Angen! Cynnig! Cydweithio!

04/03/2021 - 14:00
Ar-lein
Profile picture for user Creative Cardiff

Postiwyd gan: Creative Cardiff

Cysylltu a chydweithio ar draws y gymuned greadigol

Three people peer over a map

Cyfle misol ar-lein i drafod yr hyn mae’i angen arnoch chi boed unigolyn neu sefydliad creadigol a'r hyn y gallech chi ei gynnig ar gyfer prosiectau cydweithio creadigol newydd.

Dyma gyfres newydd o ddigwyddiadau gan Gaerdydd Greadigol i annog pobl i gydweithio. Byddwn ni’n tynnu sylw at gyfleoedd, cronfeydd, grantiau a phrosiectau yng Nghaerdydd, Cymru a’r tu hwnt gan ganolbwyntio ar gael effaith trwy gydweithio. Dyma'ch cyfle i gwrdd â phobl o'r diwydiannau creadigol a diwylliannol i hel syniadau, cynnig cymorth a meithrin eich rhwydwaith.

  • Ydych chi wedi gweld cyfle i gydweithio heb fod yn siŵr sut i fynd ati? Dyma ffordd reolaidd o ddysgu am gyfleoedd newydd a chwrdd â'r rhai sy'n ymwneud â nhw.
  • Ydych chi wedi meithrin medr neu brofiad mewn maes newydd yn ddiweddar? Dyma’r lle i drafod faint rydych chi wedi'i ddysgu.
  • Oes angen cyngor ar elfen o'ch gwaith, heb wybod ble mae’r cyngor hwnnw ar gael? Gallai rhywun yn y gymuned hon fod o gymorth.
  • Ydych chi'n sefydliad sy’n chwilio am bobl i’ch helpu i gyflawni rhyw brosiect? Mae modd ehangu’ch rhwydwaith gyda ni.
  • Ar y llaw arall, hoffech chi gwrdd â phobl sy'n ymwneud â sectorau neu feysydd creadigol gwahanol? Mae croeso i bawb, a does dim gofyn ichi siarad na chyfrannu os nad ydych chi am wneud hynny.

Ymhlith y cyfleoedd dan sylw y mis hwn mae:

  • Mae Carys Wynne Morgan (Cyngor Celfyddydau Cymru) yn cynnig gwybodaeth am rownd ddiweddaraf cronfa Cysylltu a Ffynnu’r cyngor.
  • Bydd Ollie a Piotr (tîm ymchwil dylunio ac arloesedd Prifysgol Fetropolitan Caerdydd) yn rhoi rhagor o wybodaeth am User-Factor – cyfle i gwmnïau bychain a chanolig eu maint fanteisio ar gymorth dylunio yn rhad ac am ddim dros 5 – 8 diwrnod ynghylch unrhyw brosiect sy’n addas i’ch cwmni. Gallai fod ar ffurf llunio gwasanaeth, ymchwil i farchnadoedd neu ddefnyddwyr, gweithdai arloesi a dylunio neu fathau eraill o gymorth dylunio sy'n canolbwyntio ar y defnyddiwr.

Pan ymunwch chi, nodwch unrhyw anghenion megis Iaith Arwyddion Prydain neu adroddiadau lleferydd i destun fel y gallwn ni eu diwallu. Rhowch wybod inni am ffyrdd eraill o hwyluso hygyrchedd ichi trwy anfon neges at: creativecardiff@caerdydd.ac.uk.

Cadwch eich lle yma: https://cardiff.zoom.us/meeting/register/tZwvcuuhqT0jHtQ67Z8621MdSGLsiRcqGeI3

 

Cyfeiriadur rhwydwaith

Ymunwch â'r rhwydwaith

Creu proffil cyfeiriadur i rannu eich gwaith ac i gysylltu a chydweithio â phobl greadigol eraill.