Angen! Diwallu’r Angen! Cydweithio! nodiadau - - Mehefin 2021

Yn y bedwaredd sesiwn Angen! Diwallu’r Angen! Cydweithio! i gysylltu a chydweithio ar draws y gymuned greadigol, clywsom ni am yr holl gyfleoedd hyn. 

Zoom screenshot of attendees at the event

 

Profile picture for user Vicki Ball

Postiwyd gan: Vicki Ball

Dyddiad: 14 June 2021

Yn siarad yn y digwyddiad roedd:

  • Ar ran Collective Cymru, ymunodd Will Humphrey (Sugar Creative) â ni i rannu gwybodaeth a chymryd cwestiynau am y cyfleoedd cyfredol i ymuno â'r Tîm Prosiect. Darganfyddwch fwy am y chwe rôl a hysbysebir yma: https://collective.cymru/opportunities/

 

List of opportunities shared at collaborate event

Gallwch ddarganfod mwy am y ddau gyfle trwy ddilyn y dolenni uchod.

Ymhlith y cyfleoedd a rannwyd o'r gymuned roedd:

  • Mae ProMo-Cymru yn gweithio i sicrhau bod pobl ifanc a chymunedau yn cael eu hysbysu, yn ennyn diddordeb, yn cysylltu, ac yn cael eu clywed. Maen nhw'n cynnig cyngor, eiriolaeth a gwybodaeth ac yn awyddus i greu cysylltiadau rhwng pobl a gwasanaethau gan ddefnyddio creadigrwydd a thechnoleg ddigidol. Ceir rhagor o wybodaeth yma: https://www.promo.cymru/ neu ebostiwch nhw dean@promo.cymru

 

  • Mae Cooked Illustrations yn ymchwilio i sut y gall meddwl yn greadigol a chyfathrebu uno gwaith gyda chymunedau ac ystyriaethau cynaladwyedd (cynhyrchu bwyd trefol, permaddiwylliant, amaeth-goedwigaeth, bioamrywiaeth, ac ati). Maen nhw'n awyddus i sefydlu perthnasoedd cydweithredol gyda phobl yn unrhyw rai o'r meysydd hyn a gweld sut y gallai'r Pethau creadigol hyn weithio. Ewch i gael golwg yma: https://www.cookedillustrations.com/ neu anfonwch neges i cookedillustrations@gmail.com

 

  • Haf o Wên ym Mhafiliwn y Grange - gweithgaredd bob dydd dros wyliau'r haf gyda chyfanswm o 42 o weithgareddau. Gyda chyllideb o £100 i bob gweithgaredd ar gyfer ymarferydd a chyllideb fach ar gyfer deunyddiau, maen nhw am glywed gan unrhyw un a hoffai eu helpu i gyflawni gweithgareddau neu sydd ag unrhyw syniadau difyr ar eu cyfer. Cysylltwch â nhw: ThomasL90@caerdydd.ac.uk

 

  • Mae Caerdydd Creadigol yn curadu rhestr o leoedd y gall pobl greadigol eu llogi yn y ddinas. Os hoffech ychwanegu eich lle at y rhestr - ebostiwch Suttonv@caerdydd.ac.uk
Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.

Jess Networking at a Creative Cardiff event