Mae'n rhaid i'r cyllid Covid 19 brys sydd ar gael gan Gyngor Celfyddydau Cymru fynd 'at y rhai sydd ei angen fwyaf' er mwyn sicrhau bod artistiaid a sefydliadau yn goroesi'r argyfwng.
Dyma oedd neges y Prif Swyddog Gweithredol Nick Capaldi a'r Cadeirydd Phil George yn ystod eu sesiwn Holi ac Ateb byw gyda Chyfarwyddwr yr Economi Creadigol Sara Pepper.
Pan ofynnwyd iddo am eu Cronfa Ymateb Brys, dywedodd Nick: "Mae hyn yn ymwneud â rhoi sylw i angen ar unwaith - lle y gallai’r argyfwng neu'r anhawster ddod yn y dyddiau neu wythnosau nesaf. Rydym yn disgwyl gwneud y grŵp cyntaf o ddyfarniadau o fewn y dyddiau nesaf wrth inni ddechrau anfon yr arian allan.
"Un o'r negeseuon mwyaf heriol i'w cyfleu ar yr adeg hon yw ei bod yn bwysig iawn bod yr arian yn mynd i'r rhai sydd ei angen fwyaf. Byddai'n braf petai mwy o arian gennym, ond does dim. Rydym wedi gofyn i'r sefydliadau hynny sy'n gallu gwrthsefyll hyn a goroesi ar eu hadnoddau i wneud hynny, er mwyn cael yr arian allan i'r rhai sydd ei angen ar gyfer dim ond llwyddo i oroesi."
Wrth agor y sesiwn Holi ac Ateb, esboniodd Phil fod pawb yn 'byw gyda'r golled' i'r celfyddydau a achosir gan y 'newid seismig' hwn.
Dywedodd: "Yn syml mae'r holl brofiad ysgwydd ac ysgwydd hwnnw a chwsmeriaid yn talu y mae'r celfyddydau wedi dibynnu arno wedi diflannu. Mae'n her ddifrifol i ni i gyd yn ein lles a'n hiechyd meddwl ac i artistiaid a sefydliadau, mae wedi cael effaith ariannol. Mae ein pryder bob amser wedi bod ar gyfer sefydliadau ac ar gyfer artistiaid unigol.
"Mae llawer o unigolion yn gwbl amddifad o incwm, ar wahân i'r hyn a all ddod gan y wladwriaeth na fydd o bosibl yn dod tan fis Mehefin. Rydym yn wirioneddol bryderus amdanyn nhw."
Rhannodd Phil mai dull Cyngor Celfyddydau Cymru o weithredu yw lliniaru'r heriau hynny a rhoi manylion am y camau cyntaf a wnaethon nhw - sef tawelu meddyliau'r 67 o sefydliadau a ariennir trwy refeniw, a'r rhai sy'n derbyn arian prosiect drwy'r Loteri Genedlaethol, y byddai Cyngor y Celfyddydau yn cadw ymrwymiadau iddynt ac yn dileu holl amodau arferol y cyllid hwnnw.
Aeth ymlaen i esbonio: "Gyda'n pecynnau brys y peth cyntaf y bu'n rhaid i ni ei wneud oedd gweithio gyda Llywodraeth Cymru, ein prif randdeiliad sy'n darparu dwy ran o dair o'n hincwm, i gytuno ar elfennau o'r pecyn. Yna, bu'n rhaid inni gael trafodaeth aeddfed a chyson gyda'n Cyngor amdano.
"Nes ymlaen bydd angen i ni ymateb i anghenion sy'n esblygu ac felly mae'n rhaid i ni gadw gallu i wneud hynny.
"Erbyn hyn rydym yn symud yn gyflym iawn, a chredaf na fydd unrhyw ran o'r DU yn gyflymach na ni i gael arian drwy'r drws. Dydw i ddim yn credu ein bod ni'n araf yn gweithredu ar hynny o gwbl."
Gallwch ddysgu mwy am gronfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru yma. Gallwch gael cymorth i lenwi'ch cais drwy anfon e-bost at grants@arts.cymru.
Soniodd Nick am y Gronfa Ymateb Brys i Unigolion, a all ddarparu cymorth hyd at £2,500.
Dywedodd: "Fe benderfynon ni rannu'r Gronfa Ymateb Brys yn ddau gyfnod. Yn gyntaf, i unigolion a oedd mewn sefyllfa argyfyngus ar y pryd. Ac ail gylch ar gyfer y rheiny nad yw eu hanghenion yn llai dwys ond mae'n bosibl bod arnynt angen mwy o amser i nodi beth yw eu hanghenion penodol."
Mae'r Gronfa Sefydlogi ar gyfer Sefydliadau am chwe mis o gyllid hyd at £35,000. Mae'r gronfa sefydlogi ar gyfer unigolion, sy'n agor i wneud ceisiadau ar ddiwedd mis Mai, ar gyfer rhwng £1,000 a £10,000.
