Cam Creadigol Cyntaf: Creu fideo cerddoriaeth am y tro cyntaf

Ar gyfer y Cam Creadigol Cyntaf y mis hwn, fe wnaethon ni gyfweld â'r artist, yr awdur a'r cyhoeddwr Derec Jones, a soniodd am ei brosiect presennol, sy'n cynnwys cynhyrchu a chyfarwyddo fideo cerddoriaeth am y tro cyntaf. Mae Derec yn sôn am ei yrfa amrywiol ac yn rhannu ei gyngor ar brofiadau creadigol cyntaf. 

Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Dyddiad: 20 April 2023

An image of Derec with a border and the Creative Firsts logo

Soniwch amdanoch eich hun a'ch cefndir creadigol 

Pan oeddwn i'n ifanc, doeddwn i ddim wir yn gwneud unrhyw beth creadigol. Cefais fy magu ar stad cyngor dosbarth gweithiol a doedd dim disgwyl i mi gamu mewn i unrhyw beth heblaw am ddiwydiant, gan mai dyna oedd y norm. Fe ddechreuais weithio fel prentis cyn penderfynu yn eithaf cyflym nad oeddwn i’n ei hoffi. Pan adewais fy rôl fel prentis, fe ddechreuais ysgrifennu barddoniaeth a chaneuon bach i mi fy hun, a phenderfynu symud i Lundain i weithio fel cynorthwyydd yn y diwydiant cerddoriaeth.

Ar ôl dod yn ôl i Gymru, rhaid oedd gohirio fy ngweithgareddau creadigol am 20 mlynedd gan fy mod i ddim yn neud digon o arian i fyw. Nid ei bod hi ddim yn bosib gwneud y ddau, ond ar y pryd doedd hynny ddim yn gweithio i mi. Wrth ddychwelyd yn ôl atynt, fe wnes i ddechrau ysgrifennu a mynd i ddosbarthiadau ysgrifennu creadigol, gan arwain at MA mewn Ysgrifennu Creadigol. Yn ystod fy MA, fe wnes i gyhoeddi llyfr o straeon byrion, gyda phawb ar y cwrs yn cyfrannu ato. Ers hynny, rydw i wedi ysgrifennu cryn dipyn, a hyd yn oed wedi actio, credu podlediadau a chynhyrchu fymryn.

Beth yw eich Cam Creadigol Cyntaf, felly? 

Rydw i wedi bod yn chwarae o gwmpas ar ymylon y diwydiant cerddoriaeth ers blynyddoedd lawer. Pan oeddwn i'n byw yn Llundain, roedd llawer o fy ffrindiau yn gerddorion felly, dros y blynyddoedd, rydw i wedi gweithio gyda llawer o fandiau a cherddorion proffesiynol. Yn ddiweddar, wrth i mi ystyried beth oeddwn am ei wneud yn y dyfodol, fe benderfynais fy mod i eisiau datblygu cwmni cynhyrchu cyfryngau. Fe rannais i’r cynlluniau hyn gyda ffrind, Nick Thomas Lynch, ac fe awgrymodd fy mod i’n cynhyrchu fideo cerddoriaeth iddo ef, sef fy Ngham Creadigol Cyntaf.

Fe anfonodd fy ffrind rai o'r caneuon y mae wedi bod yn gweithio arnynt yn Kings Road Studio (Pontcanna), a fe wnaethon ni ddewis y gan Never Be The Same i ganolbwyntio arni ar gyfer creu fideo cerddoriaeth. Y peth cyntaf wnes i oedd llunio drafft bras, bwrdd stori a meddwl am ddull adrodd stori a ffilmio. Fe wnes i gynnig syniadau yn seiliedig ar y gân, ac fe ddewisodd yr un yr oedd yn ei hoffi orau. Ers hynny, rydw i wedi datblygu ac ysgrifennu'r sgript ac rydyn ni'n symud i’r cam cyn-gynhyrchu ar hyn o bryd. Rydw i eisiau sicrhau ei fod yn gynhyrchiad proffesiynol, go iawn, felly rydw i hefyd yn edrych i ddod â phobl i mewn i weithio gyda mi.

Beth oedd yr her fwyaf? 

