. Penderfynon ni baentio murlun sylweddol ar ochr yr adeilad, ac roedd hyn yn golygu cau stryd gyfan mewn rhan brysur o'r ddinas. Doedd hynny ddim yn syml ac roedd gofyn i ni drafod gyda'r cyngor. Weithiau mae'n rhaid gwneud pob math o bethau i gael y maen i'r wal, ond mae dyfalbarhad yn rhan allweddol o'r gwaith.  

Oes gennych chi awgrymiadau i unrhyw un a allai fod â diddordeb yn eich diwydiant? 

  1. Mae dyfalbarhad ac angerdd yn allweddol: Mae angen i chi gadw ati gan fod hon yn grefft sy'n datblygu dros amser, ond er mwyn parhau, mae gwir angen i chi fod â gofal am yr hyn rydych chi'n gweithio arno.  
  2. Fydda i byth yn gwybod popeth am fy nghrefft: Mae cymaint o dechnegau yn rhan o’r grefft, nid dim ond y ddalen aur a gwydr. Rwy'n credu bod y ffaith fy mod i wedi dod o hyd i rywbeth sy'n cynnwys dysgu diddiwedd yn rhywbeth rwy'n ei garu ac yn golygu fy mod yn cael fy ysgogi i ddatblygu fy nghrefft i fod y gorau y gallaf fod. 
  3. Mae ychydig o syndrom y twyllwr yn iawn, mae'n fy helpu i ddyfalbarhau a dysgu: Rwy'n dal i deimlo fel twyllwr bob dydd ac yn teimlo nad ydw i'n dda iawn ac na ddylwn i fod yn gwneud hyn. Nid fy nghleientiaid sy'n gwneud i mi deimlo fel hyn. Fi sy'n gwneud hyn. Rwy'n credu bod llawer o bobl greadigol yr un fath, yn teimlo nad ydyn ni'n arbennig o dda. Ond rwy hefyd yn gweld hynny fel ysgogiad. Os nad oes gennych chi hynny, rwy'n credu y gall fod yn anodd dyfalbarhau. Fel gweithiwr llawrydd neu unig berchennog busnes, os nad ydych chi'n gwthio'ch hun, does neb yn mynd i'w wneud ar eich rhan.  

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?   

Yn y cyfnod byr ers i mi fod yma, rwy'n credu bod y gymuned greadigol yng Nghaerdydd mor agored. Ac rwy'n credu bod hynny'n wir am Gymru'n gyffredinol. Mae'n teimlo bod pobl yn awyddus i chi lwyddo ac yn hoffi gweld pobl yn eu diwydiant yn llwyddo oherwydd gall olygu mwy o gyfleoedd a gwelededd i'r gymuned gyfan. Rydyn ni'n codi ein gilydd ac mae hynny'n rhannol am ein bod mewn dinas fach mewn gwlad fach, mae'r gymuned yn llai ond hefyd mor gefnogol, agored a dathliadol.  

Rhagor o wybodaeth am Stiwdio Dim Problem.

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event