Caerdydd Creadigol yn Fel Anifail gan Theatr y Sherman

Profile picture for user Alys Jones

Postiwyd gan: Alys Jones

Dyddiad: 13 October 2018

Wrth gerdded i mewn i Stiwdio glos Theatr y Sherman neithiwr (Hydref 13), roedd sîn gaeafol o’n blaen. Cerrig mawr yn eistedd ar gopa bryn gwledig Eryri. Set syml oedd, ond wnaeth cyfleu ofn yn syth; mynyddoedd uchel, unig, dywyll yn awgrymu bod stori sinistr o’n blaen.

Set Fel Anifail oedd hwn, cynhyrchiad gan gyfarwyddwr Jac Ifan Moore o ddrama Meic Povey, un o ddramodwyr Cymraeg mwyaf enwog, a wnaeth cymeradwyo’r cynhyrchiad hon ei hun cyn ei farwolaeth yn Rhagfyr 2017. Themâu sydd yn aml yn rhan o’i waith yw teulu, perthynas a gadael cartref, themâu sy’n rhan hanfodol o Fel Anifail, sydd ymlaen yn Theatr y Sherman tan Hydref 20. Mae hyn yn gyfle i weld perfformiad unigryw, emosiynol a phwerus yn agos.

Mae Fel Anifail yn gyfle i gofio pam fod Povey wedi’i edmygu cymaint. Gyda dau gymeriad yn unig, Mari a Defi, mae'r ddrama yn llwyddo i gyflwyno 70 munud llawn tensiwn ac ofn. Mae’r stori bach yn ddryslyd i ddechrau, sy’n dechneg effeithiol i’w adrodd; wrth i’r ddau cofio eu cyfrinachau daeth y stori’n gliriach. Nid yn unig yw’r stori wedi cyflwyno gan yr ysgrifenedig, mae sain (gan Sam Jones) a goleuo (gan Ceri James) yn hollbwysig i’r ddrama: maent yn cyfleu dicter, amser, cof a dychymyg. Yn ogystal â sain, roedd hollol distawrwydd wedi’i ddefnyddio ar adegau i gyfleu emosiwn amrwd.

Cyflwynodd Mari (Morfudd Hughes) a Defi (Wyn Bowen Harries) beth oedd yn fwy tebyg i gyfres o fonologau na ddrama, yn llawn tristwch, ddicter a’n weddol ddoniol ar adegau er mwyn ddynoli’r cymeriadau. Roedd bron yn bosib anghofio bod dau gymeriad yn unig gan ei fod nhw yn cyflwyno eu hatgofion bywiog, llwyddiant i’r actorion galluog. Trwy gydol y ddrama, edrychodd Mari a Defi heibio’r gynulleidfa, fel ni oedd y mynydd yn gwrando ar ei gyfrinachau marwol.

 

Actor profiadol yw Harries (Pobl y Cwm, Rownd a Rownd), wnaeth cyflwyno berfformiad credadwy ac ymrwymedig. Yn ei lais a’i gorff roedd emosiynau'r cymeriad yn amlwg. Mae o wedi bod yn rhan o sawl drama o gwmpas Cymru gan gynnwys Ffernol Lwcus (Theatr Bara Caws) a Porth y Byddar (Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Clwyd). Mae Hughes (Craith, Y Gwyll) hefyd yn actores adnabyddus, mewn sawl cynhyrchiad megis Te yn Y Grug (Theatr Bara Caws) a Chwalfa (Galeri). Llwyddodd Hughes i roi perfformiad arbennig o ddynes wedi’i arteithio gan y gorffennol.

Mae Fel Anifail yn ddrama felancolaidd, llawn dirgelwch, yn ddynol ond yn wyllt. Drama gymhleth, agored sy’n delio gydag unigrwydd, henoed a drwgdybio. Mae’n stori anghysurus sy’n wrthgyferbyniad i gefndir hardd y mynyddoedd. Yn ei galon mae Fel Anifail yn ddrama ddig, wedi’i nodi mor berffaith gan y cyfarwyddiadau llwyfan: mae Mari’n dechrau sôn am y gorffennol wrth wau, ond erbyn diwedd y ddrama, mae’n tynnu cig o esgyrn gydag yn dreisgar gyda’i chyllell.

Mae Theatr y Sherman yn ceisio cymryd rôl strategol yn yr ymgyrch i ddatblygu gwaith ardderchog Cymraeg trwy gomisiynu gwaith gan ddramodwyr Cymraeg newydd. Mae ei chwmni preswyl, Cwmni Pluen, yn ddwyieithog, ac mae’r ddau o ei Artistiaid Cyswllt, Dafydd James a Gary Owen, yn siaradwyr Cymraeg. Mae’r theatr yn gweld cryfder yn ddramodwyr Cymraeg ac mae'r ymrwymiad hon at yr iaith bwysig i hybu’r sector creadigol Cymraeg.

Mae uwchdeitlau Saesneg ymadroddus ar gael ymhob un o’r perfformiadau o Fel Anifail, felly gall dysgwyr a siaradwyr di-Gymraeg mwynhau’r cynhyrchiad hon hefyd. Mae cyfle i weld y sioe tan Hydref 20, pob noson am 7:15yh. Ar Hydref 16 mae sgwrs ar ôl y sioe, a fydd yn hynod o ddiddorol i wybod sut broses oedd creu’r cynhyrchiad hon. Gallwch archebu tocynnau i unrhyw berfformiad yma.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.