Er fy mod wedi gwneud llawer o bethau gwahanol, fel actio, sgriptio, a bod yn rhan o bob math o brosiectau ar wahanol lefelau, roedd gwneud fideo cerddoriaeth yn hollol newydd i mi, ac ro’n i'n ofni ychydig sut oedd pethau’n mynd i droi allan. Dwi'n caru cerddoriaeth, ond dydw i ddim yn rhywun sy'n gwybod llawer am gerddoriaeth, ac ro’n i'n eithaf nerfus am ei wneud yn iawn. Felly fe wnes i ddweud wrth fy hun, 'Mae'n rhaid i mi roi fy mhen i lawr, a rhagori arni, ac weithiau pan fyddwch chi'n gwneud hynny, mae'n clicio.

Ro’n i'n meddwl i ddechrau bod gweithio allan onglau'r camera yn rhywbeth brawychus, ond ar ôl llawer o ymchwil, fe ddes i ar draws fformat sgript seiliedig ar daenlen, sy'n dweud wrthych chi’n union pa ddelweddau sy'n digwydd pryd, a pha eiriau maen nhw’n cyfateb iddynt. Mae pob eiliad yn rhes ar y daenlen, gyda cholofn ar gyfer delweddau a geiriau. Fe gymerodd ychydig o amser i mi, ond cymerais y fformat hwnnw a'i addasu, felly mae'n gweithio i mi nawr.

Allwch chi rannu unrhyw air arall o gyngor i eraill sy'n gweithio ar fideo cerddoriaeth am y tro cyntaf?

  1. Peidiwch â gor-feddwl eich syniadau cyntaf – roedd y Beatles yn arfer creu geiriau nonsens dim ond i ddechrau arni – ac fe weithiodd hynny iddyn nhw! Os ydych chi'n syllu ar dudalen wag, cofiwch nad oes angen i'ch syniadau cyntaf fod yn berffaith, does ond angen iddyn nhw fodoli. Mae'r pethau hyn yn cymryd amser.
  2. Ceisiwch ganfod yn union pa fformat sy'n gweithio i chi – i ddechrau fe wnes i geisio ei ysgrifennu fel fformat sgript traddodiadol, ond fe sylweddolais yn fuan nad oedd hynny'n mynd i weithio ar gyfer fideo cerddoriaeth. Gwnewch eich ymchwil, dewch o hyd i ddull sy'n gweithio a'i addasu ar eich cyfer chi.
  3. Cofiwch greu bwrdd stori bob amser. Os ydych chi’n treulio digon o amser yn datblygu'r bwrdd stori hwnnw – bydd popeth arall yn disgyn i'w le.

Pam dewis Caerdydd ar gyfer eich Cam Creadigol Cyntaf? 

Ro’n i'n byw yng Nghaerdydd gyntaf ddechrau’r 70au, a doedden ni ddim yn gallu aros oherwydd o resymau yn ymwneud a'r teulu, felly fe symudon ni adref i Lanelli, ond ro’n i wastad eisiau dod yn ôl un diwrnod. Pan aeth fy mhlant i'r brifysgol, roedden yn ei weld fel cyfle i symud yn ôl ac rydw i wedi bod wrth fy modd ers hynny. Mae gan Gaerdydd egni arbennig, mae'n greadigol ac mae lle i bawb. Dydw i ddim yn gefnogwr chwaraeon, ond rydw i wrth fy modd yn gweld y ddinas yn dod yn fyw ar gyfer y rygbi, ac mae lle i hynny i gyd, ond mae dal lle i mi hefyd. Rydw i wrth fy modd â gwahanol ddiwylliannau, cymunedau, ac amrywiaeth y ddinas. Mae cymaint o wahanol leisiau a straeon, mae’n lle hyfryd i fyw, ac mae’n Gymreig.

An image of Derec on location

Erthygl Camau Creadigol Cyntaf  

Hoffech chi gael eich cynnwys? Cysylltwch â ni drwy ebostio creativecardiff@caerdydd.ac.uk os oes gennych chi Gam Creadigol Cyntaf (profiad mewn diwydiant am y tro cyntaf) i'w rannu gyda'n cymuned. 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event