Cam Creadigol Cyntaf: Cyhoeddi fy nghasgliad cyntaf o farddoniaeth

Ar gyfer Cam Creadigol Cyntaf y mis hwn, siaradon ni â'r bardd, yr awdur straeon byr, gwneuthurwr ffilmiau a'r newyddiadurwr sydd wedi ennill gwobr BAFTA Cymru, Angela Graham. Yn y cyfweliad mae Angela yn trafod ei phrofiad o ysgrifennu a chyhoeddi ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth ac yn rhannu ei chyngor ag eraill sy'n awyddus i gyhoeddi eu gwaith.

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 12 January 2023

A picture of Angela Graham

Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol

Rwy'n dod o Belfast a symudais i fyw yng Nghaerdydd yn 1981. Roedd fy swydd gyntaf yng Nghaerdydd gyda HTV, y cwmni ITV yng Nghymru, yn gweithio fel ymchwilydd ar yr hyn roedden nhw'n ei alw'n 'raglenni cymdeithasol bwrpasol', gan ddefnyddio teledu yn y bôn fel offeryn addysgol ac adeiladu cymunedol. Ar wahanol adegau yn fy ngyrfa fe weithiais i'r holl ddarlledwyr daearol, gan greu dros 100 o raglenni dogfen a ffeithiol, cynhyrchu a chyd-ysgrifennu ffilm a gynrychiolodd DU yn yr Oscars ieithoedd tramor y flwyddyn honno.

Drwy gydol fy ngyrfa ddarlledu, rwyf i wedi bod yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd polisi mewn darlledu ac ers diwedd yr wythdegau, rwyf i wedi ymwneud llawer â datblygu polisi. Fi oedd cadeirydd yr Ymgyrch dros Deledu o Safon yng Nghymru am tua deng mlynedd, ac yn fwy diweddar fi oedd Cadeirydd Grŵp Polisi Cyfryngau'r Sefydliad Materion Cymreig (IWA). Yn ddiweddar dyfarnodd yr IWA Gymrodoriaeth i mi yn cydnabod cyfraniad pwysig at 'greu Cymru well'.  Yn 2017, cadeiriais Uwchgynhadledd Caerdydd y Sefydliad Materion Celfyddydol, a'r diwrnod nesaf dechreuais ar seibiant llwyr o ddarlledu ar ôl derbyn grant gan Lenyddiaeth Cymru i gwblhau casgliad o straeon byr. Doeddwn i ddim am gael seibiant am fy mod wedi diflasu gyda'r cyfryngau, ond am fy mod yn meddwl weithiau bod angen i chi ganolbwyntio'n llwyr ar un peth.

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly?

Fy Ngham Creadigol Cyntaf yw cyhoeddi fy nghyfrol gyntaf o farddoniaeth, casgliad o'r enw Sanctuary: There Must Be Somewhere. Mae ychydig yn anarferol oherwydd pan gefais y syniad o ysgrifennu ar thema Noddfa, teimlais ar unwaith nad oeddwn am ei wneud ar fy mhen fy hun oherwydd bod noddfa, yn ei hanfod, yn cynnwys o leiaf ddau berson; rhaid i rywun fod yn darparu'r noddfa i berson arall ddod iddo. Roeddwn i'n meddwl y dylai'r casgliad gynnwys yr agwedd groesawgar a lletyol honno ar noddfa hefyd. Gan fy mod yn byw yng Nghymru am ran o'r flwyddyn, ac yng Ngogledd Iwerddon am y gweddill, meddyliais y dylwn chwilio am ddau fardd ym mhob lle, a phob un â phrofiad o ryw agwedd ar noddfa.

Yng Nghymru, des i o hyd i Mahyar, brodor o Iran sydd bellach yn byw yma, a Phil Cope, ffotograffydd a hefyd awdur. Yna yng Ngogledd Iwerddon, des i o hyd i Viviana Fiorentino, mudwr economaidd o'r Eidal a Csilla Toldy, a ffodd o Hwngari gomiwnyddol i Ogledd Iwerddon. Cytunodd pob un i gyd-ysgrifennu cerdd gyda fi, sydd hefyd yn eithaf anarferol oherwydd gallwn i fod wedi gofyn iddyn nhw roi cerdd, ond meddyliais i na, beth am geisio bod yn agored gyda'n gilydd, ac fe brofodd yn brofiad hapus iawn i bob un. Gofynnais i'r bardd Glen Wilson, enillydd Gwobr Seamus Heaney am Ysgrifennu Newydd yn 2017, a fyddai'n fentor i mi, ac fe gytunodd a chyfrannodd gerdd i'r casgliad. Cymerodd tua 18 mis i ddod â'r cyfan at ei gilydd, ac fe'i cyhoeddwyd gan Seren yn 2022.

