Swydd Wag: Arweinydd Hygyrchedd (parhaol: llawn amser neu 4 diwrnod yr wythnos)
Y Swydd
Rydym yn recriwtio ar gyfer Arweinydd Hygyrchedd ar hyn o bryd i gefnogi Actorion Hijinx sydd wedi’u cyflogi’n broffesiynol. Mae hwn yn gyfle gwych i ymuno â’r cwmni theatr prysur a chyffrous hwn a chael effaith gadarnhaol.
Bydd y Arweinydd Hygyrchedd yn rheoli gwaith gweinyddol yn ymwneud â mynediad, yn enwedig i’n Hartistiaid sydd ag anableddau dysgu ac Awtistiaeth, gan sicrhau eu bod yn cael y cymorth mynediad priodol i ffynnu yn eu swyddi fel gweithwyr creadigol proffesiynol.
Fel rhan o’n tîm gweinyddol, bydd y Arweinydd Hygyrchedd yn darparu’r cymorth sefydliadol hanfodol i gefnogi mynediad at ein holl weithgareddau ac yn cyflawni’r holl dasgau gweinyddol cysylltiedig mewn modd effeithlon ac amserol. Byddwch yn sicrhau y caiff ein holl gyfranogwyr eu cefnogi’n dda ac yn gysylltbwynt cyntaf ar gyfer unrhyw ymholiadau yn ymwneud â mynediad.
Cyfrifoldebau
Marchnata
- Cydweithio’n agos â thîm Hijinx i ddatblygu a chyflwyno cynlluniau strategol ar gyfer gweithgareddau marchnata, digidol a chyfathrebu/cysylltiadau cyhoeddus integredig i Hijinx.
- Darparu gweledigaeth greadigol a bod yn gyfrifol am ddatblygu brand Hijinx, gan sicrhau cysondeb ac aliniad hunaniaeth y brand ar draws ein gweithgareddau a’n hallbwn.
- Cydweithio â’r Swyddog Marchnata, gweithwyr llawrydd a chyflenwyr i reoli’r gwaith o greu, cyflwyno a gwerthuso ymgyrchoedd marchnata cymhellol ac ymatebol – gan gynnwys ysgrifennu copi, comisiynu dyluniadau a chynnwys, llunio a dosbarthu deunyddiau marchnata – sy’n cynyddu cynulleidfaoedd ar gyfer ein gwaith.
- Creu a chomisiynu cynnwys difyr ar gyfer ein platfformau digidol, gan gynnwys cylchlythyrau, cyfryngau cymdeithasol a’r wefan – gan eu defnyddio i adrodd hanes unigryw Hijinx a’n hactorion.
- Arwain ar gynlluniau datblygu cynulleidfa i dyfu ac amrywio ein cynulleidfaoedd.
- Cynorthwyo i hyrwyddo actorion Hijinx ar gyfer rolau yn y theatr, ffilmiau a theledu – gan gydweithio â’r Pennaeth Datblygu Busnes i ymgysylltu â’r diwydiannau theatr a sgrin ehangach.
- Cefnogi’r llif hyrwyddo a chleientiaid ar gyfer ein darpariaeth hyfforddiant cyfathrebu.
- Cynorthwyo i greu dogfennau sefydliadol allweddol, gan gynnwys yr adroddiad blynyddol a cheisiadau codi arian.
Y Wasg
- Meithrin a chynnal cysylltiadau cryf â’r wasg a’r cyfryngau, gan chwilio’n gyson am gyfleoedd i godi proffil ein gwaith.
- Cydweithio â thîm cyfan Hijinx a chymorth cysylltiadau cyhoeddus allanol, lle bo hynny’n berthnasol, i nodi cyfleoedd ar gyfer ymgyrchoedd yn y wasg a chysylltiadau cyhoeddus a chyfleoedd i adrodd ein hanesion.
- Nodi cyfleoedd i hyrwyddo ffyrdd cynhwysol o weithio a mwyhau lleisiau pobl ag anableddau dysgu a phobl awtistig.
Data A Rheoli Perthnasoedd  Chwsmeriaid (CRM)
- Cychwyn methodoleg casglu data, segmentu ac adrodd priodol a chyflwyno prosiectau ymchwil a gwerthuso cynulleidfaoedd yn effeithiol.
- Datblygu cronfeydd data’r wasg a CRM i ategu marchnata a chodi arian.
- Yn gyfrifol am gydymffurfio â GDPR ar draws y sefydliad.
Y Gymraeg, Cydraddoldeb, Amrywiaeth A Chynhwysiant, A Chynaliadwyedd
- Cefnogi a hyrwyddo defnydd teg o’r Gymraeg yn ein holl gyfathrebiadau.
- Arwain ar adolygu a datblygu Cynllun y Gymraeg yn flynyddol.
- Gweithio â chydweithwyr ar draws y sefydliad i gyflawni ein cynlluniau cydraddoldeb strategol a sicrhau bod ein gwaith marchnata a chyfathrebu yn hygyrch ac yn gynhwysol.
