Cam Creadigol Cyntaf: Ein cynnig cyntaf am brosiect mawr

Ar gyfer Cam Creadigol Cyntaf y mis hwn, buom yn siarad â chyd-sylfaenwyr Storm & Shelter, Nick Patterson a Gruff Vaughan. Mae Storm & Shelter yn gwmni cynhyrchu cynnwys yng Nghaerdydd, a sefydlwyd gan Nick, Gruff a Josh Bennett yn 2013. Erbyn hyn, mae 16 aelod o staff yn gweithio ar draws ymgyrchoedd creu cynnwys cenedlaethol. Yn y cyfweliad hwn, mae Nick a Gruff yn siarad am gyflwyno cynnig llwyddiannus yn 2015 ar gyfer eu prosiect cyntaf ar raddfa fawr, ac yn rhannu awgrymiadau a chyngor i eraill sy'n nesáu at y cam o geisio ennill  eu prosiect mawr cyntaf.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 4 January 2023

Storm and Shelter Creative Directors

Dywedwch wrthym amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol

Gruff: Dechreuais i yn y diwydiannau creadigol pan oeddwn i yn yr ysgol, yn gwneud posteri gwirioneddol ofnadwy ar gyfer gigs gyda Photoshop, ac yn gwneud ychydig o waith dylunio ar gyfer busnes fy nhad. Yna es i ffwrdd i'r brifysgol i astudio ffiseg ond newidiais fy meddwl ar y funud olaf a dewis gwneud rhywbeth creadigol, gan adael y cwrs i weithio i gwmni teledu yn Abertawe.  Yn y rôl honno, cefais gyfle i wneud llawer o waith ar Photoshop, fel datblygu gemau a gwefannau addysgol, felly wedyn es i ymlaen i weithio fel datblygwr gwefannau llawrydd tra hefyd yn gwneud gradd cynhyrchu cerddoriaeth ym Mhrifysgol De Cymru, a dyna lle cwrddais i â Nick. Er, doedden ni ddim o reidrwydd yn ffrindiau pan oedden ni’n astudio gyda'n gilydd, roeddwn i’n brysur yn gweithio'n amser llawn ac yn astudio, a Nick oedd clown y dosbarth.

Flwyddyn neu ddwy yn ddiweddarach, ar ôl i ni raddio, roedd Nick wedi aros i wneud gradd meistr ac roeddwn i'n brysur yn gwneud gwaith llawrydd, ac fe wnes i gwrdd â Josh, un o’n cyd-sylfaenwyr eraill, a daethon ni’n ffrindiau da. Ar y pryd, roeddwn i'n helpu fy nhad i sefydlu taith gerdded elusennol i godi arian ar gyfer Ambiwlans Awyr Cymru. Y flwyddyn gyntaf, fe wnes i’r gwaith brandio a ffotograffiaeth ar gyfer y digwyddiad fy hun, ond ar gyfer yr ail flwyddyn roeddwn i'n awyddus i wneud gwaith fideo. Roedd hynny’n gymaint o waith, fe wnes i benderfynu dod â Josh i mewn i wneud ychydig o ffilmio a golygu, ond doedd Josh ddim yn siarad Cymraeg a dyna pryd  cofiais am y boi yn y brifysgol a oedd wedi gwneud llwyth o waith golygu ar gyfer ei radd meistr ac a oedd yn siarad Cymraeg. Digwydd i mi weld Nick ar noson allan a chawson ni sgwrs am y gwaith.

Daeth y tri ohonon ni’n ffrindiau da yn ystod cyfnod y daith gerdded elusennol, yn codi am 6am, ffilmio drwy'r dydd tan 8pm ac yna digwyddiadau gyda'r nos, yna'r holl olygu, gweithio'n ddi-baid am wyth diwrnod. Roedden ni’n dal i ddod ymlaen yn dda iawn ar y diwedd, felly penderfynon ni ddechrau busnes, a ffurfiwyd o ganlyniad i brosiect a oedd yn llawn straen ond yn llwyddiannus.

Nick: I lenwi bylchau fy nghefndir creadigol, drwy gydol fy amser yn yr ysgol, roeddwn i a fy ffrindiau'n arfer recordio fideos dwl o’n hunain yn cael hwyl, ac roedden ni'n arfer ysgrifennu caneuon, fe wnaethon ni hyd yn oed greu albwm ym mlwyddyn 11, yn llawn caneuon comedi gwael iawn.