Beth oedd yr her fwyaf?

I mi, nid ysgrifennu oedd yr her fwyaf, ond deall sut i gael fy nghyhoeddi. Yn sgil fy ngwaith darlledu, roeddwn i'n deall sut i gael comisiwn, ond mae'r broses gyhoeddi mor wahanol. Mae cymaint o gystadleuaeth a chynifer o leisiau yn ceisio cynrychiolaeth, dyw'r agwedd honno ddim yn hawdd. Ond rydw i wastad wedi credu os ydych chi'n gwneud y gwaith a'i fod cystal ag y gall fod, mae gobaith y caiff ei gydnabod ar ryw adeg. Yn ffodus, derbyniodd Seren fy nghyfrol gyntaf, y casgliad o straeon byr, A City Burning, ar unwaith, felly roeddwn i'n lwcus iawn yn hynny o beth.

Fe wnes i fy ngorau i gyhoeddi straeon unigol cyn ceisio dod o hyd i gyhoeddwr ar gyfer fy nghasgliad o straeon byr. Gweithiais yn galed iawn ar gyflwyno gwaith i'w gyhoeddi, ar gyflwyno cerddi i'w cyhoeddi, ysgrifennu erthyglau papur newydd ac adolygu gwaith pobl eraill, sy'n beth da iawn i'w wneud yn fy marn i. Mae cael cyswllt agos â gwaith rhywun arall bob amser yn golygu bod rhywun yn dysgu rhywbeth ac mae'n ffordd o ddod i adnabod ysgrifenwyr eraill.

Allwch chi rannu awgrymiadau ag eraill sydd am gyhoeddi eu barddoniaeth?

  1. Gwnewch y gwaith cystal ag y gallwch ei wneud, mae popeth arall yn dilyn o hynny.
  2. Rhowch eich hun yn esgidiau'r darpar gyhoeddwr a darllenwch eich gwaith fel petai'n ddieithr i chi. Gofynnwch i chi'ch hun 'Pwy fydd eisiau darllen y gwaith hwn?', 'Beth fyddan nhw'n ei gael o ddarllen hwn? '

  3. Byddwch yn hael, gweithiwch gydag awduron eraill a'i wneud yn brofiad grŵp, gofynnwch am adborth ar yr hyn rydych wedi'i ysgrifennu a rhowch adborth pan ofynnir i chi. Bydd hyn yn ei wneud yn llawer mwy pleserus a gwerthfawr.

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf?

Mae Caerdydd yn edefyn sy'n rhedeg trwy fy ngwaith, rydw i wedi teimlo cysylltiad â'r lle ers amser maith, a phob amser wedi ei chael yn ddinas ddifyr a bywiog iawn. Rwy'n aelod o'r Writers Guild, a wastad wedi hoffi'r ymdeimlad o gymuned a ddaw yn sgil hynny, gan fy nghysylltu ag awduron eraill yn y ddinas. Helpodd grwpiau awduron yng Nghaerdydd fi i sylweddoli y gallwn gyhoeddi gwaith fel bardd, ar ôl synhwyro ymateb pobl yn yr ystafell a o'u hadborth a'u cyngor. 

Mae Caerdydd yn lle gwych. Mae'n faint gwych. Dyw hi ddim yn rhy fawr. Gallwch ddod i adnabod pobl. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu cwpl o gerddi am Gaerdydd gan fy mod yn frwd iawn am y lle!

Rhagor o wybodaeth am gasgliad barddoniaeth Angela, Sanctuary. 

A picture of Angela Graham cropped

Erthygl Cam Creadigol Cyntaf  

Hoffech chi gael eich cynnwys? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf (profiad mewn diwydiant am y tro cyntaf) i'w rannu gyda'n cymuned. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event