Arweinydd Prosiect (Dysgu Creadigol trwy'r Celfyddydau)

Cyflog
£44,718 - £50,254
Location
Bae Colwyn
Oriau
Full time
Closing date
16.10.2025

Postiwyd gan: sarallewelyn

Dyddiad: 30 September 2025

Am Dysgu Creadigol 

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru'n cydweithio ar brosiect pwysig i wella ansawdd dysgu creadigol yn ysgolion Cymru.  Pennwyd rhaglen uchelgeisiol o weithgarwch yn Dysgu Creadigol trwy'r Celfyddydau  – cynllun gweithredu i Gymru. 

Pennodd y Cynllun strategaeth weithredu ar y cyd sydd wedi galluogi Cyngor y Celfyddydau a Llywodraeth Cymru i gydweithio i roi argymhellion adroddiad yr adolygiad o'r Celfyddydau mewn Addysg (Smith 2013) ar waith.  Mae'r rhaglen wedi cael ei chyflwyno'n llwyddiannus dros y 10 mlynedd diwethaf o 2015 i 2025 ac mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i barhau i weithio mewn partneriaeth â Chyngor Celfyddydau Cymru hyd at 2028

Am Arweinwyr Prosiect

Mae yna 8 Arweinydd Prosiect (gan gynnwys y swydd wag hon) a rhyngddynt maent yn cwmpasu amrediad y dyletswyddau a ddisgrifir yn y disgrifiad swydd. Maent yn gynorthwyo Rheolwr y Rhaglen wrth ddatblygu polisi a strategaeth mewn perthynas â’r rhaglen Dysgu Creadigol Cymru a’i chyflwyniad llwyddiannus. I gael disgrifiad llawn o ddyletswyddau a chyfrifoldebau, cyfeiriwch at y disgrifiad swydd. 

Amdanoch chi

Bydd gennych chi angerdd dros y celfyddydau ac addysg a’r weledigaeth i reoli a gweithredu mentrau sy’n datblygu rhaglen Dysgu Creadigol Cymru. Bydd angen i chi allu cyfathrebu’n dda a chydweithwyr â rhanddeiliaid a gweithio mewn perthynas â’r bydd Addysg, byd y Celfyddydau a/neu dysgu creadigol. Yn ddelfrydol, bydd gennych hefyd wybodaeth gadarn am dechnegau rheoli prosiect a dulliau sicrhau ansawdd. 

Yr Iaith Gymraeg

Rydym yn gweithio yn Gymraeg a Saesneg. Mae rhuglder yn y Gymraeg (yn ysgrifenedig ac ar lafar) yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Gallwn eich cefnogi chi i ddatblygu a gwella’ch sgiliau iaith.

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.