Es i i'r brifysgol i astudio technoleg cerddoriaeth ac, yn amlwg, dyna lle cwrddais i â Gruff. Yn ystod fy nghwrs, sylweddolais i nad oeddwn i’n siŵr a oeddwn i eisiau bod yn gynhyrchydd cerddoriaeth, ond fe wnes i radd meistr mewn cynhyrchu cerddoriaeth oherwydd ar y pryd roedd yn cael ei hariannu'n dda iawn. Meddyliais i, beth am ohirio bywyd go iawn am flwyddyn arall? Yn ystod fy ngradd meistr, roedd gen i brosiect chwe mis ar gyfer fy nhraethawd ymchwil a’r cyfarwyddiadau oedd 'gwnewch beth bynnag rydych chi eisiau, cyn belled â'i fod yn ymwneud â cherddoriaeth'. Fe wnes i gasglu fy holl ffrindiau o'r ysgol yn ôl at ei gilydd ac ysgrifennu llwyth o ganeuon, ac yna ffilmio a golygu fideos cerddoriaeth a oedd yn wirion bost. Ond roedd yr astudiaeth yn ymwneud â’r cyfryngau feirol a sut y gall artistiaid fanteisio ar dueddiadau i gael enw i’w hunain, sy'n ddoniol nawr oherwydd dyna’r norm erbyn hyn. Fe wnaethon ni bostio tri fideo ar y sianel a chael tua 500,000 o ymweliadau mewn saith wythnos, o unman yn ôl pob golwg. Aeth y prosiect hwnnw'n dda iawn, ac fe wnes i fwynhau golygu, ond doeddwn i byth o reidrwydd yn galw fy hun yn wneuthurwr ffilmiau, dim ond mwynhau’r elfen honno oeddwn i. Pan ddaeth y cyfle i wneud hynny fel gwaith amser llawn meddyliais i, ie - pam lai? Beth am roi cynnig a gweld sut mae pethau’n mynd?

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Ein Cam Creadigol Cyntaf yw cyflwyno ar gyfer ein prosiect mawr cyntaf ychydig flynyddoedd ar ôl i ni ddechrau'r cwmni. Roedden ni wedi gwneud llawer o waith ar raddfa lai cyn hynny, fideos cerddoriaeth yn bennaf, ond hwn oedd y prosiect pum ffigur cyntaf y gofynnwyd i ni wneud cyflwyniad ar ei gyfer. Roedd hyn yn drobwynt o ran twf Storm & Shelter ac o ran ein helpu ni i ddeall sut i fynd at ati i wneud gwaith ar y raddfa hon.

Credwch neu beidio, yr ebost olaf a anfonwyd gennym at y cleient cyn cael cynnig y prosiect oedd meme Michael Jackson ac ET! Roedd hyn yn dangos i ni eich bod chi’n gallu parhau i fod yn chi eich hun a llwyddo i gael y gwaith, ac y gall hynny mewn gwirionedd eich gwneud chi’n fwy tebygol o gael y gwaith os yw'n addas i chi. Yn amlwg, mae rhai sefyllfaoedd proffesiynol lle nad yw memes ac wynebau hapus yn addas, ond yn gyffredinol, rydyn ni’n annog pobl i beidio newid pwy ydyn nhw wrth geisio ennill prosiectau. Mae'n bwysig bod perthnasoedd â chleientiaid yn rhai addas a’ch bod yn deall eich gilydd.

Dangosodd hefyd i ni faint rydyn ni’n gwerthfawrogi perthnasoedd â chleieintiaid lle mae cysylltiad rhwng pobl, mae ysgrifennu cais i endid anhysbys yn teimlo mor amhersonol. Cwrdd â phobl, eu deall nhw, a deall yr hyn maen nhw am ei gyflawni, dyna beth sy'n bwysig ar gyfer cais llwyddiannus, ac i gynhyrchu gwaith sydd mor greadigol â phosibl.

Beth oedd yr her fwyaf?

