Assistant Curator (Visual Art)

Cyflog
Cyflog: £27,248 (pro rata) – cyflog gwirioneddol £16,348.80
Location
Caerdydd
Oriau
Part time
Closing date
23.10.2025
Profile picture for user Chapter Arts Centre

Postiwyd gan: Chapter Arts Centre

Dyddiad: 22 September 2025

Contract: Tymor penodol o dair blynedd gyda'r posibilrwydd o estyniad (yn amodol ar gyfnod prawf o dri mis)
Dyddiad cau: Iau 23 Hydref, 5pm
Cyfweliadau: Dydd Llun 17 Tachwedd
Cyflog: £27,248 (pro rata) - cyflog gwirioneddol £16,348.80
Oriau: 24 awr yr wythnos (TOIL). Bydd rhywfaint o waith ar y penwythnosau a gyda’r nos yn angenrheidiol.
Lleoliad: Bydd yr ymgeisydd wedi’u lleoli yn y swyddfa yn Chapter, Caerdydd. Rydyn ni’n cynnig model hybrid sy’n golygu y gallwch weithio gartref hefyd pan fo’n bosib.

Diben y swydd

Bydd y Curadur Cynorthwyol (Celfyddydau Gweledol) yn gweithio gyda’r Uwch Guradur i wireddu rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch celfyddydau byw a gweledol yn ein canolfan, ynghyd â gwaith a gaiff ei gynhyrchu a’i gyflwyno mewn mannau eraill.

Bydd yn aelod allweddol o staff, yn cefnogi'r Uwch Guradur ym mhob agwedd ar ymchwil, paratoi, cyflwyno a chynhyrchu arddangosfeydd a'n rhaglen o sgyrsiau, digwyddiadau a rhaglenni ymgysylltu â'r cyhoedd drwy gydol y flwyddyn.

Bydd yn gweithio'n agos gydag aelodau eraill o'r timau curadurol, ymgysylltu a marchnata i sicrhau bod y rhaglen celfyddydau gweledol wedi'i hymgorffori yn y rhaglen aml-gelfyddyd ehangach ac yn cael ei chyfleu'n gydlynol i gynulleidfaoedd.

Rydyn ni wrthi’n gweithio i gynyddu amrywiaeth a chynhwysiant yn ein sefydliad, ac yn annog yn gryf geisiadau gan bob ymgeisydd sy’n bodloni gofynion y disgrifiad swydd.

Sut i wneud cais

Mae tair ffordd y gallwch wneud cais. E-bostiwch apply@chapter.org gydag un o’r dilynol:

  • Ffurflen gais wedi'i chwblhau, y gellir ei lawrlwytho isod
  • Fideo o ddim mwy na 5 munud (rydyn ni’n awgrymu lanlwytho gyda WeTransfer)
  • Anfonwch ffeil sain o ddim mwy na 5 munud aton ni (rydyn ni’n awgrymu lanlwytho gyda WeTransfer)

Bydden ni hefyd yn gwerthfawrogi pe bai modd i chi lenwi Ffurflen Monitro Cyfle Cyfartal. Mae’r wybodaeth ar y ffurflen fonitro yn ddienw, ac yn cael ei chasglu gan staff sydd heb gysylltiad â’r broses recriwtio.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.