Caerdydd Creadigol yn ennill Gwobr am Arloesedd drwy bartneriaeth

Profile picture for user Beca Harries

Postiwyd gan: Beca Harries

Dyddiad: 5 June 2019

Enillodd Caerdydd Creadigol wobr Arloesedd mewn Partneriaeth am ei ymagwedd at feithrin partneriaethau parhaus yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd 2019 yn Amgueddfa Cymru ddydd Llun 3 Mehefin.

Mae gan Caerdydd Creadigol, a lansiwyd yn 2015, 2550 o aelodau sy'n cynnwys cwmnïau, sefydliadau a gweithwyr llawrydd creadigol ar draws Rhanbarth Dinas Caerdydd. 

Sefydlwyd y rhwydwaith gan yr Athro Justin Lewis a'r Athro Ian Hargreaves o Uned Economi Greadigol Prifysgol Caerdydd drwy bartneriaethau gyda thri aelod sylfaen: BBC Cymru Wales, Cyngor Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru. Gosododd y partneriaethau hyn y sail ar gyfer ymrwymiad y rhwydwaith i gydweithio a thwf ar draws y ddinas. 

Yn ôl yr Athro Justin Lewis, cyd-sylfaenydd Caerdydd Creadigol, "Rydym wrth ein boddau o fod wedi ennill y wobr Arloesedd mewn Partneriaeth yng Ngwobrau Arloesedd ac Effaith Prifysgol Caerdydd eleni. Mewn tair blynedd a hanner, mae Caerdydd Creadigol wedi datblygu mewn difrif i fod yn gyfrwng er lles creadigol. Ein nod yw troi Caerdydd yn brifddinas creadigrwydd ac rydym wedi bod yn ymdrechu i wireddu'r nod hwnnw drwy alluogi cydweithio, ymhelaethu ar gyfleoedd ac annog arloesedd.

"Ein dyfarniad diweddar yw'r grant AHRC mwyaf i'r Brifysgol ei gael erioed, ac mae'n gosod Caerdydd Creadigol wrth galon arloesedd y diwydiant creadigol ac Ymchwil a Datblygu."

 

Dros y pedair blynedd ers cael ei lansio, mae Caerdydd Creadigol wedi curadu digwyddiadau'n llwyddiannus, datblygu presenoldeb cryf ar-lein gyda thudalennau swyddi a dilyniant bywiog ar y cyfryngau cymdeithasol, gweithio ar fentrau ar draws y ddinas gyda sefydliadau creadigol ar raddfa fawr a mapio economi greadigol y ddinas. Dyma hefyd oedd yn gyrru'r cais llwyddiannus ar gyfer cyllid Strategaeth Ddiwydiannol, Clwstwr, a sefydlodd dros 50 o bartneriaethau gyda darlledwyr a chwmnïau ar draws y diwydiannau creadigol. Mae'r cynnig yn gosod arloesedd, ymchwil a datblygu wrth galon y diwydiannau creadigol yng Nghaerdydd. 

We’re delighted to have won the @cardiffuni Innovation in Partnerships award at #CUII2019 awards with our founder members @BBCWales, @cardiffcouncil & @theCentre. As always, this is for the incredible Creative Cardiff community pic.twitter.com/Ti2g8Zq2EG

— CreativeCardiff (@CreativeCardiff) June 3, 2019

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Cyfarwyddwr yr Economi Greadigol, Sara Pepper: "Gwaith partneriaeth sydd wedi bod wrth galon popeth rydym ni'n ei wneud yn Caerdydd Creadigol. Mae'n anrhydedd cael ein cydnabod gyda'r wobr hon heno. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant a chynnes i'n partneriaid sydd hefyd yma heno: BBC Cymru Wales, Cyngor Sir Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru oedd oll yn aelodau sylfaen o Caerdydd Creadigol, ac rwy'n cofio'r sgyrsiau gyda phob un ohonyn nhw yn gynnar iawn ac roedden nhw'n credu gyda ffydd yn yr hyn roedden ni'n ceisio ei gyflawni... a phedair blynedd yn ddiweddarach, rydym ni yma o hyd ac yn cyflawni pethau rhyfeddol."

Roedd y gair olaf gan Caerdydd Creadigol yn deyrnged i bob aelod o gymuned greadigol fywiog y ddinas: "Rwy'n credu y dylem ni gyflwyno'r gydnabyddiaeth hon i'r 2500 o aelodau, unigolion a sefydliadau sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol i sicrhau bod Caerdydd yn ddinas gyffrous, fywiog a gwirioneddol greadigol - diolch yn fawr.”     

Roedd y 21ain Gwobrau Arloesedd ac Effaith yn arddangos arloesedd rhagorol gydag effaith fyd-eang. Roedd y gwobrau, a drefnwyd gan Rwydwaith Arloesedd Prifysgol Caerdydd yn dathlu pedwar enillydd: 

  • Gwobr Arloesedd mewn Partneriaeth  – 'Datblygu Caerdydd Creadigol – rhwydwaith wedi'i arwain gan Brifysgol Caerdydd ar gyfer y diwydiannau creadigol' Uned Economi Greadigol yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant ar y cyd â BBC Cymru Wales, Cyngor Caerdydd a Chanolfan Mileniwm Cymru.
  • Gwobr Arloesedd mewn Busnes - 'Rhagfynegi stocrestrau mewn cadwyni cyflenwi gwrthdro economaidd cylchol at ddibenion ail-weithgynhyrchu'. Bu'r cwmni o ogledd Cymru, Qioptiq yn gweithio'n agos gydag Ysgol Busnes Caerdydd i lunio dull newydd o ad-weithgynhyrchu a rhagfynegi galw.
  • Gwobr Arloesedd Cynaliadwy, - ‘Arddangosydd ynni adnewyddadwy / cadw amonia integredig cyntaf y byd.’ Prosiect o dan arweiniad Siemens ar y cyd â'r Ysgol Peirianneg, Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg UKRI a Phrifysgol Rhydychen gydag arian Innovate UK.
  • Gwobr Arloesedd mewn Gofal Iechyd - 'Cynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion awtistiaeth' - Bu'r Ysgol Seicoleg yn cydweithio â Thîm Datblygu Cenedlaethol ASD, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ddatblygu gwybodaeth gyfeirio. 

Aeth gwobr 'Barn y Bobl' a gyhoeddwyd yn y digwyddiad i'r categori Arloesedd mewn Gofal Iechyd am eu system sy'n helpu gweithwyr proffesiynol i weld arwyddion o awtistiaeth mewn plant. Gweithiodd ymchwilwyr o'r Ysgol Seicoleg gyda Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddatblygu SIGNS - acronym i helpu arbenigwyr llinell flaen i adnabod ymddygiad awtistig mewn plant. Ar ôl gweithio ar y system diagnosis hon yn ogystal â chodi ymwybyddiaeth o awtistiaeth ers 25 mlynedd, mae llwyddiant y prosiect wedi arwain at ei ddefnydd mewn hyfforddiant awtistiaeth ar draws y byd.    

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event