Mae Boom Social yn chwilio am Is-Gynhyrchydd Hunan-Saethu i ymuno â thîm cynhyrchu platfform digidol S4C - Hansh. Bydd disgwyl i’r ymgeisydd fod yn berson creadigol ac ymarferol gyda’r gallu i weithio i amserlen gynhyrchu brysur.
Bydd gan yr ymgeisydd ddealltwriaeth o greu cynnwys ar gyfer rhwydweithiau cymdeithasol fel Instagram, Snapchat, TikTok, Facebook, Youtube Shorts, ac ymwybyddiaeth o gynnwys cyfredol ar-lein. Yn ogystal â brwdfrydedd tuag at gynnwys socials a fideo ffurf fer, bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad a dealltwriaeth gref o saethu a golygu (Adobe Suite). Bydd gan yr ymgeisydd sgiliau ymchwilio, trefnu, amserlennu a chyfathrebu da.
Mae’r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol.
Mwy am Boom Social
Mae Boom Social yn creu ystod eang o gynnwys ar gyfer brandiau, cyrff blaenllaw a darlledwyr e.e. Hansh, S4C, BBC Three, BBC Sport, S4C, S4C Dysgu Cymraeg, BBC Cymru/Wales, BBC Ideas, Dŵr Cymru a Llywodraeth Cymru.
Mae’r adran yn cynhyrchu dros 750 darn o gynnwys yn flynyddol yn cynnwys ffurf fer, dogfennau ffurf hir, podlediadau a digwyddiadau byw.
Ymgeisiwch drwy yrru CV a llythyr atodol yn amlinellu eich profiad o saethu a golygu at hr@boomcymru.co.uk erbyn 5yh, Dydd Llun y 30ain o Fehefin.
Trwydded Yrru Lawn yn angenrheidiol.
Hyd y Cytundeb - 6 mis
Mae Boom yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu pobl â safbwyntiau amrywiol ac o gefndiroedd heb gynrychiolaeth ddigonol. Rydym wedi ymrwymo i adlewyrchu a chynrychioli amrywiaeth y DU yn ein holl weithgareddau.
Mae eich Data Personol yn bwysig iawn i Boom a bydd y wybodaeth a roddwch yn cael ei chasglu a’i phrosesu yn unol â Deddf Diogelu Data 2018 a Hysbysiad Preifatrwydd Boom (http://boomcymru.co.uk/en/polisi-preifatrwydd/).