- Yn unol â’n Polisi Cynaliadwyedd, datblygu ac addasu marchnata i gadw at egwyddorion cynaliadwyedd a Llyfr Gwyrdd y Theatr.
Rheoli
- Ysgogi cynnydd gwaith marchnata a chyfathrebu yn erbyn targedau ac adrodd yn ôl i’r Prif Swyddog Gweithredol, y Bwrdd a chyllidwyr.
- Rheoli’r gyllideb marchnata, cyfathrebu ac ar-lein.
- Cynrychioli Hijinx yn allanol, gan fod yn llysgennad i’r sefydliad mewn digwyddiadau gyda’r cyfryngau a’n rhanddeiliaid ehangach.
- Bod yn rheolwr llinell a chefnogi’r Swyddog Marchnata yn ei (g)waith a’i (d)datblygiad proffesiynol.
- Rheoli cyflenwyr llawrydd a chontractau. Welsh Language, EDI & Sustainability
Rheolwr Llinell: Pennaeth Datblygu Busnes (Castio) / Rheolwr Cyllid
Hyd y contract: Rôl barhaol (cyfnod prawf o 6 mis)
Oriau: Llawn amser (37.5 awr / wythnos) neu rhan-amser (30 awr / wythnos) gyda rhywfaint o waith gyda’r nos ac ar benwythnosau, lle rhoddir amser i ffwrdd yn ei le
Lleoliad: Swyddfa Hijinx, Canolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd – gweithio hybrid ar gael
Cyflog: Llawn Amser £27,000 (37.5 awr / wythnos) neu Rhan-amser £21,600 (30 awr / wythnos)
Hawl i wyliau: 25 niwrnod o wyliau blynyddol yn ogystal â gwyliau banc statudol (pro rata ar gyfer rhan amser)
Amrywiaeth a Chynhwysiant
Os oes gennych unrhyw ofynion hygyrchedd, os oes arnoch angen unrhyw addasiadau rhesymol eraill, neu os hoffech gael y wybodaeth am y rôl mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni ar info@hijinx.org.uk
Cynllun Gwarant o Gyfweliad
Fel rhan o’n hymrwymiad i gynyddu amrywiaeth ein gweithlu yn Hijinx, rydym yn darparu Cynllun Gwarant o Gyfweliad i ymgeiswyr sy’n cael eu tangynrychioli ar ein tîm.
Gallwch ofyn am gael eich ystyried dan ein Cynllun Gwarant o Gyfweliad os ydych yn unigolyn o’r Mwyafrif Byd-eang neu os oes gennych nam corfforol neu feddyliol sydd yn cael effaith negyddol tymor hir ar eich gallu i wneud gweithgareddau dyddiol arferol. Ar yr amod eich bod yn bodloni’r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, sy’n cael eu nodi ym manyleb y swydd, fe’ch gwahoddir i gyfweliad. Dim ond gyda thîm Adnoddau Dynol Hijinx a’r rheolwr recriwtio y bydd eich cais am gyfweliad wedi ei warantu yn cael ei rannu. Os hoffech gael eich ystyried dan y cynllun, nodwch hyn yn eich llythyr esboniadol.
Recriwtio Dienw
Mae Hijinx yn gweithredu recriwtio dienw. Ni fydd y panel recriwtio yn gweld gwybodaeth bersonol fel enw a chyfeiriad yr ymgeisydd yn ystod y broses llunio rhestr fer.
Cwestiynau’r cyfweliad
Er mwyn sicrhau bod ein proses gyfweld yn hygyrch i’r gronfa ehangaf o ymgeiswyr, byddwn yn darparu fformat a chwestiynau’r cyfweliad i ymgeiswyr ymlaen llaw.
I Wneud Cais
Os ydych yn credu eich bod yn addas i’r rôl ac yr hoffech wneud cais, anfonwch y canlynol atom:
- CV cyfredol sy’n sôn am eich profiad gwaith hyd yma – gwnewch yn siŵr eich bod yn amlygu profiad, sgiliau a chymwysterau perthnasol. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
- Llythyr eglurhaol – nad yw’n hwy na dwy ochr – sy’n dweud wrthym pam yr ydych yn ymgeisydd delfrydol a sut byddwch yn mynd ati i gyflawni cyfrifoldebau’r rôl. Anfonwch hwn ar ffurf dogfen Word.
- Ffurflen Monitro Amrywiaeth wedi’i llenwi – y dylid ei llenwi ar-lein yma – cadarnhewch yn eich llythyr eglurhaol eich bod wedi llenwi’r ffurflen hon.
Dylid anfon ceisiadau at hr@hijinx.org.uk erbyn y dyddiad cau.
Bydd ceisiadau yn cau am hanner nos 17/01/24. Trefnir cyfweliadau ar gyfer yr wythnos sy’n cychwyn ar 29/01/24.
Darganfod mwy ar ein gwefan.