Mae Caerdydd Creadigol wedi ennill y Wobr Ddinesig gyntaf yng Ngwobrau Cardiff Life 2019.
Mae'r wobr yn taflu golau at gyfraniad sefydliad neu gwmni sydd wedi gwella Caerdydd eleni, gan wneud y ddinas yn lle gwell neu gan helpu eraill wneud hyn.
Dywedodd sefydlydd Caerdydd Creadigol Justin Lewis: "Dwi wirioneddol yn falch o'r tîm, Sara, Kayleigh a Beca, sy'n haeddiannol iawn wedi derbyn cydnabyddiaeth am eu hangerdd a'u haddewid i gefnogi economi creadigol Caerdydd.
Pan mi wnaeth yr Athro Ian Hargreaves a minnau gychwyn ar y gwaith yma yn 2014 roedden ni'n gobeithio y byddai'n tyfu, ymgysylltu a chael argraff ar y ddinas."
Dywedodd Cyfarwyddwr Caerdydd Creadigol, Sara Pepper: "Rydyn ni o hyd wedi bod yn ddifrifol iawn ynglŷn â'n huchelgeisiau i gydnabod Caerdydd fel canolbwynt creadigrwydd.
Mae'r wobr cyfraniad dinesig i Gaerdydd Creadigol yn wir hwb i'n gwaith ni, er mwyn a gyda'r gymuned greadigol."
Dywedodd panel beirniadu Cardiff Life, a oedd yn cynnwys arweinydd Cyngor Caerdydd Huw Thomas: "Anhygoel! Mae Caerdydd Creadigol yn dod a phobl ynghyd, gan gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau a rhoi creadigrwydd wrth galon bywyd dinesig. 2018 mawr sydd wedi cael gwir argraff."