Byddwn i'n dweud mai'r brif her oedd dysgu sut i werthu ein sgiliau a'n harbenigedd, yn enwedig yn y cyfnod cynnar pan oedd y broses o ysgrifennu cynigion ar gyfer prosiectau fel hyn yn rhywbeth newydd i ni. Roedd dysgu sut orau i ddangos ein profiad a'n sgiliau perthnasol mewn ffordd a oedd yn ennyn diddordeb y cleient ac yn dangos pwy yn union oedden ni yn gryn her. Er y gall syndrom twyllwr fod yn her, fe wnaethon ni geisio gadael i'r gystadleuaeth ein hysgogi ni, yn hytrach na'n dychryn ni. Mae angen i chi fod â hyder llawn yn eich gallu a bod yn barod i werthu eich hun a'ch addasrwydd ar gyfer y swydd, sy'n rhywbeth sy’n dod gyda phrofiad.

O ganlyniad i'r prosiect hwn, roedd gennym dystiolaeth o weithio ar rywbeth ar raddfa fawr i'w hychwanegu at ein portffolio ac roedd hyn yn ei gwneud yn llawer haws i geisio ennill prosiectau eraill o'r maint hwn. Roedd cael y darn o waith mawr cyntaf hwn yn allweddol er mwyn i ni dyfu fel cwmni a gweithio allan yn union sut i gyfrifo costau a lleoli ein gwaith.

Allwch chi rannu awgrymiadau i eraill sy'n agosáu at y cam o geisio ennill prosiect mawr

  1. Dangoswch eich profiad - gwnewch yn siŵr bod gennych bortffolio perthnasol o brofiad cyn cyflwyno cynnig ar gyfer prosiect. Mae angen i chi sicrhau bod gennych chi’r sgiliau y mae eich cleient yn chwilio amdanynt, a bod gennych chi ddigon o enghreifftiau o'r sgiliau hyn yn cael eu defnyddio.
  2. Byddwch yn angerddol — ceisiwch ennill prosiectau sy'n cyd-fynd â'r pethau rydych chi’n angerddol amdanynt, os nad ydych chi’n angerddol am brosiect, bydd ansawdd eich gwaith yn adlewyrchu hyn.
  3. Sefydlu eich brand - er eich bod yn aml yn creu cynnwys ar gyfer brand cleient, mae'n bwysig sefydlu eich brand a'ch tôn eich hun fel y gall pobl ddeall beth i'w ddisgwyl o'ch gwaith.

Wrth edrych yn ôl, a oes unrhyw beth y byddech chi wedi'i wneud yn wahanol wrth geisio ennill eich prosiect mawr cyntaf?

Yr unig beth y gallem fod wedi'i wneud yn wahanol yw gwella sut roedd ein cynnig wedi’i gyflwyno. Roedd yn ddu a gwyn, ac yn llawn testun. Erbyn hyn rydyn ni’n defnyddio sleidiau brand gweledol wrth gyflwyno cynigion a byddai’n dda pe byddem wedi gwneud yr un peth gyda'r un mawr cyntaf. Wedi dweud hynny, rydyn ni'n dysgu o hyd ac mae'n fater o roi cynnig ar bethau. Efallai y byddwch chi'n gwneud rhywbeth un ffordd a byth eisiau gwneud hynny eto, ond fyddech chi byth yn gwybod oni bai eich bod chi wedi’i wneud yn y lle cyntaf!

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Mae Caerdydd yn lle gwych ar gyfer cydweithredu, yn enwedig yn y diwydiant cerddoriaeth, a oedd yn rhan mawr o’n gwaith ni ar y dechrau oherwydd ein gradd a’r fideos cerddoriaeth roedden ni’n eu creu fel cwmni. Mae hefyd gymaint o bobl yma y gallwn ni weithio gyda nhw, mae gennych chi'r BBC yng nghanol y ddinas a nifer o Brifysgolion rydyn ni'n gweithio gyda nhw'n rheolaidd, yn creu cynnwys ac yn arwain/addysgu sesiynau ym Mhrifysgol De Cymru.

Gan ein bod ni'n dau hefyd yn siarad Cymraeg, mae gweithio ym mhrifddinas Cymru yn beth gwych i ni. Rydyn ni’n hoffi gweithio ar gynnwys dwyieithog gyda'n cleientiaid ac mae'n sgil ychwanegol gwerthfawr y gallwn ni ei gynnig drwy weithio yng Nghymru.

Dysgwch fwy am Storm & Shelter a'i waith.

Eich cynnwys mewn erthygl Cam Creadigol Cyntaf

Hoffech chi gael eich cynnwys mewn erthygl? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf (profiad mewn diwydiant am y tro cyntaf) i'w rannu gyda'n cymuned.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event