Meddai Phil: "Mae ar gyfer anghenion a phryderon am lif arian ar unwaith, ond mae yno hefyd i helpu i ddatblygu gweithgarwch yn y dyfodol. Y gwir amdani yw bod rhaid inni ei dyfeisio mewn ffordd a fydd yn ei wneud yn deg – ac i ateb yr angen mwyaf taer. Mae ein sefydliadau wedi bod yn sensitif iawn ac yn agored iawn am eu hawydd i gymryd rhan yn holl ecoleg hyn. Ddim i wneud ceisiadau pan fyddant yn gwybod bod eraill mewn mwy o angen."
Mae'r cysyniad o bawb sy'n gweithio gyda'i gilydd fel ecoleg yn un a wnaeth Nick a Phil ei grybwyll yn ystod y sesiwn Holi ac Ateb.
Meddai Phil: "Yn ystod y cyfnod hwn o ymyrraeth sylweddol gan lywodraeth a chanolog mewn gweithredoedd o achub ac argyfwng mae'n hawdd syrthio i'r syniad hwn fod gennym economi a lywir. Nid oes gennym economi diwylliannol a lywir. Mae gennym ecoleg.
"Mae gennym ni system o bartneriaethau gyda sefydliadau ac artistiaid ac maen nhw'n ffynhonnell i gymaint o arloesedd ac ymateb dyfeisgar. Fel y dywedodd Nick, nid oes gennym fonopoli ar ddoethineb. Dydyn ni ddim yno i ddweud wrth bobl beth i'w wneud - rydyn ni yno fel ffynhonnell o gydlyniant, cydgysylltiad a chyngor.
"Y berthynas â'r artistiaid a'r mudiadau yw gwaith beunyddiol ein swyddogion, gan bwyntio pobl yn gyson at y cynlluniau cywir ar eu cyfer a'r ffynonellau cymorth cywir ar eu cyfer."
Pwysleisiodd Nick ymrwymiad parhaus Cyngor y Celfyddydau i'w gynllun corfforaethol 2018-2023 – Er budd pawb.
Dywedodd: "Rydym yn dal yn awyddus i amlygu'r angen i'r celfyddydau a ariennir yn gyhoeddus ymestyn allan yn ehangach ac yn ddyfnach er mwyn gallu cysylltu â chynulleidfa lawer ehangach.
"I Gymdeithas sy'n ymfalchïo mewn lles a chenedlaethau'r dyfodol ac os ydym am gael gwlad deg, gyfiawn a phroffidiol sy'n gwerthfawrogi creadigrwydd ei holl ddinasyddion, byddwn yn gorfod rhoi'r math o strategaethau a phrosesau sy'n ymateb i hynny ar waith."
Wrth gloi'r sesiwn holi ac ateb, dywedodd Nick: "Mae'n rhaid i ni barhau i gredu yng ngwytnwch y celfyddydau. Bob amser yr artistiaid, ar adegau o argyfwng, sy'n ymateb gyda chreadigrwydd, dyfeisgarwch a haelioni."
Meddai Phil: "Mae pob un ohonon ni'n fwy ymwybodol o'n llesgedd dynol. Mae'r celfyddydau yn dod â ni yn ôl i hyfrydwch a llawenydd, a'r peth hwnnw sy'n ein gwneud yn bendant yn 'ni'.
"Ni fydd unrhyw ffurf ar gymdeithas a fydd yn dod allan o hyn yn fyw ac yn iach os na chefnogir y celfyddydau. Nid yw'r celfyddydau'n eisin ar y gacen nac yn rhywbeth ychwanegol. Maen nhw'n ganolog i les a chydlyniant ein cymdeithas."
Bu Nick a Phil hefyd yn ateb cwestiynau ar nifer o bynciau eraill gan gynnwys rhestr o ffynonellau cyllid amgen Cyngor Celfyddydau Cymru, mae parhad y Rhaglen dysgu creadigol drwy'r celfyddydau, sut y gellir datblygu gweithio'n ddigidol yn y celfyddydau ond ni fydd byth yn disodli celf gofod ffisegol, eu perthynas â Chymru Greadigol a'r penderfyniad i ohirio eu hadolygiad buddsoddi - y gallwch glywed mwy amdano yn y fideo uchod.
Bydd y digwyddiad Yng Nghwmni nesaf... gyda Pauline Burt, Prif Swyddog Gweithredol Ffilm Cymru Wales am eu cronfeydd a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer y rhai yn y sector ffilmiau yn ystod COVID-19. Ceir manylion yma.
Anfonwch unrhyw gwestiynau am eu cefnogaeth yn ystod COVID-19 at creativecardiff@caerdydd.ac.uk.
Mae ein rhestr o adnoddau am y cyfleoedd cyllido diweddaraf yn ystod COVID-19 i'w gweld yma. Rydym yn parhau i ddiweddaru'r rhestr hon mor aml â phosibl.
Gallwch wylio'r sgwrs gyntaf Yng Nghwmni gyda Chymru Greadigol am eu cronfeydd Teledu a Digidol Brys yma. Gallwch weld Sara Pepper yn sgwrsio â Rhodri Talfan Davies o BBC Cymru am eu cyfleoedd comisiynu yma.