Mae Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yn dymuno penodi arweinydd ar gyfer y Gerddorfa Symffoni, a bydd y swydd yn cychwyn ym mis Hydref 2022. Byddai'r swydd hon yn addas ar gyfer arweinydd ensemble profiadol sydd â diddordeb yn y gwaith o annog datblygiad cerddorion ifanc.
Ysgol Cerddoriaeth Prifysgol Caerdydd yw un o'r ysgolion cerddoriaeth mwyaf mewn prifysgol yn y Deyrnas Unedig, gyda 70 o fyfyrwyr israddedig a 40 o fyfyrwyr ôl-raddedig ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd. Mae rhaglenni'r Ysgol yn cynnwys perfformio, cyfansoddi, dadansoddi, cerddoleg ac ethnogerddoleg, ac mae'n gosod pwyslais arbennig ar berfformio fel elfen hanfodol mewn addysg gerddorol sy'n cydbwyso ac yn cyfuno sgiliau ymarferol ac academaidd fel ei gilydd. Yn ogystal â sawl ensemble proffesiynol yn yr ysgol, mae'r Ysgol Cerddoriaeth yn annog ac yn cefnogi nifer fawr o ensembles dan arweiniad myfyrwyr sy'n cynrychioli ystod eang o draddodiadau cerddorol. Mae pob un o ensembles y brifysgol yn cyfrannu at nodau addysgol yr ysgol, ac rydym yn chwilio am gyfarwyddwyr ensemble sy'n dymuno cydweithredu ag aelodau academaidd o staff, cyfarwyddwyr ensembles eraill, a thiwtoriaid ymarferol gyda’r nod o roi profiad addysgol integredig i fyfyrwyr.
Mae Cerddorfa Symffoni Prifysgol Caerdydd (CUSO) yn un o Gerddorfeydd Symffoni mwyaf blaenllaw y DU i fyfyrwyr. Grŵp o tua 70 o chwaraewyr sydd wedi cael clyweliad yw’r Gerddorfa. Daw ei aelodaeth o lawer o ysgolion yn y Brifysgol, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i fyfyrwyr yn yr Ysgol Cerddoriaeth. Ar hyn o bryd mae’r gerddorfa’n ymarfer ar nos Lun yn semester yr Hydref a’r Gwanwyn rhwng 18:00 a 21:00. Mae’r gerddorfa’n rhoi un cyngerdd cyhoeddus y flwyddyn o leiaf mewn lleoliadau megis Neuadd Dewi Sant, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae wedi rhyddhau nifer o recordiadau CD sydd wedi cael eu canmol yn ogystal â chynrychioli’r Brifysgol ar deithiau rhyngwladol i Ewrop a Tsieina.
Disgrifiad o'r rôl
Arwain y Gerddorfa Symffoni, hyfforddi myfyrwyr o ran hanfodion ymarfer a chwarae mewn ensemble a pharatoi ar gyfer perfformiadau cyhoeddus. Datblygu cyfeiriad artistig ac addysgegol yr ensemble mewn ymgynghoriad â'r Cyfarwyddwr Perfformiadau, y Swyddog Gweithredol Perfformio ac Ymgysylltu ac aelodau perthnasol eraill o’r staff. Goruchwylio clyweliadau.
Manyleb yr unigolyn
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- Gryn brofiad llwyddiannus o fod yn arweinydd cerddorfaol
- Profiad helaeth o weithio gyda cherddorion sy’n fyfyrwyr
- Gwybodaeth a dealltwriaeth eang o’r repertoire cerddorfaol clasurol traddodiadol a chyfoes
- Gwybodaeth gadarn o dechneg offerynnol, ac yn ddelfrydol bydd ganddo radd uwch ym maes cerddoriaeth gyda’r pwyslais ar arwain cerddorfaol
- Y gallu diamheuol i ysbrydoli, hyfforddi ac arwain ensembles
- Personoliaeth hynod ddeniadol ac egnïol
- Sgiliau trefnu, cyfathrebu a rhyngbersonol rhagorol
- Y gallu i weithio'n effeithiol gydag aelodau eraill yn Nhîm Perfformio'r Ysgol
Dylai'r arweinydd feddu ar weledigaeth artistig ar gyfer CUSO a dangos y gallu i raglennu a pharatoi repertoire heriol a deniadol a fydd yn gwella addysg y myfyrwyr.
I wneud cais am y rôl hon, anfonwch CV, llythyr eglurhaol sy’n manylu ar eich addasrwydd ar gyfer y rôl, ac enwau a manylion cyswllt tri geirda, gan nodi natur eich perthynas â nhw, at Elin Jones (Swyddog Gweithredol Perfformio ac Ymgysylltu) drwy ebostio jonese159@caerdydd.ac.uk cyn 5pm ddydd Gwener 9 Medi 2022.
Caiff yr ymgeiswyr sy’n cyrraedd y rhestr fer eu gwahodd i glyweliad a chyfweliad a gynhelir ym mis Medi. Awrdal y swydd yw £69 a ni ddisgwylir iddo fod yn fwy na 60 awr mewn blwyddyn academaidd. Ar gyfer mwy o wybodaeth am Brifysgol Caerdydd a’r Ysgol Gerddoriaeth ewch i https://www.cardiff.ac.uk/cy/music.