Fy enw i yw Beth Blandford a defnyddiaf yr enw Blandoodles i gyflwyno fy ngwaith celf. Rwy’n creu gwaith celf digidol gan ddefnyddio fy iPad ac rwyf wedi cael fy nghomisiynu gan BBC Sesh, Mona Chalabi, a chylchgronau, unigolion a lleoliadau cerddoriaeth lleol.
Mae fy ngwaith yn canolbwyntio ar ferched yn defnyddio ac yn creu gofod. Ar gyfer y comisiwn hwn, fe es i ati i addasu’r syniad hwn i greu 4 delwedd yn cyfleu merched adnabyddus o Gymru yn mwynhau mannau poblogaidd yng Nghaerdydd.
Mae’r darluniau yn dangos Clwb Ifor Bach, Chapter, Canolfan Mileniwm Cymru a Phorth y Rhath. Mae’r merched dan sylw yn cynnwys Ruth Jones (fel Nessa wrth gwrs), Shirley Bassey, Cerys Matthews, Kizzy Crawford, Dina Torkia, Rosaleen Moriarty-Simmons, Charlotte Williams, Betty Campbell, Connie Fisher, Rakie Ayola, Joanna Page a Rungano Nyoni. Roeddwn i hefyd am lenwi’r golygfeydd â phosteri, llyfrau a manylion eraill yn cyfeirio at dalent fenywaidd ac anneuaidd o Gymru, cydfentrau celfyddydol, a sefydliadau pwysig sy’n rhoi hwb i hunaniaeth greadigol Caerdydd.
Drwy’r syniadau hyn roeddwn i am bwysleisio pa mor hanfodol yw mannau creadigol i greu ymdeimlad o le i Gaerdydd, fel prifddinas flaengar. Hoffwn i fyfyrio ar y bobl sydd wedi dangos sut beth yw dod o Gymru neu o Gaerdydd drwy eu creadigrwydd. Hoffwn i gyfleu’r angen i gydnabod, annog a chefnogi merched, grwpiau lleiafrifoedd ethnig, pobl ag anableddau, cymunedau LGBTQ, busnesau annibynnol a chynaliadwyedd er mwyn darganfod ffyrdd newydd o adeiladu cymuned greadigol Caerdydd. A hoffwn i gysylltu’r gwahanol rannau o’r gymuned hon yn y darluniau hyn er mwyn dangos bod pob rhan yn dibynnu ar ei gilydd ac yn llawer mwy cyfoethog o ddod ynghyd.
Disgrifiad clywedol wedi'i ddarllen gan Beth Blandford:
I wybod mwy am Alyson Henry a chrëwyr eraill y prosect Ein Caerdydd creadigol 2020, cliciwch yma.